21 Ebrill 2021

 

Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae'r materion amgylcheddol a'r ymwrthedd sy'n dod i'r amlwg i blaladdwyr wedi ysgogi rhoi ystyriaeth i strategaethau amgen, gan gynnwys cyfryngau biolegol.
  • Mae tocsinau o facteria wedi cael eu hymgorffori mewn fformwleiddiadau o fio-blaladdwyr fel cynhwysion actif effeithlon, penodol a bioddiraddadwy.
  • Mae pryfed ysglyfaethus fel gwenyn meirch parasitoid a buchod coch cwta wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus mewn amgylchiadau rheoledig ond mae risg iddynt ddod yn ymledol neu efallai eu bod yn anaddas i'w defnyddio mewn caeau agored.
  • Mae adar yn rhoi gwasanaethau ecosystem annatod gan gynnwys rheoli plâu mewn cnydau. Gall gwella’r amgylchedd trwy roi gwrychoedd neu flychau nythu eu denu i'r ardal i ysglyfaethu ar blâu cnydau.

 

Mae plaladdwyr yn rhan annatod o amaethyddiaeth a sicrwydd bwyd, yn hwyluso’r broses o gynhyrchu bwyd diogel o ansawdd uchel i fwydo ein da byw a'r boblogaeth ddynol sy'n tyfu. Mae defnyddio plaladdwyr wedi caniatáu cynhyrchu mwy o fwyd fesul darn penodol o dir, gan gynyddu faint a gynhyrchir a refeniw ffermydd. Er bod arwynebedd y tir sy’n cael ei drin gan y cemegolion hyn wedi dyblu bron yn y DU dros y 25 mlynedd diwethaf, mae cyfanswm y pwysau a ddefnyddiwyd wedi haneru bron – sy'n awgrymu bod cyfansoddion mwy effeithiol wedi’u datblygu. Pan gânt eu defnyddio'n gywir, mae plaladdwyr yn arf amaethyddol pwysig. Fodd bynnag, nid ydynt heb eu problemau. Ar ôl eu rhoi gall plaladdwyr lifo i'r amgylchedd cyfagos, yn enwedig i gyrsiau dŵr, gan achosi halogiad gwasgaredig. Gall hyn olygu bod y plaladdwyr yn cyrraedd rhywogaethau ar wahân i’r rhywogaeth darged boed hynny’n anifeiliaid neu’n blanhigion, a gall achosi difrod. Yn ei dro, mae gan hyn y potensial i leihau bioamrywiaeth ac ansefydlogi ecosystemau. Yn ogystal â'r goblygiadau amgylcheddol, gall rhai plaladdwyr hefyd gael effeithiau niweidiol ar bobl, gan achosi anawsterau anadlu neu anafiadau i'r croen. Gyda rheolaethau llym ar ddatblygu a defnyddio plaladdwyr, mae strategaethau biolegol neu integredig ar gyfer rheoli plâu wedi cael sylw mawr gyda'r bwriad o leihau dibyniaeth ar gemegau. Mae strategaethau o'r fath yn defnyddio ysglyfaethwyr naturiol ar blâu targed, sy'n bwyta'r pryfed hynny’n benodol. Mae’r strategaethau hefyd yn gwneud defnydd strategol o blaladdwyr ac yn monitro planhigion/cnydau yn systematig. Nod strategaethau o'r fath yw lleihau'r risg o broblemau i’r amgylchedd ac iechyd pobl sy'n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr, yn ogystal â mynd i’r afael ag ymwrthedd i blaladdwyr a sicrhau cyflenwad bwyd diogel, sicr a phroffidiol. Yn wir, mae rhai bio-blaladdwyr wedi dod yn fwy poblogaidd yn y DU yn y blynyddoedd diwethaf, gyda’r defnydd o fformwleiddiadau sy'n defnyddio tocsinau sy'n deillio o facteria yn cynyddu o rhwng 68 ac 86%.

