Ystâd Rhug, Corwen, Sir Ddinbych
Prosiect Safle Ffocws: Diogelu uned bîff at y dyfodol - croesawu technoleg newydd er mwyn ymdopi gyda dyfodol ansicr
Nod y prosiect:
- Gyda chymaint o amrywiaeth a ffactorau sy’n cyfyngu ar elw systemau pesgi yn y gaeaf, mae’n rhaid i ffermwyr sy’n pesgi sicrhau gwell dealltwriaeth o’u costau er mwyn gweld lle gellir gwneud arbedion a datblygu dull gweithredu strategol tuag at besgi bîff
- Mae Gareth Jones, Rheolwr Fferm Ystâd Rhug eisiau ail asesu’r fenter pesgi gwartheg bîff er mwyn sicrhau ei fod mewn sefyllfa ariannol gadarnhaol ar gyfer y dyfodol lle bo posibilrwydd na fydd taliadau cefnogi ar gael.
- Yn ogystal, mae’n awyddus i ddefnyddio technoleg EID yn y busnes er mwyn creu dangosyddion perfformiad allweddol a chynorthwyo gyda chynllunio’r farchnad a monitro perfformiad.
- Y nod yn y pen draw i Gareth Jones yw gallu gwneud penderfyniadau deallus ar ran y fenter yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda o’i gostau.