3 Ebrill 2020

 

Dywed tyfwyr lleol mai nawr yw’r amser i siopwyr brynu bwyd Cymreig yn uniongyrchol gan gyflenwyr wrth i’r pandemig coronafeirws amlygu diffygion yng nghadwyni cyflenwi archfarchnadoedd.

Gyda silffoedd rhai o’r prif adwerthwyr yng Nghymru’n wag heb wyau, cig a llaeth, mae digonedd o gynnyrch ffres ar gael gan nifer o’r siopau fferm, tyfwyr, cyflenwyr llaeth amrwd a busnesau bwyd lleol eraill sy’n gweithio’n galed i fwydo’r genedl.

Mae Gerald Miles, sy’n rhedeg cwmni Caerhys Organic Community Agriculture (COCA) o’r fferm yn Nhŷ Ddewi, yn annog siopwyr o Gymru i fanteisio ar y cyfle i brynu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol i’w roi yn eu cypyrddau.

Mae’n gobeithio y bydd yr argyfwng presennol yn newid arferion prynu ac yn arwain at gwsmeriaid yn cefnogi busnesau lleol drwy’r amser, nid yn unig pan nad oes modd iddynt brynu eitemau allweddol o’r archfarchnad.

“Mae’r hyn y mae’r wlad yn ei wynebu ar hyn o bryd yn gwneud i ni sylweddoli ar bwy y dylem fod yn dibynnu arnynt ar gyfer bwyd a chynnyrch,” meddai Mr Miles, sydd wedi bod yn gweithio ar greu system gompostio sydyn sy’n darparu maeth ar gyfer y llysiau a dyfir ar y fferm, fel rhan o’i rôl fel ffermwr ffocws Cyswllt Ffermio. 

Er bod dechrau’r gwanwyn fel arfer yn gyfnod tawelach ar fferm Caerhys, gan fod llai o amrywiaeth o fwyd yn cael ei dyfu ar y fferm, mae COCA yn goresgyn hyn drwy ei gysylltiadau gyda sefydliadau cymunedol eraill.

Mae’r rhain yn dosbarthu gwahanol fathau o lysiau a ffrwythau organig a chynnyrch megis blawd i’r fferm fel bod modd i aelodau barhau i allu cael cyflenwad digonol o fwyd.

Dywed Mr Miles fod gan COCA 60 o aelodau cyn y pandemig, ond bod mwy o bobl wedi ymuno dros y pythefnos diwethaf.

Mae’n dweud ei bod yn bwysicach nag erioed i bobl ddeall o ble y daw eu bwyd mewn gwirionedd - nid o’r archfarchnad, ond yn hytrach gan ffermwyr a thyfwyr.

“Gyda phopeth yn cau a chyfyngiadau ar symudiadau, mae’n rhaid i ni ddysgu o’r profiad hwn. Dylem werthfawrogi cefn gwlad Cymru a’r hyn y gallwn ei dyfu yma.’’

Mae COCA bellach yn ystyried opsiynau ar gyfer mannau gollwng penodol wrth ddosbarthu eu cynnyrch yn hytrach na bod aelodau’n dod i’r fferm i gasglu eu nwyddau.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwyr Sir Benfro yn mynd i'r afael â TB trwy waith tîm
07 Ebrill 2025 Mae ffermwyr ar draws Sir Benfro yn profi, hyd yn
Mentor Cyswllt Ffermio ac arweinydd Agrisgôp, Caroline Dawson, yn rhan o gyfres ddiweddaraf o Our Dream Farm ar Channel 4
03 Ebrill 2025 Dewch i weld hynt a helynt y rhai a gyrhaeddodd
Cyswllt Ffermio yn Cyflwyno 9 Cwrs Hyfforddiant Ychwanegol i Ffermwyr
02 Ebrill 2025 Mae Cyswllt Ffermio wedi ehangu ei raglen