Prosiect Safle Ffocws: Brechiad Hunangenedledig - Mycoplasma Bovis

Nod y prosiect:

  • Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o Mycoplasma Bovis fel clefyd sy’n achosi’r pedwar prif glefyd mewn gwartheg; niwmonia, haint y glust ganol, mastitis a llid y cymalau mewn gwartheg o bob oed.
  • Gan amlaf mae Mycoplasma Bovis yn cael ei reoli drwy ddefnyddio gwrthfiotigau. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar ba mor effeithiol yw brechiad hunangenedledig sy’n frechiad penodol/wedi’i addasu i’r fferm. Nid oes brechiad ar gael i Mycoplasma Bovis sy’n cael ei fasgynhyrchu.
  • Bydd y prosiect hwn yn dangos y broses sydd angen ei roi ar waith er mwyn creu brechiad sydd wedi’i addasu i’r fferm, a sicrhau bod ffermwyr yn ymwybodol o glefydau eraill sy’n medru cael eu rheoli gan frechiad hunangenedledig.
  • Bydd y prosiect yn dangos dull sy’n atal y clefyd.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Erw Fawr
Ceredig a Sara Evans Erw Fawr, Caergybi, Ynys Môn Meysydd
Graig Olway
Russell Morgan Llangyfiw, Brynbuga Meysydd allweddol yr hoffech
Fferm Rhiwaedog
Emyr, Aled a Dylan Jones Fferm Rhiwaedog, Y Bala, Gwynedd Meysydd