Mae rheoli plâu mewn ffordd fiolegol yn cynnwys defnyddio organebau eraill. Gall y rhain fod yn ficrobau, parasitiaid, pryfed ysglyfaethus a hyd yn oed anifeiliaid bach, fel adar. Mae'r organebau hyn yn amrywio yn ôl y pla targed ac maent yn fwyaf effeithiol o’u rhoi ar gnydau dan orchudd, er bod rhai wedi'u defnyddio mewn caeau hefyd. Mae defnyddio bio-reolaethau yn agor y cyfle i leihau dibyniaeth ar blaladdwyr, gan leihau'r risg o ymwrthedd a chynnig gweithgarwch parhaus wrth iddynt atgenhedlu ohonynt eu hunain. Fodd bynnag, mae angen buddsoddi rhyw gymaint yn achos rhai bio-reolaethau, ac nid ydynt yn ddatrysiad uniongyrchol na thymor byr gan fod cyfnod o aros yn aml tra bo'r organebau'n sefydlu eu hunain. Y cyfyngiad amlycaf o ran bio-reolaethau yw eu defnydd mewn caeau – pan fydd yr amgylchiadau yn y cnydau yn llai na’r hyn sy’n ddelfrydol i’r ysglyfaethwr, bydd yn gadael. Efallai y bydd hyn yn sgil dirywiad ym mhoblogaeth y pla targed wrth i’r boblogaeth ysglyfaethus fynd yn rhy fawr, neu yn sgil tarfiadau wrth i’r cae gael ei reoli. Am y rheswm hwn, mae bio-reolaethau i'w gweld amlaf mewn amgylcheddau rheoledig fel tai gwydr. Ond nid yw hynny'n golygu na ellir eu haddasu i'w defnyddio mewn cnydau cae. Rhaid i organeb bosibl ar gyfer bio-reolaeth fodloni sawl maen prawf cyn ystyried ei datblygu: dylai fod yn benodol ac effeithiol iawn yn erbyn y pla targed; dylai fod modd ei meithrin yn rhwydd a’i lluosogi’n gyflym; dylai fformwleiddiadau bara’n weddol hir cyn dirywio, dylent fod yn weddol sefydlog, ac ni ddylent fod yn niweidiol i bobl nac i organebau ar wahân i’r rhywogaethau targed.

 

Microbau

Gellir defnyddio microbau fel bacteria a ffyngau mewn bio-reolaethau yn ogystal ag organebau parasitig, ac mae’r rhain i gyd yn targedu rhai plâu yn benodol. Mae'r bacteriwm Bacillus thuringiensis (B. thuringiensis) yn byw yn naturiol yn y pridd (yn ogystal â dail a dŵr) ac yn cynhyrchu sawl tocsin sy'n targedu infertebratau. Proteinau crisialog yw’r endotocsinau hyn sydd, trwy gyfres o ddigwyddiadau, yn y pen draw yn mewnosod eu hunain yng nghellbilen y pryfyn sy'n achosi i’r pryfyn farw. Mae wedi’i gofnodi bod llawer o wahanol bryfed yn gallu bod yn ysglyfaeth i B. thuringiensis, gan gynnwys gloÿnnod byw a gwyfynod, pryfed ffrwythau, sboncynnod y dail, chwilod du a'r gwiddonyn dau smotyn yn ogystal â rhai parasitiaid fel Haemonchus sp. (llyngyren y stumog), Nematodirus a Toxoplasma sp. Mae'r endotocsinau bacteriol hyn yn benodol iawn ac nid ydynt yn niweidiol i bobl nac i fertebratau eraill, nac ychwaith i bryfed buddiol. Ynghyd â chynhwysion bioddiraddadwy eraill, mae proteinau B. thuringiensis wedi'u hymgorffori mewn amrywiaeth o gymwysiadau masnachol fel dewis sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ar gyfer rheoli plâu. Fodd bynnag, eu bioddiraddadwyedd yw eu prif anfantais gan fod yr endotocsinau yn agored i nifer o ffactorau amgylcheddol megis pH, tymheredd a golau haul. I fynd i’r afael â hyn, mae gwahanol ddulliau wedi'u mabwysiadu ar gyfer mewngapsiwleiddio i amddiffyn ac ymestyn oes fformwleiddiadau chwistrelladwy. Bydd datblygu'r mecanweithiau amddiffynnol hyn yn eu gwneud yn fwy effeithiol ac yn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt, oherwydd ar hyn o bryd mae eu presenoldeb yn y farchnad fyd-eang o blaladdwyr mor isel â 2%, er bod yr ymateb i’r fformiwleiddiad hwn wedi bod yn dda yn y DU gyda'r defnydd rhwng 2017-19 yn cynyddu 86%.

