17 Gorffennaf 2020

 

Mae gofalu am iechyd a lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i bob ffermwr bob amser.  Nid yw anwybyddu arwyddion rhybuddio cynnar neu adael i bethau lithro yn opsiwn ar gyfer unrhyw fusnes effeithlon, sy'n cael ei redeg yn broffesiynol.

Wrth i'r diwydiant geisio ymdopi a dygymod â chyfyngiadau Covid 19, mae llawer o ffermwyr yn troi at Cyswllt Ffermio am gymorth.

Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, gall ffermwyr cymwys gael cyfarwyddyd ar-lein 'o bell ' gan filfeddygon fferm cymeradwy ynglŷn â chanfod problemau, a’u rheoli, ac mewn llawer o achosion gallant gymryd y camau angenrheidiol i ddatrys problemau heb ymyriadau proffesiynol ychwanegol a chostus.

Ers i Cyswllt Ffermio lansio ei gyfres gyntaf o weithdai wyneb yn wyneb ar iechyd a lles anifeiliaid  ddechrau’r llynedd, mae cannoedd o ffermwyr ar hyd a lled Cymru wedi manteisio ar y gwasanaeth.  Ers hynny, mae amrywiaeth gynhwysfawr o weithdai ar bynciau sy'n amrywio o gloffni, rheoli parasitiaid* a chyflyrau anadlol i faeth, ffrwythlondeb a chyfraddau marwolaeth wedi rhoi cyngor ac arweiniad mawr eu hangen, gan leihau straen ac arbed amser ac arian i ffermwyr.

Gyda’r gweithdai’n cael eu darparu gan bractisau milfeddygol penodol ledled Cymru, a gyda chynnwys pob gweithdy rhyngweithiol wedi’i gynllunio gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS), mae fformat y gweithdai wedi'i addasu bellach fel y gall ffermwyr gymryd rhan 'o bell' drwy gyfres o weminarau ar-lein ar gyfer sectorau penodol.

"Mae pob gweithdy wedi'i ariannu'n llawn, yn para llai na dwy awr, dan arweiniad milfeddyg fferm cymeradwy, ac mae cyfle i ffermwyr ddysgu oddi wrth arbenigwr, gofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt, a dysgu o brofiad ffermwyr eraill sy'n cymryd rhan," meddai Rebecca Summons, sy'n arwain y gwaith o ddarparu hyfforddiant iechyd anifeiliaid i Lantra Cymru,  sydd, gyda Menter a Busnes, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

"Mae cynllunio iechyd anifeiliaid fferm yn galw am ddull rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar atal yn hytrach na gwella.

"Mae'r manteision i fusnesau fferm unigol yn sylweddol oherwydd bod gwella iechyd a lles anifeiliaid yn arwain at fwy o gynhyrchiant a gwydnwch," meddai Miss Summons.

"Gall ffermwyr hefyd gofnodi gwybodaeth allweddol a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer cynllun iechyd ac adolygiad perfformiad blynyddol fel rhan o gynllun gwarant fferm.”

Mae rhestr o bob practis milfeddygol sy'n cymryd rhan a'r pynciau y maent yn eu cynnig, ar gael ar y tudalennau Sgiliau a Hyfforddiant ar wefan Cyswllt Ffermio, gydag amseroedd, dyddiadau a manylion cofrestru ar y tudalennau digwyddiadau.

Mae'n hawdd cael gafael ar Weminarau a gellir eu harchebu drwy unrhyw bractis milfeddygol sy'n cymryd rhan neu ar-lein yma.

“Ar ôl i chi archebu lle ar weminar, byddwn yn anfon cod adnabod a chyfrinair mewngofnodi atoch, sydd hefyd yn cynnwys amser a dyddiad y gweminar," meddai Miss Summons.

Gall unrhyw un sy’n ansicr sut i ddefnyddio llwyfannau 'cyfarfod' ar-lein fel Zoom lawrlwytho canllawiau y mae Cyswllt Ffermio wedi'u huwchlwytho yma.

Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael tystysgrif o 'bresenoldeb o bell' a fydd yn cael ei hychwanegu ar eu rhan i'w cofnod Storfa Sgiliau Cyswllt Ffermio. 

Gall ffermwyr cofrestredig sydd â diddordeb mewn pynciau penodol ym maes iechyd anifeiliaid hefyd  gael mynediad i ddewis eang o fodiwlau e-ddysgu rhyngweithiol wedi’u hariannu’n llawn. Mae’r dewis yn cynnwys e.e. Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR); Cloffni mewn gwartheg; Rheoli BVD; Rheoli llyngyr yr iau; Clafr Defaid; Elfennau hybrin mewn da byw ac ati. Cliciwch yma i weld rhestr lawn o'r holl gyrsiau e-ddysgu. 

* Mae adnodd cynllunio ar-lein newydd ar gyfer rheoli parasitiaid wedi'i ddatblygu sy'n fodd i filfeddygon a ffermwyr baratoi cynllun rheoli parasitiaid ar gyfer eu diadell a/neu eu buches. Gallwch ei weld yma a gellir ei weithredu a'i gynnwys yn rhan o gynllun iechyd fferm.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio