10 Mawrth 2024

 

Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth cyflogedig yng Nghymru (gan gynnwys gweithwyr a gyflogir gan gangfeistri ac asiantaethau cyflogaeth) hawl i gael o leiaf yr Isafswm Cyflog Amaethyddol. 

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 yn disodli Gorchymyn 2023 sy’n golygu o 1 Ebrill 2024 ymlaen:

•    Bydd cyfraddau isafswm cyflog uwch ar gyfer pob gradd o weithiwr. 
•    Bydd yr holl lwfansau (gan gynnwys lwfansau cŵn) yn cael eu cynyddu 8.5%.
•    Bellach mae’r gyfradd goramser 1.5 gwaith yn fwy na chyfradd wirioneddol y gweithiwr amaethyddol fesul awr, yn hytrach na chyfradd fesul awr yr isafswm cyflog amaethyddol.

Mae’r bandiau oedran yng Ngraddau A a B y Gorchymyn wedi'u diwygio yn unol â’r newidiadau a wnaed mewn perthynas â’r Cyflog Byw Cenedlaethol y’i telir yn awr i weithwyr 21 oed a hŷn.

Argymhellwyd y cynnydd mewn cyfraddau cyflog gan Banel Cynghori Amaethyddol (PCA) Cymru, corff annibynnol a gadeirir gan Dr. Nerys Llewelyn Jones. Mae’r panel, sydd wedi bod yn weithredol ers 2016, yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Unite a thri aelod annibynnol. 
 
Yn ystod yr wyth mis diwethaf, bu aelodau’r PCA yn cynnal trafodaethau ar y newidiadau i gyflogau a thelerau ac amodau o dan y Gorchymyn. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid y diwydiant ar ei gynigion drafft cyn cynghori Gweinidogion Cymru ar argymhellion y Panel ar gyfer trefniadau isafswm cyflog a thelerau ac amodau cyflogaeth newydd i bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru. Tynnodd aelodau’r Panel ar eu harbenigedd a’u hystyriaeth o’r amodau economaidd yn y diwydiant adeg yr ymgynghoriad, yn ogystal â ffactorau allanol megis y newidiadau i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. 
                        
Wrth groesawu'r Gorchymyn newydd, dywedodd Dr. Nerys Llewelyn Jones:
“Mae’r trefniadau newydd yn sicrhau bod pob gweithiwr amaethyddol yn cael cyflogau, lwfansau a thelerau cyflogaeth teg, a gaiff eu hadolygu’n rheolaidd, gan gyfrannu ymhellach at agenda iechyd a lles Llywodraeth Cymru drwy ddiogelu incwm aelwydydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

“Bydd y Gorchymyn yn helpu i sicrhau bod gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yn cael eu hystyried yn ddewisiadau hyfyw a chynaliadwy ar gyfer gweithwyr presennol a darpar weithwyr, a thrwy osod canllawiau clir i gyflogwyr, bydd Gorchymyn newydd Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer i annog datblygu a chadw gweithlu sydd â sgiliau priodol yng Nghymru.

“Bydd hefyd yn sicrhau bod cyflogwyr yn trin pob gweithiwr yn briodol, gan gynnwys gweithwyr fferm a phrentisiaid sy’n gweithio yn y sector.

“Mae’n drosedd peidio â thalu o leiaf yr Isafswm Cyflog Amaethyddol i bob gweithiwr amaethyddol ac mae’n rhaid i bob cyflogwr gydymffurfio â’r gofynion a nodir yng Ngorchymyn 2024,” meddai Dr. Jones.  

Mae’r cyfraddau isafswm cyflog a lwfansau a’r holl delerau ac amodau gofynnol eraill y mae gan weithwyr amaethyddol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio yn y sectorau garddwriaeth a choedwigaeth, hawl iddynt yn ôl y gyfraith wedi’u nodi yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024. Mae gwybodaeth ac arweiniad manylach ar gael ar 
https://www.llyw.cymru/y-panel-cynghori-ar-amaethyddiaeth-cymru
https://www.llyw.cymru/cyflogau-amaethyddol-cyfraddau-tal-isaf  


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu