27 Chwefror 2018

 

Mae cyngor arbenigol i wella effeithlonrwydd pridd yn paratoi’r ffordd i wella cynhyrchiant a phroffidioldeb ar fferm gymysg ger Wrecsam.

Mae Wil Evans a’i deulu ifanc sy’n ffermio yn Lower Eyton, Bangor Is y Coed mewn partneriaeth â’i rieni, Mr a Mrs John Evans, yn dweud ei fod wedi cael budd o brosiect Cyswllt Ffermio sy’n edrych ar effeithlonrwydd pridd, gwasgaru tail organig a defnyddio gwrtaith mewn modd mwy penodol.

Mae’r fferm âr a da byw cymysg yn ymestyn dros 500 erw, a chynhaliwyd diwrnod agored yno’n ddiweddar i rannu canfyddiadau a chyngor arbenigol gan ddau ffigwr blaenllaw yn y diwydiant.

Bu Chris Duller, ymgynghorydd glaswelltir ar ran Agriplan Cymru, yn gweithio gyda Gareth Foulkes o Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru mewn partneriaeth â United Utilities i gynnig cipolwg, nid yn unig ar wella cynhyrchiant pridd, ond hefyd ar fanteision sicrhau bod tir mewn cyflwr da, gan wella’r buddion amgylcheddol i nentydd ac afonydd.

“Pan fo strwythur da i’r pridd, mae’r tir mewn gwell lle i allu gwrthsefyll llifogydd a sychder, mae mwy o laswellt yn tyfu, llai o chwyn yn ymddangos yn y llystyfiant ac mae cynhyrchiant y cnydau’n cynyddu. Mae hynny bob amser yn newyddion da i ffermwyr,” eglurodd Gareth Foulkes, sy’n gweithio ym maes glaswelltir a chynhyrchu cnydau yn nalgylch y Dyfrdwy.

“Mae ffermio, glaswellt, cnydau a dyfrgyrsiau’n mynd law yn llaw yn yr ardal hon, felly rydym bob amser yn awyddus i weithio ar ddigwyddiadau ar y cyd i amlygu sut allwn gynorthwyo’n gilydd. Mae ffermwyr wedi bod yn gwarchod ein hardaloedd cefn gwlad ers cenedlaethau, ac mae’n bosibl bod rhai o’r dulliau modern o ymdrin â chwyn a phlaleiddiaid wedi bod yn niweidiol i’r amgylchedd yn y gorffennol.

“Trwy ddeall a derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn ag ansawdd ein pridd, mae ffermwyr yn gallu rheoli plâu megis gwlithod a chwyn megis brwyn, dail tafol a danadl poethion mewn modd sy’n fwy caredig i’r amgylchedd. Mae hyn hefyd yn helpu i leihau’r broblem o blaleiddiaid a dŵr ffo sy’n cynnwys gwaddodion a maetholion yn mynd i mewn i’r system ddŵr. Mae priddoedd iach yn fwy cynhyrchiol ar gyfer y ffermwr, gan ddal gafael ar faetholion a phlaleiddiaid yn well. Golyga hyn nad oes rhaid i gwmnïau dŵr wario cymaint o arian ar drin dŵr, gan gadw’r costau i lawr ar gyfer eu cwsmeriaid,” eglurodd Gareth.

Mae fferm Lower Eyton yn tyfu gwenith gaeaf, haidd gaeaf, haidd gwanwyn ac india-corn porthiant yn ystod y flwyddyn. Mae’r pridd sy’n draenio’n rhydd yn cynnwys clai trymach ger cae ras Bangor Is y Coed a gwaddodion a thywod mewn mannau eraill ger y dŵr. Mae 300 o wartheg bîff yn cael eu pesgi ar y fferm a’u gwerthu pan fyddant oddeutu 28 mis oed ym Marchnad Croesoswallt, ac mae menter wyau maes 5,000 o ddofednod yn gwerthu i frand arbenigol a’u gwerthu trwy Waitrose.

chris duller cae 0
Yn ystod y digwyddiad agored ar fferm Lower Eyton, cafodd 30 o ffermwyr ac ymwelwyr gipolwg ymarferol o asesu’r pridd mewn nifer o gaeau ar fferm y teulu Evans.

