Cynllunio Olyniaeth
Dechreuwch y sgwrs
Y bygythiad hirdymor mwyaf i unrhyw fusnes fferm teuluol yw diffyg cynllun olyniaeth gadarn.
Mae’n ymwneud â’r cynllun hirdymor ar gyfer eich busnes ffermio - y ffeithiau, amcanion a’r modd i sicrhau’r canlyniad gorau i bawb dan sylw.
Yn syml, mae’n fwy na gwneud ewyllys!
Bydd eich cynllun olyniaeth yn unigryw i’ch busnes – nid oes ‘un math yn addas i bawb’. Mae pob teulu yn wahanol, a phob busnes yn wahanol. Yr hyn sydd bob amser yn bwysig yw fod pob teulu ffermio yn ystyried dyfodol y busnes ac yn cynllunio o flaen llaw ar gyfer pob sefyllfa – cyn gynted â phosib.
Pam fod angen cynllun olyniaeth arnoch?
Mae’r risgiau allweddol o beidio â chael cynllun o’r fath mewn lle yn cynnwys, er enghraifft:
- aelodau’r teulu yn dadlau
- goblygiadau ariannol anffafriol / effaith treth etifeddiaeth / treth enillion cyfalaf
- straen a phryder, yn aml yn cyfuno â phoen meddwl a galar
- colli cartref / bywoliaeth i aelodau’r teulu
- effaith ar y fferm deuluol os caiff ei werthu, ei wahanu neu ei rannu