Mae Cymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain (BCVA) ynghyd â’r Bwrdd Safonau Gofal Carnau Gwartheg (CHCSB) wedi datblygu rhaglen o gyrsiau trimio a thrin traed gyda’r bwriad o roi’r hyfforddiant diweddaraf i ffermwyr, wedi’i gyflwyno gan dîm o hyfforddwyr sydd wedi eu hyfforddi i lefel uchel. Mae’r rhaglen yn cynnwys un diwrnod o Gymorth Cyntaf i Draed a thri diwrnod o Drimio Carnau Canolradd.
Darperir y cyrsiau i gyd gan Hyfforddwr Iechyd Traed sydd wedi’i Achredu gan BCVA mewn cydweithrediad â Hyfforddwr wedi’i Achredu gan CHCSB. Mae’r bartneriaeth hyfforddi hon yn golygu y bydd y cynrychiolwyr yn elwa o amrywiaeth eang o arbenigeddau damcaniaethol ac ymarferol ac mae’r gofyniad i hyfforddwyr ddiweddaru eu gwybodaeth bob amser a chael eu hachredu i gyflwyno’r cyrsiau’n golygu y bydd safonau’r hyfforddiant yn parhau’n uchel.
Adolygir cynnwys y cyrsiau’n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn ymgorffori canfyddiadau’r ymchwil diweddaraf a’u bod wedi eu cyfateb â dulliau arferion gorau’r diwydiant. Mae’r cyrsiau’n cyflawni gofynion y cyrff sicrwydd ac yn darparu Tystysgrif Cymhwysedd i’r cynrychiolydd pan fydd yn cwblhau’r asesiadau diwedd cwrs yn llwyddiannus
CYMORTH CYNTAF SYLFAENOL I DRAED: Cwrs diwrnod llawn i bobl sy’n trin gwartheg cloff mewn argyfwng ar fferm.
Bydd y cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
- Anatomeg sylfaenol y traed/tirnodau
- Yr offer ar gyfer y gwaith (yn cynnwys hogi cyllyll)
- Trosolwg o’r sgoriau symudedd
- Adnabod y prif anafiadau sy’n achosi cloffni
- Trin, codi ac archwilio troed
- Cyflwyniad i’r dull trimio 5 cam
- Protocolau trin: dewis rhwystr a rhoi NSAID
- Rhwystro/trin anaf yn ymarferol
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Cloffni mewn Gwartheg
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant a ganlyn ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn