Mae adroddiad diweddar yn awgrymu ein bod ni’n cynhyrchu 3.5% o’r ffrwythau a’r llysiau rydyn ni’n eu bwyta fel poblogaeth yma yng Nghymru. Os ydych yn ffermwr sydd am arallgyfeirio neu ychwanegu menter arall ar y fferm, gallai'r podlediad hwn eich cymell i edrych ar yr opsiynau.

Ymunwch gyda'r tri sydd ar y panel - Mae gan John Morris a'i deulu o Grucywel 8 menter ar y fferm, mae'n disgrifio ei hun fel 'gweithredwr defnydd tir' sydd yn cynhyrchu incwm o fferm gymharol fach trwy sawl menter arallgyfeirio. Rydym hefyd yn clywed wrth Edward Morgan, yn cynrychioli Castell Howell Foods sydd eleni yn dathlu 35 mlynedd o fusnes ac sydd wedi tyfu i fod yn brif gyfanwerthwr gwasanaeth bwyd annibynnol Cymru. Mae Edward yn amlinellu’r cyfleoedd a’r bylchau posibl yn y farchnad y dylem eu hystyried. Mae Sarah Gould, Rheolwr Garddwriaeth yn Lantra yn amlinellu sut y gall Cyswllt Ffermio helpu os yw'r rhifyn hwn wedi taro deuddeg gyda chi!


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 118 - Deall Sut i Gwblhau Cynllun Busnes Syml a Chyfrif Rheoli gydag Aled Evans, Rest Farm, Henllan
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad cyfres newydd arbennig sy'n
Rhifyn 117 - Triniaeth ddewisol wedi'i thargedu ar gyfer ŵyn
Mae Joe Angell yn filfeddyg o Ogledd Cymru sydd â dull
Rhifyn 116 - Manteision cofnodi perfformiad eich diadell
Cyfle arall i wrando yn ôl ar Sam Boon o AHDB, Uwch Reolwr Bridio