Gyda chyrsiau’n amrywio o gofnodi ariannol a ffurflenni TAW i gynllunio a marchnata busnes, ac o iechyd anifeiliaid a rheoli cnofilod i ddefnyddio peiriannau - mae'n bosib iawn bod cwrs hyfforddiant ar gael a all eich cynorthwyo i wella'ch ffordd o weithio neu reoli eich busnes.

Os ydych wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, mae eich cyfle nesaf i ymgeisio am gymhorthdal hyd at 80% ar gyfer cyrsiau hyfforddiant achrededig byr yn cychwyn am 09.00 fore Llun 6ed Mawrth ac yn dod i ben am 17.00 ddydd Gwener 31ain Mawrth 2017. 

Mae rhaglen dysgu a datblygu gydol oes Cyswllt Ffermio, a ddarperir gan Lantra Cymru, eisoes yn cynorthwyo i drawsnewid sgiliau ac arbenigedd unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant ledled Cymru.   Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, bod targedau ar gyfer ambell elfen o'r rhaglen hyfforddiant eisoes yn mynd tu hwnt i ddisgwyliadau gydag oddeutu 2,500 o ymgeiswyr wedi derbyn lle ar gyrsiau hyfforddiant gwella busnes, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau busnes a rheolaeth, hyfforddiant technegol neu hyfforddiant ar ddefnyddio peiriannau ac offer. 

Pwysleisiodd mai ar lein yn unig y gellir cyflwyno ffurflenni cais ar gyfer y cymhorthdal a bod proses syml i’w ddilyn yn y lle cyntaf. 

“Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a bod wedi derbyn eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair gan y Ganolfan Wasanaeth cyn gallu cael mynediad at wefan BOSS Llywodraeth Cymru, a’r cam nesaf hanfodol cyn ymgeisio am unrhyw hyfforddiant yw cwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) ar lein. 

 “Bydd y ffurflen gais ar gyfer ymgeisio am gymhorthdal 80% tuag at gyrsiau hyfforddiant byr ar gael ar safle we BOSS yn ystod pob cyfnod ymgeisio.  Mae bron i 2,400 unigolyn bellach wedi cwblhau PDP ac mae ymgyrch hyrwyddo diweddar i dargedu myfyrwyr o rai o golegau amaethyddol Cymru yn bendant wedi ein cynorthwyo i ddenu mwy o gyfranogwyr iau, a fydd yn sicr o fantais er mwyn proffesiynoli'r diwydiant at y dyfodol.

“Bydd PDP yn rhoi man cychwyn i chi a fydd yn gosod lefel bresennol eich dealltwriaeth ac yn eich cynorthwyo i adnabod anghenion hyfforddiant ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar sail tymor byr neu dymor hir, gan sicrhau bod eich datblygiad proffesiynol parhaus yn cael ei gofnodi a'i fesur," meddai Mr Thomas.

Gall unrhyw un sydd angen cymorth i gwblhau eu Cynllun Datblygu Personol alw heibio i gyfres o weithdai a drefnwyd ledled Cymru - mae dyddiadau a lleoliadau ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio: www.llyw.cymru/cyswlltffermio

Bydd angen i unrhyw un sy’n bwriadu gwneud cais am gymhorthdal ar gyfer cwblhau cwrs yn ymwneud â defnydd o beiriannau neu offer gwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch Cyswllt Ffermio fel man cychwyn.

Mae rhestr o gyrsiau hyfforddiant achrededig Cyswllt Ffermio ynghyd â darparwyr hyfforddiant sydd wedi’u cymeradwyo, gwybodaeth ynglŷn â'r amrywiaeth estynedig o gyrsiau e-ddysgu, ac arweiniad ynglŷn â chwblhau Cynllun Datblygu Personol ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

Cyn ymgeisio ar gyfer hyfforddiant, bydd angen i chi ofyn i’r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd gennych am gostau’r cwrs, gan fod angen dangos y gost ar eich ffurflen gais.

Am fwy o fanylion ynglŷn â gwasanaethau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio, cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn