Prosiectau Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru (EIP Wales)
Mae EIP yn Nghymru yn darparu cyllid ar gyfer 46 prosiect o bob cwr o Gymru sy’n treialu technegau a thechnolegau arloesol ar lefel ymarferol o fewn busnesau ffermio a choedwigaeth. Mae dros 200 o ffermwyr a choedwigwyr yn rhan o’n prosiectau, ac mae pob grŵp hefyd yn cynnwys amrywiaeth o wahanol bobl gan gynnwys ymgynghorwyr, ymchwilwyr, busnesau a Chyrff Anllywodraethol. Trwy ddod â phobl gyda gwahanol arbenigeddau ynghyd, ceir cyfle i elwa o wahanol brofiadau, cyflwyno syniadau newydd a defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf i fynd i’r afael â phroblemau penodol. Ein rôl ni yw rhannu’r canlyniadau gyda’r diwydiant er mwyn i bobl eraill hefyd allu elwa o’r prosiectau hyn.
Isod gweler prosiectau Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru (EIP) sy'n gysylltiedig â garddwriaeth.