 

Pryfed ysglyfaethus

Dull arall o fio-reolaeth a ddefnyddir yn ehangach yw defnyddio pryfed ysglyfaethus, sef organebau cigysol mwy o faint sy'n ysglyfaethu'n benodol ar rywogaethau o blâu. Mae gwenyn meirch parasitoid yn enghraifft ddiddorol. Uwchdeulu mawr o bryfed yw’r rhain sy'n defnyddio corff pryfyn llai, y lletywr, i ddodwy a deor eu hwyau. Yn anochel, mae deor yr wyau yn arwain at farwolaeth y lletywr, a allai fod yn bla amaethyddol o bwys. Yn hanfodol, nid yw gwenyn meirch parasitoid yn fygythiad i bobl. Mae gan y benywod wyddodydd mawr, nad yw’n niweidiol, ar ddiwedd yr abdomen sy'n aml yn cael ei gamgymryd am bigyn. Fel cyfrwng bio-reolaeth, mae'r rhywogaeth Aphidius sy'n bwyta llyslau yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus, ac mae'n cael ei defnyddio'n helaeth mewn tai gwydr ac amgylcheddau rheoledig eraill. Mae astudiaethau wedi canfod bod A. colemani yn benodol wedi cyflawni cyfradd reoli sy'n debyg iawn i'r plaladdwr safonol, Marathon 1% G mewn blodau ffarwel haf sy’n cael eu tyfu mewn tai gwydr. Fodd bynnag, roedd lefelau parasitiaeth yn amrywio'n fawr, o 48.9% i 83.4% rhwng lleiniau, sy'n awgrymu amrywiad yn yr effeithiolrwydd unigol. Mae awduron hefyd yn nodi bod defnyddio gwenyn meirch parasitoid yn llawer mwy diogel na phlaladdwr cemegol, o ran iechyd pobl a'r amgylchedd, ac mae’r pellteroedd gwasgaru’n dda am fod y gwenyn meirch yn chwilio am ysglyfaeth. Wrth i'r defnydd o wenyn meirch parasitoid ddatblygu, mae’r gost o’u defnyddio hefyd wedi gostwng. Mae'r rhywogaeth hon yn gymharol hawdd i'w magu yn fasnachol ond gall ei dosbarthu fod yn broblemus, oherwydd gall eu cludo arwain at farwolaethau.

Efallai mai'r organeb fwyaf adnabyddus o ran bio-reolaeth yw'r fuwch goch gota, sy'n ysglyfaethu’n helaeth ar lyslau, pryfed gwyn, a phryfed cennog. Mae yna lawer o wahanol rywogaethau o fuchod coch cwta, ac mae pob un ohonynt yn ysglyfaethu ar rywogaeth benodol. Yr un a ddefnyddir amlaf ar gyfer bio-reolaeth yn Ewrop yw'r fuwch goch gota amryliw (Harmonia axyridis). Mae’r fuwch goch gota amryliw yn ysglyfaethwr tymhorol ac mae'n ymosod ar sawl rhywogaeth o blâu llyslau mewn cnydau cae a pherllan. Pan gafodd ei chyflwyno i Ogledd America, gwasgarodd y pryf hwn yn gyflym dros bellteroedd maith, ac yn y pen draw daeth yn un o'r rhywogaethau mwyaf cyffredin o fuwch goch gota yn UDA. Mewn astudiaethau rheoledig, mae'r gostyngiad canrannol mewn poblogaethau llyslau yn amrywio'n fawr, o 65 i 99.5% gan ddangos perthynas linol â’r gymhareb buwch goch gota: llyslau – po fwyaf o fuchod coch cwta, y mwyaf yw'r gostyngiad yn y llyslau. Yn benodol, mae rhyddhau larfâu H. axyridis wedi bod yn llwyddiannus, gyda phoblogaethau llyslau ar blanhigion mefus yn gostwng 85% dros gyfnod arsylwi 29 diwrnod. Fodd bynnag, pan ddefnyddiwyd cymysgedd o larfâu ac oedolion, roedd y canlyniadau'n fwy anghyson. Gwelwyd gostyngiad o 80% ym mhoblogaeth y llyslau ar ôl 7 diwrnod, ond neidiodd hyn yn ôl i fyny i ostyngiad o ddim ond 38% ar ddiwrnod 21 ac yna yn ôl i lawr i 78% ar ddiwrnod 35, yn debygol am fod y cylch o larfâu ac oedolion yn symud oddi wrth y cynefin. Un datrysiad posib i'r broblem o’r fuwch goch gota yn hedfan i ffwrdd yw defnyddio straeniau sy’n naturiol ddihediad. Wrth gymharu rhyddhau A. axyridis dihediad â’r rhai hedegog, darganfu astudiaeth fod lefelau poblogaethau llyslau a’r amrywiadau ynddynt yn sylweddol lai yn achos buchod coch cwta dihediad o gymharu â'r rhai hedegog. Mewn poblogaethau a gafodd eu trin â buchod coch cwta hedegog, gwelwyd gostyngiad o ddim mwy nag 83% tra bod buchod coch cwta dihediad wedi arwain at ostyngiad o 98%. Mae astudiaeth arall yn cefnogi'r canlyniad hwn, a welodd fwy o fuchod coch cwta dihediad ar blanhigion wy am gyfnod hirach na’r rhai hedegog, yn ogystal â rheolaeth o lyslau sy’n arwyddocaol fwy effeithiol. Ymysg y dulliau newydd eraill mae defnyddio fferomonau i ddenu a chynnal buchod coch cwta mewn cnwd, ond nid yw cost a dichonoldeb y dull hwn wedi'u gwerthuso eto.