Eglurodd yr ymgynghorydd glaswelltir, Chris Duller: “Ar ôl samplu’r pridd ac edrych ar y lefelau ffosffad, potash a pH, gallwn wedyn roi cynllun manwl at ei gilydd i fodloni gofynion caeau unigol. Bydd hyn yn golygu y bydd modd targedu tail a maetholion a brynir i mewn tuag at feysydd penodol sy’n cynnig manteision i broffidioldeb y fferm.”

“Yma ar fferm Lower Eyton, mae Wil a’r teulu wedi bod yn samplu pridd ers nifer o flynyddoedd, ond hyd yn oed ar fferm âr a glaswelltir cymysg blaengar fel hon, mae lle i wella bob amser. Dim ond rhan o’r stori yw cemeg y pridd - mae’n rhaid  ni sicrhau bod strwythur a bioleg y pridd hefyd mewn cyflwr da,” eglurodd Chris Duller.

Allan ar gaeau Lower Eyton, eglurodd yr arbenigwr glaswellt bod trin eich pridd eich hun yn cynnig nifer o fanteision i’r penderfyniadau a wneir ynglŷn â phlannu, pori a chynaeafu. Wrth balu troedfedd sgwâr o dywyrch, roedd nifer y pryfed genwair a welwyd yn y pridd yn creu sianeli draenio yn ardderchog, meddai Chris.

“Roedd modd gweld pa mor iach oedd y pridd o ran nifer y pryfed genwair a welwyd, ac roedd modd gweld strwythur da i’r pridd a dyfnder gwreiddio effeithlon. Hyd yn oed mewn cae o wreiddiau wedi’u pori ganol gaeaf, lle byddech yn disgwyl gweld cywasgiad pridd, gwelwyd strwythur ac ansawdd iach.

“Mae’r pridd yn iach yma ar y cyfan, a gyda’n dadansoddiad manwl, bydd Wil yn gallu gwella

chris duller gwrando
effeithlonrwydd y pridd mewn rhai o’r mannau sydd angen sylw pellach. Mae’n awyddus i edrych ar ffermio manwl gywir, ac mae’r prosiect hwn wedi rhoi mwy o wybodaeth iddo allu symud ymlaen,” eglurodd Chris.

Mae argymhellion ar gyfer y fenter fferm yn cynnwys symud oddi wrth brynu gwrtaith yn rheolaidd i brynu gwrtaith yn seiliedig ar statws y pridd a gofynion unigol y cnwd a heuwyd. Bydd hyn yn golygu y bydd y busnes yn cael yr elw gorau posib o’r buddsoddiad. Amcangyfrifwyd bod y tail sy’n cael ei gynhyrchu ar y fferm werth oddeutu £1,019 am y tail dofednod a £4,580 am y tail gwartheg. Mae’n hanfodol felly i sicrhau bod maetholion y deunydd organig yma’n cael eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon ar y tir fferm.

I gloi, dywedodd Chris Duller: “Un o’r prif negeseuon i ffermwyr yw y bydd pridd iach yn fwy parod i wrthsefyll hinsawdd sy’n newid. Gwnewch reolaeth pridd yn flaenoriaeth. Profwch y pridd, trefnwch ddadansoddiad slyri, sicrhewch fod y swm cywir o faetholion yn mynd i’r lle iawn ar yr adeg iawn a byddwch ar y trywydd iawn.”

Mae Cyswllt Ffermio yn brosiect sydd wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol
17 o gyrsiau newydd wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio
03 Ebrill 2024 Mae 17 cynnig newydd bellach ar gael drwy raglen