8 Mehefin 2022

 

Bydd arloesiadau sy’n helpu busnesau fferm i gynyddu cynhyrchiant tra’n lleihau effaith negyddol amaethyddiaeth ar yr amgylchedd yn cael eu harddangos mewn digwyddiad Cyswllt Ffermio ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ym mis Mehefin.  

Bydd datblygiadau newydd a ffyrdd ffres o weithio yn ymddangos yn Arloesedd ac Arallgyfeirio 2022, digwyddiad a fydd yn dwyn ynghyd nwyddau a gwasanaethau sy’n helpu busnesau fferm i ddarparu systemau proffidiol a chynaliadwy sy’n cael eu rhedeg yn broffesiynol. 

Dywed Eirwen Williams, o gwmni Menter a Busnes, sy’n darparu rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, na all ffermio, fel unrhyw fusnesau eraill, aros yn ei unfan. 

“Rhaid i ffermwyr fod yn agored i syniadau newydd, datblygiadau newydd a ffyrdd newydd o weithio,” meddai. 

Bydd llawer o’r datblygiadau hynny’n cael eu harddangos yn y digwyddiad ar 15 Mehefin. 

Bydd ymwelwyr yn gweld arloesiadau sy’n galluogi’r sector da byw i gryfhau perfformiad, gwella cynhyrchiant a thechnolegau sy’n cynyddu cynaliadwyedd drwy ganiatáu i ffermwyr arbed amser ac arian, cynyddu allbynnau a lleihau eu hôl troed carbon. 

Bydd cymorth, arweiniad, hyfforddiant ac arddangosiadau ymarferol i helpu ffermwyr i baratoi eu busnes ar gyfer y dyfodol. 

Bydd yr arddangoswyr yn cynnwys Blade Farming, Lely a Farmplan. 

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys seminarau gyda siaradwyr, gan gynnwys y ffermwr a’r seren YouTube, Tom Pemberton, Ben Taylor-Davies, y ffermwr a’r ymgynghorydd amaethyddiaeth adfywiol o’r enw ‘RegenBen’, Sam Carey, a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Rheolwr Glaswelltir 2020 Farmers Weekly, a Christian Nightingale o gwmni Lely.

Bydd Arloesi ac Arallgyfeirio 2022 yn rhedeg rhwng 10yb a 5yp, ac mae mynediad am ddim.

Mae Cyswllt Ffermio, a ddarperir gan Menter a Busnes a Lantra, wedi derbyn cyllid drwy 
Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio