Roger & Dyddanwy Pugh

Crickie Farm, Llangors, Aberhonddu

Treial: Effaith cynnwys betys porthiant ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ac effaith amgylcheddol 

 

Mae gan fferm Crickie fuches fagu o 55 o fuchod croes cyfandirol a roddir i darw Aberdeen Angus neu Limousin ac mae’r lloeau’n cael eu gwerthu yn wartheg stôr rhwng 16 a 18 mis oed, yn amrywio o 500-600 kg. Costau dwysfwyd a deunydd dan yr anifeiliaid yw prif gostau’r fenter wartheg, yr amcangyfrifir eu bod 148% yn uwch na chyfartaledd yr Arolwg Busnesau Fferm.

Mae’r prosiect yn edrych ar ffyrdd o leihau’r costau hyn trwy aeafu’r gwartheg allan ar fetys porthiant, sydd â’r potensial i roi mwy o gynnyrch na chnydau porthiant eraill a dyfir yn y Deyrnas Unedig. Oherwydd y cynnyrch uchel, mae gan fetys porthiant y potensial i fod yn un o’r cnydau rhataf i bob kg o ddeunydd sych, yn ogystal ag un o’r cnydau porthiant rhataf am bob megajule o ynni oherwydd ei nodweddion maethiannol. 

Bydd y prosiect yn edrych ar ffyrdd o ymgorffori’r cnwd hwn yn effeithiol yn y fenter bîff fel modd o leihau costau gaeafu, gan edrych yn benodol ar sefydlu, trosi’n effeithiol i strategaethau betys porthiant a phori i ddefnyddio’r cnwd yn effeithiol sy’n lleihau’r effeithiau amgylcheddol.  

Mae’r prosiect hefyd yn anelu at asesu effaith cynnwys betys porthiant ar allyriadau nwyon tŷ gwydr y fuches a’r effaith amgylcheddol. 

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Cyfrannu at iechyd a lles da i’r fuches
  • Effeithlonrwydd adnoddau
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Ffrem Cilywinllan
Eifion Pughe Ffrem Cilywinllan, North Montgomeryshire Gyda hafau
Carregcynffyrdd
Carys Jones Carregcynffyrdd, North Carmarthenshire Mae