Nod prosiect gan EIP Cymru yw gwerthuso effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd defnyddio pryfed ysglyfaethus fel bio-reolaethau mewn ffrwythau meddal o'i gymharu â dulliau confensiynol. Bydd y prosiect yn ymchwilio i'w haddasrwydd ar gyfer eu defnyddio ar ddwy fferm ffrwythau yng Nghymru, ar yr un pryd ag yn datblygu sgiliau adnabod plâu i helpu ffermwyr i gael y gorau o'r bio-reolaethau.

 

Y brif her o ran cyflwyno pryfed ysglyfaethus yw'r posibilrwydd y bydd rhywogaeth estron, anfrodorol yn dianc i'r amgylchedd cyfagos ac yn disodli pryfed brodorol. Mae H. axyridis yn enghraifft wych o hyn, am ei fod yn fygythiad sylweddol i bryfed lleol eraill sy'n bwyta llyslau. A dweud y gwir, mae'r rhywogaeth hon wedi dod mor llwyddiannus yn UDA nes ei bod bellach yn cael ei hystyried yn bla ac yn niwsans i bobl. Mae ei chyfraddau atgenhedlu uchel, ei heffeithiolrwydd fel ysglyfaethwr a’i chyfraddau gwasgaru da, pob un yn rhinweddau rhagorol mewn cyfrwng bio-reolaeth, hefyd yn gwneud H. axyridis yn rhywogaeth ymledol lwyddiannus. Er bod yr ysglyfaethwr yn aml yn marw unwaith y bydd poblogaeth gychwynnol y pla wedi’i dinistrio, weithiau bydd yr ysglyfaethwr yn dod o hyd i darged mwy agored iddo neu'n symud i'r amgylchedd cyfagos, fel sydd wedi digwydd yn achos y fuwch goch gota amryliw.

Er mwyn osgoi problemau mewn perthynas â chyflwyno rhywogaethau ymledol estron, gallem ystyried newid a gwella'r amgylchedd yn y cae i ddenu ysglyfaethwyr naturiol. Gellid gwneud hyn trwy ddefnyddio gwrychoedd, coed neu ymylon heb eu trin o amgylch caeau. Edrychodd un astudiaeth ar y defnydd o ymylon rhygwellt o amgylch lleiniau gwenith, gan ganfod bod dwysedd poblogaeth y buchod coch cwta (3.5 y m2) yn sylweddol uwch yn yr ymylon nag yn y lleiniau gwenith (1.5 m2). Ond, ar ôl torri'r rhygwellt, gorfodwyd y buchod coch cwta i symud i'r caeau gwenith. Tri ac wyth diwrnod ar ôl torri, roedd niferoedd y llyslau yn y gwenith wedi gostwng yn sylweddol – 19.9% a 53.6%, yn y drefn honno. Mae tystiolaeth o'r fath yn awgrymu y gallai ymylon sy’n cael eu rheoli fymryn o amgylch caeau ddenu poblogaethau buchod coch cwta, ac ar ôl hynny, gallai torri'r glaswellt yrru buchod coch cwta i mewn i gnydau i reoli poblogaethau llyslau.

