5 Mawrth 2020

 

Mae ffermwyr sy'n ystyried cyfleoedd arallgyfeirio yng nghefn gwlad Cymru fel ffrwd incwm ychwanegol yn cael eu hannog i chwilio am ysbrydoliaeth o fylchau yn y farchnad, nid o gynlluniau presennol lle mae'r galw eisoes wedi’i fodloni’n llawn.

Mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd drwy Gymru i helpu ffermwyr i ystyried mentrau busnes y tu allan i'w prif fenter ffermio.

Yn y cyfarfodydd hynny, mae ffermwyr sydd eisoes wedi dilyn y trywydd hwn wedi rhannu eu profiadau a'u cynghorion ynglŷn a sut i wneud i arallgyfeirio lwyddo.

Ar gyfer unrhyw ddarpar gynllun arallgyfeirio, bydd cael rhai ffactorau pwysig yn iawn yn gwneud cryn wahaniaeth i sicrhau bod y fenter yn llwyddo.

Yn ôl Peter Rees, sy’n rhedeg busnes carafanau a gwersylla, Erwlon, gyda’i deulu ar gyrion Llanymddyfri, camgymeriad cyffredin y mae ffermwyr yn ei wneud yw arallgyfeirio i sector sydd eisoes yn llwyddiannus yn lleol.

Ni ellir rhagdybio bod galw yno waeth beth fo lefel y cystadlu – mae anwybyddu’r gystadleuaeth yn risg fawr.

Dylech ddarparu'r hyn y mae ar y farchnad ei angen, cynghorodd Mr Rees.

"Camsyniad cyffredin yw "Ei fod yn gweithio i fy nghymdogion, felly fe fydd yn gweithio i minnau”,” dywedodd wrth ffermwyr a fynychodd un o gyfarfodydd Cyswllt Ffermio yn Llanymddyfri.

"Edrychwch ar fylchau yn y farchnad, nid ar yr hyn y mae eich cymydog yn ei wneud. Dewch o hyd i rywbeth newydd, y busnesau llwyddiannus yw'r rhai sy'n wahanol yn hytrach nag un lle mae'r ffermwr wedi sefydlu busnes fel yr un i lawr y ffordd sy'n gwneud yn dda. '

Fodd bynnag, mae enghreifftiau pan all yr un busnesau ategu ei gilydd drwy ddenu mwy o bobl i mewn i'r ardal, nododd Mr Rees.

“Os cymerwch chi siop hen bethau fel enghraifft, os oes mwy nag un mewn tref, mae pobl sydd â diddordeb mewn hen bethau'n fwy tebygol o ymweld â'r dref honno. Mae'r un peth yn wir am arallgyfeirio ar ffermydd. '

Cynghorir ffermwyr hefyd i ystyried eu pwynt gwerthu unigryw (USP) eu hunain yn ogystal â'r hyn y mae ganddynt ddiddordeb gwirioneddol ynddo.

Sefydlodd Peter Williams, ffermwr da byw, mentor Cyswllt Ffermio, leoliad ar gyfer digwyddiadau dros dro gyda'i wraig Sue yn Great House Farm, ger Brynbuga, 20 mlynedd yn ôl.

Dywedodd mai eu USP allweddol yw agosrwydd y fferm at drefi mawr a dinasoedd a rhwydwaith ffyrdd da.

Rhybuddiodd Mr Williams ei bod yn bwysig ystyried sut y gallai'r arallgyfeirio effeithio ar weithgareddau sy'n gysylltiedig â rhedeg fferm, megis cynaeafu a symud stoc.

Cyfeiriodd at enghraifft lle’r oedd un o’r digwyddiadau a drefnwyd wedi cyd-daro â chyfnod sych yn ystod tywydd gwlyb a chyfle da i dorri silwair.

"Allen ni ddim torri'r silwair oherwydd byddai wedi golygu bod cerbydau trwm yn pasio drwy ardaloedd lle'r oedd pobl, ac fe achosodd hynny anawsterau,” meddai.

Rhaid i ffermwyr hefyd ystyried ymrwymiad ariannol tymor hir cynlluniau arallgyfeirio.

Dywedodd Mr Rees ei bod yn hanfodol ail-fuddsoddi mewn busnes. "Allwch chi ddim sefyll yn eich unfan, rhaid i chi fuddsoddi ac ail-fuddsoddi a phan fyddwch chi wedi ail-fuddsoddi rhaid i chi ail-fuddsoddi eto.”

Awgrymodd y dylai ffermwyr arallgyfeirio ar yr amod bod eu busnes ffermio craidd yn gadarn. Camgymeriad yn ei farn ef oedd arallgyfeirio oherwydd nad oedd y busnes presennol yn cynhyrchu digon o elw.

"Os oes gennych fusnes sy'n methu, arallgyfeirio yw'r peth gwaethaf y gallwch ei wneud oherwydd bydd rhedeg ail fusnes yn mynd â’ch sylw a gallai hyn arwain at y ddau fusnes yn methu. Canolbwyntiwch ar un peth a’i wneud yn iawn.”

Mewn rhai achosion, mae'n werth edrych ar sut y gellir gwella proffidioldeb y busnes presennol.

"Efallai y bydden nhw'n ystyried diddymu’r busnes craidd er mwyn buddsoddi yn y cyfle i arallgyfeirio  -  ond dim ond os oes ganddyn nhw gynllun busnes cadarn iawn a’u bod wedi gwneud eu gwaith ymchwil a bod ganddyn nhw'r sgiliau priodol i wneud i’r busnes newydd lwyddo,” rhybuddia Mr Rees.

Ystyriwch beth yw nod arallgyfeirio. "Ai’r nod yw darparu ffynhonnell incwm ychwanegol, buddsoddi yn y fferm neu roi jam ar y frechdan?” meddai Mr Rees.

Ar gyfer unrhyw ddarpar gynllun arallgyfeirio, bydd cael rhai ffactorau pwysig yn iawn yn gwneud byd o wahaniaeth i sicrhau bod y fenter yn llwyddiant. 

Roedd nifer dda’n bresennol yng nghyfarfodydd Cyswllt Ffermio ar adeg heriol i amaethyddiaeth, meddai Alun Bowen swyddog datblygu Cyswllt Ffermio.

Dywedodd fod cymorth ar gael gan Cyswllt Ffermio i helpu ffermwyr sy'n ystyried arallgyfeirio.

Mae'r rhain yn cynnwys cymorthfeydd marchnata ac arallgyfeirio sy'n rhoi awr o gyngor am ddim.

"Trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, mae cymorth pwrpasol ar gyfer cynllunio busnes ar gyfer ariannu a datblygu syniad busnes, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi pwrpasol, ' meddai Mr Bowen." Mae nawdd o 80% ar gael i ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. '

Mae gweithdai TGCh wedi'u hariannu'n llawn yn cynnig cymorth i ddatblygu gwefan a gall Gwasanaeth Mentora Cyswllt Ffermio baru ffermwyr â'r rhai sydd â gwybodaeth am arallgyfeirio a datblygu busnes.

Gwasanaeth arall yw Agrisgôp, rhaglen ddysgu weithredol wedi'i hariannu'n llawn sy'n dod ag unigolion blaengar o'r un anian o fusnesau fferm a choedwigaeth at ei gilydd ar lefel leol.

Yn ddiweddar, defnyddiodd Llion Pughe, a fu’n siarad yn nigwyddiadau Cyswllt Ffermio, y gwasanaeth hwn ar y cyd â  grŵp o ffermwyr  i agor  bwyty sy 'n gweini cynnyrch lleol yn Aberystwyth.

Mae Cyswllt Ffermio hefyd wedi lansio cyfres o bodlediadau 'Clust i’r Ddaear' ac mae un o'r rhain yn canolbwyntio ar arallgyfeirio ar ffermydd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn