28 Mawrth 2022

 

Tyfodd y teulu Jones wyth hectar (ha) o’r cnwd ar Fferm Pantyderi, Boncath, fel rhan o’u gwaith prosiect fel ffermwyr arddangos Cyswllt Ffermio.

Roedd y codlysiau yn cymryd lle cymysgedd dwysfwyd protein 36% a oedd yn cael ei fwydo ar gyfradd o 1-1.5kg/y pen/y dydd, ynghyd â silwair glaswellt a barlys wedi’i grychu a’i drin ag wrea yn nognau tyfu a phesgi’r 400 o wartheg bîff.

Yn ôl Eurig Jones, sy’n ffermio gyda’i dad, Wyn, mae’n gam pwysig tuag at eu nod o gynhyrchu protein eu hunain ar gyfer y fenter bîff.

Cafodd y cnwd ei gynaeafu ar 3 Medi, ac roedd yn cynnwys 16.4% o brotein fel porthiant, 13.6 ME ac 61.7% fel deunydd sych (DM), a llwyddwyd i gynhyrchu 860kg/ha o brotein fel porthiant, ar ffurf porthiant wedi’i grychu.

Roedd costau a gyfrifwyd gan faethegydd y prosiect, Hefin Richards o Rumenation, yn prisio’r porthiant ar £242/y dunnell (t)/DM, o’i gymharu â £275/t ar gyfer y cymysgedd dwysfwyd – cymysgedd sy’n seiliedig ar flawd hadau rêp a grawn india-corn distyllwyr.

Nid yn unig mae’r cymysgedd £33/t yn rhatach, mae Mr Richards yn nodi bod y gost yn gyson bob blwyddyn, ac nid yw’n ddibynnol ar y farchnad protein ansefydlog; ym mis Ionawr 2021, cyrhaeddodd prisiau soia uchafbwynt o £480/t.

“Y mwyaf o borthiant y gall y fferm ei gynhyrchu ei hun, y lleiaf tebygol yw hi i ddioddef oherwydd ansefydlogrwydd, a bydd yn dod yn fwy cydnerth bob blwyddyn,’’ dywedodd Mr Richards.

“Rydym yn awr mewn sefyllfa lle mae’r ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer tyfu porthiant yn cyfateb i’r rhai economaidd.’’ 

Roedd y teulu Jones wedi ystyried tyfu cnydau unigol o ffa neu fysedd y blaidd, ond roeddynt yn teimlo y gellid gwella’r cynhyrchiant yn sylweddol drwy gyd-dyfu pys a ffa a’u crychu. Roedd hyn yn golygu eu bod yn cael eu storio mewn clamp allanol, gyda’r porthiant yn cael ei brosesu wrth ei gynaeafu, a’i glampio yn barod i’w roi i’r anifeiliaid yn y gaeaf. 

Mae’r cnwd yn ffafrio pridd sy’n draenio’n dda ac mae’n ymateb yn dda i ddigonedd o leithder, gan olygu ei fod yn addas iawn ar gyfer yr amodau ar fferm Pantyderi.

Gwasgarwyd calch ar gae’r treial ar gyfradd newidiol o 937kg/ha i godi’r pH o 5.8 (y lefel ddelfrydol ar gyfer ffa a phys yw 6.5). Gwasgarwyd tail buarth ar gyfradd o 25t/ha; nid oedd angen ychwanegu unrhyw nitrogen.

Mae ffa a phys yn tyfu’n dda iawn gyda’i gilydd – mae’r ffa yn cynnig fframwaith cryf sy’n cadw’r pys ar eu traed yn hwyr yn y tymor; maent hefyd yn elwa ar yr un dull agronomeg, yn ôl Swyddog Technegol Cyswllt Ffermio Dr Delana Davies, a oedd yn rheoli’r treial.

“Mae cyd-dyfu hefyd yn tueddu i ddileu unrhyw wahaniaethau o ran amseroedd aeddfedu, ac mae’r pys yn llenwi’r bylchau aer rhwng gronynnau mwy o faint y ffa yn y clamp,’’ esboniodd.

Plannwyd yr hadau mewn dwy rodfa ar 22 Ebrill; plannwyd y ffa yn gyntaf ar gyfradd o 308kg/ha a dyfnder o 60mm, ac yna’r pys ar gyfradd o 225kg/ha a dyfnder o 30mm. Cyfrifwyd y cyfraddau hadau hyn gyda chymorth ap sydd ar gael drwy Sefydliad Ymchwil y Proseswyr a’r Tyfwyr (PGRO: the Processors and Growers Research Organisation). Defnyddiwyd ffwngleiddiad ddwywaith i fynd i’r afael â smotiau brown ffa.

Aeth Mr Jones ati i gynaeafu’r cnwd gan ddefnyddio ei beiriant dyrnu ei hun, ynghyd â chyllell ochrol. “Mae’r gyllell ochrol yn hanfodol ar gyfer y gwaith,’’dywedodd. 

Roedd yn rhaid cael yr amseru’n gywir er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng cael y cnwd yn ddigon sych i fynd drwy’r dyrnwr, a’i fod yn cynnwys dros 30% o leithder ar gyfer ei grychu. 

Cynhyrchodd y cnwd 5.25t/ha - 42 tunnell o 8ha – ynghyd â 22 o fyrnau /ha o wlyddyn – darn ffeibrog y planhigion sy’n cynnwys mwy o faeth na gwellt.

Mewn systemau lle mae soia yn cael ei ddefnyddio fel porthiant, ar gost yn seiledig ar kg o brotein, mae soia yn rhatach ar £0.83 o’i gymharu â £1.08 ar gyfer pys a ffa. Fodd bynnag, gan fod rhai contractau llaeth a bîff bellach yn mynnu na ddylid defnyddio porthiant soia, dywedodd Mr Richards na ddylid ystyried y ffigyrau hynny ar eu pen eu hunain ac y dylid ystyried buddion eraill:

“Mae budd gwirioneddol i gnwd grawnfwyd, ac mae hynny’n gwneud synnwyr gan fod ffrwythlondeb y pridd yn cael ei wella gan nodweddion sefydlogi nitrogen y pys a’r ffa; mae’r cnwd cymysg hwn yn bendant yn werth ei ystyried,’’dywedodd.

 

Costau’r prosiect yn cynnwys ffioedd y contractwr a chostau rhentu’r cae:

 

Mae’r dognau a gafodd eu llunio gan Mr Richards ar gyfer tyfu a phesgi bîff ar fferm Pantyderi nid yn unig yn dangos buddion cost drwy gynnwys y cymysgedd ffa a phys, ond hefyd cynnydd bach yn rhagamcanion y pwysau byw hefyd.

Ar sail y pen /y dydd, mae deiet tyfu 2021 wedi’i gostio ar £1.29 o’i gymharu â £1.35 yn 2020, a rhagwelir y bydd y cynnydd pwysau byw dyddiol yn 1.19kg/y pen o’i gymharu ag 1.15kg yn 2020. Yn y deiet pesgi, mae’r gost wedi gostwng i £2.18/y pen/y dydd o £2.39 yn 2020, a rhagwelir y bydd y cynnydd pwysau byw dyddiol yn 1.44kg/y pen o’i gymharu ag 1.43kg yn 2020. 

Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod pys a ffa grawn cyflawn yn cynnwys mwy o startsh ac egni, o’u cymharu â chymysgedd protein sy’n seiliedig ar is-gynhyrchion.

 

Mae cynhyrchwyr bîff yn cael eu cynghori i wella ansawdd porthiant fel man cychwyn ar gyfer cynyddu ffynonellau o borthiant sy’n cynnwys protein.

Ar fferm Pantyderi, drwy dorri silwair glaswellt yn gynharach ac o wyndonnydd wedi’u hailhau â meillion, mae dadansoddiad o gynhaeaf y ddwy flynedd ddiwethaf yn dangos ei fod yn cynnwys 16.4% o brotein crai o’i gymharu â 10.5% yn flaenorol.

Mae ffermydd bîff yn tueddu i gynhyrchu silwair mwy aeddfed, sy’n ffafrio swmp yn hytrach nag ansawdd, ond pan mae’r dadansoddiad silwair yn dangos 11-12% o brotein, mae angen ffynonellau protein eraill i godi’r lefel yn y ddogn.

“Mae angen mwy o bwyslais ar dorri silwair yn gynt a’i dorri o wyndonnydd llai aeddfed er mwyn cael mwy o brotein a phrotein o ansawdd gwell,’’ awgrymodd Mr Richards.

“Mae tyfu silwair sy’n cynnwys 16.4% o brotein wedi cael effaith fawr ar faint o brotein sydd ei angen i gydbwyso’r ddogn ar fferm Pantyderi.’’

 

Mae mapio priddoedd er mwyn cyfateb y gyfradd gwasgaru hadau i’r math o dir wedi galluogi’r teulu Jones i gynyddu cynhyrchiant grawn barlys y gwanwyn o 8%.

Cafodd un hanner o gae ar fferm Pantyderi ei hau ar gyfradd newidiol gan ddefnyddio’r wybodaeth am faetholion y pridd a gasglwyd drwy fapio, ar gyfradd o 135-180kg/ha ar draws 3.6ha a’r llall ar gyfradd gwastad o 150kg/ha ar 3.4ha.

Cafodd y ddau gae eu hau gan yr un contractwr, a gwnaethant dderbyn yr un driniaeth reoli dros yr haf. Ar y gyfradd newidiol, cynhyrchodd y cnwd 5.6t/ha o rawn ar gyfartaledd, a chynhyrchodd y llain cyfradd sefydlog 5.2t/ha. Mae mapio, sy’n costio tua £12.50/ha, yn golygu bod modd targedu maetholion yn ôl yr angen.

Ar fferm Pantyderi, cafodd 40ha o laswelltir a 60ha o dir tyfu grawnfwyd eu mapio a dadansoddwyd yr ardaloedd hyn ar gyfer ffosffad, potasiwm, magnesiwm a pH yn ogystal â gweadedd laser er mwyn rhoi gwerth absoliwt i’r math o bridd. Lluniwyd cynlluniau rheoli maetholion ar gyfer pob cae a fapiwyd.

Yn sgil mapio’r pridd, gwelwyd arbedion mewn costau calchu ar y glaswelltir a’r ardaloedd âr, o ganlyniad i gyfraddau calchu newidiol. O’i gymharu â gwasgaru cyfradd sefydlog, sicrhawyd arbediad o £323 ar y calch ar y glaswelltir, a £720 ar y tir âr.


FFEITHIAU AM Y FFERM

445 hectar yn cael eu ffermio ar draws dwy uned a thir i ffwrdd o’r fferm 

80 o wartheg sugno croes-Henffordd sy’n lloia yn y gwanwyn o darw Limousin 

Gwartheg stôr yn cael eu prynu ar gyfer eu pesgi – mae tua 200 yn cael eu pesgi bob blwyddyn

1500 o famogiaid Texel-croes 

 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ewrop dros Ddatblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o