23 Chwefror 2023

 

Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ffermwyr am iechyd coed a’r goblygiadau ymarferol ac iechyd a diogelwch wrth fynd i’r afael â choed sydd wedi’u heintio neu wedi’u difrodi ar ffermydd.

Bydd Gethin Hughes o MWMAC yn trafod pa hyfforddiant ac offer sydd eu hangen, canllawiau gweithio ar eich pen eich hun ac agweddau i’w hystyried wrth weithio gydag offer fel torwyr coed a winshis i ddelio â choed sydd wedi’u heintio neu wedi’i difrodi.

Bydd yr arbenigwr diogelwch fferm adnabyddus, Brian Rees, hefyd yn trafod ystyriaethau iechyd a diogelwch ar y fferm, gan gynnwys gweithio gyda llwyfannau gwaith anintegredig a thelehanders ar gyfer gwaith coed. 

Dywedodd Dafydd Owen, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio:

“Mae’n bwysig cyflawni’r dasg o dynnu coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt, coed marw neu rai wedi’i heintio mor ddiogel â phosibl. Bydd ffermwyr yn aml yn cyflawni’r tasgau hyn ar eu pen eu hunain heb ystyried y goblygiadau posibl.”

“Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru, ac mae lluniaeth ar gael, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu lle!”

Cynhelir digwyddiadau drwy gydol mis Mawrth yn Llanrwst, Llandeilo a Chaersws. I archebu eich lle, cysylltwch â Dafydd Owen ar dafydd.owen@menterabusnes.co.uk neu cliciwch yma.

 

01/03/23 19:00 – 21:00. Gwesty’r Eagles Hotel, Llanrwst, Conwy, LL26 0LG 

07/03/2023, 19:00 – 21:00. The Plough Rhosmaen, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6NP 

08/03/2023, 19:00 – 21:00. Maesmawr Hall Hotel, Caersws, Powys, SY17 5SF

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae bwydo silwair meillion yn lleihau costau yn y cyfnod cyn ŵyna
22 Ionawr 2025 Mae silwair meillion coch a gwyn o ansawdd uchel
Dirprwy Brif Weinidog yn llongyfarch enwebeion Gwobrau Lantra Cymru mewn seremoni yn dathlu rhagoriaeth mewn datblygu sgiliau a dysgu gydol oes
16 Ionawr 2026 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio - rhifyn Gaeaf 2025