 

Adar

Mae'r rhan fwyaf o'r strategaethau uchod yn fwyaf addas i'w defnyddio mewn amgylcheddau rheoledig, h.y. tai gwydr, ac ni fyddent yn ymarferol neu'n effeithiol mewn cae agored. Ond nid yw hynny'n golygu na ellir defnyddio bio-reolaethau ar dir cnydau hefyd, yn bennaf trwy ddarparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt lleol a chefnogi bioamrywiaeth. Mae adar pryfysol yn enghraifft allweddol o hyn. Mae llawer o rywogaethau adar sy'n frodorol i'r DU yn bryfysol neu’n hollysol, o’r aderyn preswyl corhedydd y waun i wenoliaid tymhorol. Yn arbennig, mae llawer o adar y DU yn dibynnu'n llwyr ar bryfed i fwydo eu cywion. O'r herwydd, gall darparu safleoedd nythu diogel, ar ffurf coed neu wrychoedd na chânt eu torri na'u cynaeafu, ger y cnwd targed ddenu adar pryfysol i'r ardal i chwarae rôl mewn rheoli plâu. Mae astudiaethau niferus mewn cynefinoedd naturiol ac amaethyddol yn dangos bod adar yn lleihau poblogaethau pryfed a hefyd bod planhigion yn aml yn ymateb gyda chyfraddau twf uwch neu gyfraddau uwch o gnydau. Gall denu adar pryfysol i ardaloedd amaethyddol hefyd gynorthwyo i warchod rhywogaethau sy'n dirywio, darparu gwasanaethau ecosystem diwylliannol fel gwylio bywyd gwyllt, ac ymateb i ddewisiadau defnyddwyr – gan roi manteision economaidd i ffermwyr o bosibl.

 

Defnyddiodd astudiaeth yng Nghaliffornia lindys mewn cnwd Brassica i ddenu poblogaethau adar lleol a oedd i’w cael yn naturiol, a dros 7 awr, bwytodd adar preswyl hyd at 80% o’r lindys, gyda chyfartaledd o 24%. Nododd yr awduron fod y tebygolrwydd o gael gwared ar bla yn sylweddol uwch mewn ardaloedd â gwrychoedd. Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu y gallai adar fod yn fwy defnyddiol wrth ymateb i achosion dwys o blâu nag wrth reoli plâu ar lefel waelodol. Mae atal achosion dwys o blâu yn wasanaeth ecosystem hanfodol ar unrhyw fferm, a gallai ymateb cyflym adar i achosion o’r fath fod yn fanteisiol. Mae astudiaethau sy'n defnyddio blychau nythu artiffisial ar gyfer adar pryfysol hefyd wedi rhoi canlyniadau diddorol. Ar ôl rhoi blychau mewn perllannau afalau, gwelwyd gostyngiad o 52% mewn plâu arthropod gyda gostyngiad o 17% yn y tebygolrwydd y bydd pla yn digwydd. Canfu'r astudiaeth a gynhaliwyd yn Sbaen amrywiad blynyddol o 25-33% ym meddiannaeth blychau nythu, a'r deiliaid mwyaf cyffredin oedd y titw mawr, titw tomos las ac ambell i dingoch. Roedd gwahanol rywogaethau nythu yn ysglyfaethu ar wahanol blâu, gyda’r titw tomos las yn ffafrio plâu arthropod ac yn bwydo’r cywion yn gyflymach na'r titw mawr, a oedd yn ffafrio larfâu glöynnod byw a lindys. Mae'r gwaith hwn hefyd yn awgrymu nad yw ysglyfaethu adar yn effeithio ar niferoedd peillwyr a bod yr adar hyn mynd yn bell i chwilio am fwyd, yn cynnwys y berllan gyfan (hyd at 24 ha). Canfu arbrawf arall wedi'i leoli mewn perllan afalau yn America fod rhoi mynediad i adar yn cynyddu cyfraddau ysglyfaethu ar larfâu gwyfynod niweidiol o 11 i 46% - gwellwyd ar hyn trwy gynyddu cyfran y cynefin lled naturiol gerllaw - a gyflawnwyd trwy gadw hen goed a gwrychoedd o amgylch tir amaethyddol.

Nid yw gwasanaethau ecosystem eraill fel effaith adar ysglyfaethus ar boblogaethau cnofilod wedi’u hastudio cystal, ond mae'r canlyniadau a welwyd hyd yma yn awgrymu bod adar ysglyfaethus yn cyfrannu at reoli plâu mamalaidd. Roedd clwydi adar a osodwyd o amgylch caeau ffa soia yn Awstralia yn cynyddu nifer yr adar ysglyfaethus o amgylch a thros y caeau, a oedd yn ei dro yn lleihau poblogaethau llygod bach. Yn yr un modd, canfu astudiaeth yn Sbaen fod darparu blychau nythu priodol yn gwella dwysedd y cudyll coch a’r dylluan wen o amgylch tir âr a oedd yn ei dro yn lleihau nifer y llygod pengrwn cyffredin yn sylweddol.

Er gwaethaf yr holl fuddion a welwyd y mae adar yn eu cynnig mewn lleoliad amaethyddol, nid ydynt heb eu hanfanteision. Mae llawer o adar yn ffrwythyswyr – yn bwydo ar ffrwythau yn bennaf – neu'n bwyta hadau, a allai fod yn fygythiad i gnydau grawnfwyd. Os felly, mae'n bwysig gwerthuso effaith net denu adar i'r ardal, mewn rhai achosion. Er enghraifft yn achos ffrwythau gwerth uchel, dwys eu hegni, gall yr effaith at ei gilydd fod yn negyddol a'r strategaeth yn anaddas. Wedi dweud hynny, gall mesur y manteision a’r anfanteision i’r ecosystem fod yn gymhleth iawn, ac mae rhai yn llawer haws i'w harsylwi a'u meintioli, megis difrod uniongyrchol i gnwd, tra bo manteision fel rheoli plâu yn llai amlwg.

 

Crynodeb

Er bod plaladdwyr yn rhan hanfodol o gynnal cyflenwad bwyd diogel ac o ansawdd uchel, maent hefyd yn niweidiol iawn i'r amgylchedd ac i iechyd pobl, ac mae problemau difrifol nawr yn codi o ganlyniad i ymwrthedd i blaladdwyr. Er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar blaladdwyr cemegol, un opsiwn yw edrych ar gyfryngau biolegol ar gyfer rheoli plâu – organeb fyw sydd â'r gallu i reoli plâu. Mae'r endotocsin o B. thuringiensis yn enghraifft dda o gyfrwng microbaidd, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn rhai cynhyrchion masnachol. Mae'r tocsin hwn yn benodol ac effeithiol iawn, ond mae hefyd yn sensitif i'r amgylchedd ac yn fioddiraddadwy, ac felly mae angen haenau amddiffynnol ar y tocsin i sicrhau ei fod yn gweithio. O bosib un o'r strategaethau mwyaf adnabyddus yw defnyddio pryfed ysglyfaethus, fel buchod coch cwta, i reoli rhywogaethau o blâu ar blanhigion a chnydau. Mewn amgylcheddau rheoledig mae buchod coch cwta yn effeithiol wrth reoli poblogaethau o lyslau, gyda gostyngiadau o hyd at 99.5%. Mae astudiaethau hefyd yn awgrymu y gall ymylon rhygwellt o amgylch caeau hefyd annog buchod coch cwta i'r ardal, yna, ar ôl torri’r rhygwellt bydd y pryfed yn symud i'r cnydau ac yn ysglyfaethu ar blâu. Fodd bynnag, ychydig iawn o bryfed ysglyfaethus sy'n addas i'w rhoi ar gnydau mewn cae, yn anad dim oherwydd eu bod yn debygol o adael tir cnydau a lledaenu i'r ardal leol. Gall hyn arwain at broblemau gyda'r rhywogaeth ymledol estron yn trechddisodli pryfed brodorol ac yn lleihau bioamrywiaeth. Mae adar yn opsiwn arall ar gyfer bio-reolaeth, trwy wella'r amgylchedd cyfagos trwy ddefnyddio gwrychoedd neu flychau nythu i ddenu adar pryfysol i nythu ac i reoli plâu. Mae’r titw mawr a’r titw tomos las yn profi i fod yn effeithiol wrth reoli lindys a phlâu arthropod a gellir eu denu i dir fferm trwy roi blychau nythu. Yn ogystal ag ar gyfer rheoli plâu, mae cefnogi adar brodorol yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth mewn ardaloedd lleol a gallai annog gwasanaethau ecosystem diwylliannol fel gwylio adar.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024