David, Heulwen and Rhys Davies

Moor Farm, Treffynnon, Fflint

Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr? 

Cyfle i weithio gyda gwartheg o safon

Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?  

Rhaglen feddalwedd Agrinet ac yn ddiweddar y system goler i nodi heffrod sy’n gofyn tarw a phrofion genomig ar y da byw ifanc.

Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?

Tymor y gwanwyn, i weld heffrod sy’n llaetha allan yn pori ac yn cyflawni eu potensial geneteg.

Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?

‘Mae glaswellt yn annog glaswellt i dyfu’

Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?

  • Pridd a phorthiant ar gyfer tywydd eithafol
  • Sut gall deallusrwydd artiffisial (AI) fod o ddefnydd cadarnhaol
  • Cynyddu allbynnau heb gynyddu mewnbynnau

Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd? 

Sicrhau ein bod yn parhau i fodloni gofynion a safonau cynyddol uchel ein prynwr llaeth ac i wneud mwy gyda llai o ran ein hadnoddau.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Clyngwyn
Jeff, Sarah, Enfys a Medi Wheeler Clyngwyn, Clunderwen, Sir
Cwmcowddu
Sian, Aled and Rhodri Davies Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir
Tanygraig
Daniel Evans Tanygraig, Llanbedr Pont Steffan, De Ceredigion Beth