Gwella gwybodaeth a phrofiad o reoli meicrofaethynnau wrth gynhyrchu pompiynau yng Nghymru

Mae pompiynau’n cynnwys nifer o gnydau pwysig fel courgette, maro, pwmpen a sgwash. Mae'r cnydau hyn yn gadarn a gallant gael eu tyfu o dan amryw o amodau yn y cae, a chynnig mwy o amrywiaeth i fusnesau tebyg i siop fferm. Gan mai cnydau cae yw’r rhain, mae modd eu cyfuno hefyd mewn system gnydio gymysg, neu gallant gynnig cnwd arallgyfeirio hwylus ar ffermydd âr. Mae pwmpenni’n gallu cynnig enillion gwerthfawr drwy farchnadoedd lleol lle bydd pobl yn pigo’u ffrwythau eu hunain ar gyfer Calan Gaeaf, ond mae twf parhaol wedi bod o ran pwmpenni i’w bwyta, gyda nifer o fathau adnabyddus i’w bwyta ar gael i’r tyfwyr erbyn hyn.

Un broblem gyffredin yn y grŵp cnydau hwn yw eu bod yn datblygu mathau o bydredd fel Pydredd o Waelod y Ffrwyth (BER) sy'n gallu gwneud y ffrwyth yn amhosibl ei werthu. Gall BER arwain at golledion arwyddocaol yn y cnwd ac mae'n un o'r prif ffynonellau gwastraff yn y sector hwn. Mae ystod gyfyngedig o gynhyrchion ar gael i amddiffyn planhigion rhag ffwng, ond ffwngleiddiaid generig yw’r rhain felly fe all defnyddio’r rhain mewn cae agored fod yn anaddas.

Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu bod datblygiad BER yn debygol o fod yn gysylltiedig â statws maethol y cnwd, a’r gred yw y gall rheoli statws maethol y cnwd o ran calsiwm a boron fod yn ddull rheoli. Proses anodd a chymharol araf yw rheoli maeth y cnwd drwy'r pridd, ac felly gall rhoi calsiwm a boron yn syth i'r planhigyn drwy eu bwydo drwy’r dail fod yn ddull mwy effeithiol. Yn y dull hwn, defnyddir maetholion ar ddail a ffrwythau'r planhigyn ar ffurf niwl mân sydd wedyn yn cael ei amsugno gan y planhigyn.

Bydd dwy uned arddwriaeth ar raddfa gymharol fach yn Aberhonddu, sy'n aelodau o rwydwaith Tyfu Cymru, yn cydweithio yn y prosiect hwn dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn sicrhau rhagor o wybodaeth ynghylch a all calsiwm a boron, o’u bwydo drwy ddail y cnwd, leihau nifer yr achosion o BER yn eu cnydau pwmpenni.

 

Cynllun y prosiect 

  • Bydd o leiaf pump o fathau gwahanol o gynhyrchion calsiwm a boron sydd ar gael yn fasnachol i’w bwydo drwy’r dail yn cael eu treialu dros ddau dymor tyfu ar y ddau safle.
  • Bydd y cynhyrchion yn cael eu treialu ar dri bloc dyblyg sy’n 10 m o hyd ac yn cynnwys pedair rhes o un amrywogaeth o bwmpen (Harvest Moon), gyda dwysedd o 1 bwmpen y m2.
  • Bydd y cynhyrchion i’w chwistrellu ar y dail yn cael eu defnyddio bob 10 – 14 diwrnod ar ôl dechrau blodeuo (tua 4 – 6 wythnos ar ôl plannu), gan barhau hyd nes bod y dail yn dechrau heneiddio. Bydd yna lain heb ei thrin hefyd i weithredu fel cymhariaeth.
  • Bydd arsylwadau yn cael eu gwneud o gyflwr y cnwd yn y maes (dwysedd y canopi, cloroffyl ac egni’r dail) gydol y tymor ynghyd â mynychder a difrifoldeb symptomau gweladwy BER (e.e. mynychder y pydredd).
  • Adeg eu cynaeafu, bydd nifer y ffrwythau o bob llain yn cael ei gofnodi a chânt eu hasesu o ran ansawdd (maint, lliw, cadernid y ffrwythau, y graddau masnachol). Bydd rhai pwmpenni o bob llain hefyd yn cael eu profi am eu hoes ar y silff am hyd at 28 diwrnod.

Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn darparu canllawiau i dyfwyr bach ar sut y gall mynychder BER ar eu cnydau gael ei leihau drwy fwydo meicrofaethynnau drwy’r dail. Gallai hynny arwain wedyn at well ansawdd yn y cynnyrch a gwerthiant uwch, a gallai hefyd leihau gwastraff yn y cnydau a lleihau faint o ffwngleiddiad sy’n cael ei ddefnyddio.