18 Ebrill 2024

 

Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint, Ceredigion, yn arwain y ffordd mewn amaethyddiaeth gynaliadwy gyda phrosiect ymchwil sy’n archwilio potensial defnyddio meillion gwyn i wella effeithlonrwydd nitrogen a hybu cynhyrchiant llaeth a chig.

Gan fod Rhyd Y Gofaint yn dibynnu’n llwyr ar laswellt a silwair i fwydo eu buches o 120 o wartheg godro Holstein Friesian, eu diadell o ddefaid Texel croes Charollais, a’u gwartheg bîff, mae gwrtaith nitrogen yn gost mewnbwn sylweddol ar gyfer cynhyrchiant yn seiliedig ar y borfa.

Gan adeiladu ar arbrawf arall gan Cyswllt Ffermio a oedd yn canolbwyntio ar ddangosyddion ffrwythlondeb pridd, a gyda chymorth yr arbenigwr glaswellt annibynnol, Chris Duller, mae’r teulu Jones bellach yn archwilio potensial meillion gwyn i wella effeithlonrwydd y fferm laeth ymhellach.

Mae’r arbenigwr glaswelltir, Chris Duller, yn ffyddiog am y prosiect. “Mae gan feillion gwyn botensial i leihau’r defnydd o wrtaith a hybu perfformiad anifeiliaid,” meddai. “Mae arbrawf y teulu Jones gyda gwahanol amrywiaethau a monitro yn ffordd wych o ddod o hyd i’r dull gweithredu gorau ar eu fferm.”

Mae’r prosiect yn edrych ar feillion gwyn, sef math o godlys sy’n cynnig ateb naturiol i’r her hon. Drwy sefydlogi nitrogen yn y gwreiddiau, mae meillion gwyn yn casglu nitrogen atmosfferig ac yn ei drosi i ffurf y gall planhigion ei ddefnyddio drwy broses naturiol. Mae’r modd hwn o sefydlogi nitrogen yn fiolegol yn gallu cymryd lle hyd at 15-kg/ha o wrtaith synthetig, gan arwain at arbedion cost sylweddol. Gall lleihau’r defnydd o wrtaith synthetig hefyd helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella ansawdd dŵr.

Mae buddion meillion gwyn yn ymestyn y tu hwnt i leihau costau. Meillion yw’r planhigion glaswellt cyffredin mwyaf treuliadwy, ac maent yn cynnwys lefel uchel o brotein, gan arwain at borfeydd o ansawdd gwell i anifeiliaid sy’n pori.

Mae gwaith ymchwil yn Iwerddon yn cynnig tystiolaeth gref. Mae ffermydd llaeth sy’n trosi i borfeydd yn seiliedig ar feillion wedi haneru eu defnydd o wrtaith nitrogen gan hefyd gynnal neu hyd yn oed gynyddu cynhyrchiant llaeth. Llwyddodd un prosiect i gyflawni allbwn llaeth yn unol â’r cyfartaledd cenedlaethol gyda hanner y mewnbynnau gwrtaith cenedlaethol yn unig, gan ddangos pwysigrwydd meillion.

Mae’r prosiect yn archwilio dau ddull ar gyfer manteisio ar botensial meillion gwyn:

  • Tros-hau ar borfeydd presennol: Bydd y dull hwn yn cymharu meillion gwyn arferol gydag amrywiaeth hybrid ar wahanol gyfraddau hau. 
  • Posibilrwydd o ail-hau yn llawn (gan ddibynnu ar y tywydd): Gan ddibynnu ar y tywydd, gallai’r prosiect archwilio opsiwn o ail-hau yn llawn, gan gynnwys trin wyneb y tir.

Bydd y prosiect yn monitro sefydliad y cnwd meillion, cynhyrchiant deunydd sych, ansawdd y borfa, a chyfansoddiad botanegol drwy gydol y tymor tyfu. Bydd cynnyrch llaeth hefyd yn cael ei fonitro i asesu’r effaith ar gynhyrchiant yn gyffredinol.

Trwy fonitro cynnydd yr arbrawf yn ofalus, nod y teulu Jones yw canfod y gyfradd wasgaru orau posibl o wrtaith N ar gyfer porfeydd lle mae meillion yn dominyddu. Bydd hyn yn eu galluogi i leihau costau ymhellach, gan hefyd gynnal neu hyd yn oed gynyddu cynhyrchiant. Ychwanegodd Deryl Jones:

“Mae gennym ddiddordeb gweld a allai cyflwyno mwy o godlysiau i’n porfeydd fod yn effeithiol ar fferm Rhyd y Gofaint. Os bydd yr arbrawf meillion gwyn yn llwyddiannus, byddem yn gobeithio gweld lleihad o ran costau gwrtaith ynghyd â gwell cyfansoddion yn ein llaeth."

Mae’r arbrawf ar fferm Rhyd Y Gofaint yn cynrychioli cam sylweddol tuag at ddull mwy cynaliadwy a chost effeithiol o gynhyrchu llaeth a da byw, gan fanteisio ar bŵer meillion gwyn i sicrhau dyfodol mwy gwyrdd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mae fferm laeth yng Nghymru yn tyfu blodau’r haul gyda india-corn fel cnwd cyfatebol i leihau ei chostau protein a brynir i mewn.
25 Medi 2024 Mae Dyfrig ac Elin Griffiths a'u mab, Llyr, yn
Y ffermwr defaid Richard Wilding yn croesawu dysgu gydol oes ar gyfer dyfodol mwy effeithlon
23 Medi 2024 Richard Wilding, ffermwr defaid ucheldir o Lanandras
Gwobrau Lantra Cymru 2024