16 Awst 2021
Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Gellir integreiddio technolegau o fewn isadeiledd ar y fferm er mwyn gwella lles anifeiliaid
- Mae gan systemau sy’n cynyddu’r gallu i fonitro grwpiau o anifeiliaid fel unigolion y potensial i roi hwb sylweddol i les anifeiliaid
- Mae siediau ac adeiladau eraill yn cynnig lleoliadau sefydlog lle gellir defnyddio synwyryddion i fonitro da byw yn rhwydd o ran pŵer a chynnal a chadw o’i gymharu â synwyryddion ar anifeiliaid
Er bod ystyriaethau isadeiledd cyffredinol yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid (gyda sgil effaith ar gynhyrchiant), ceir hefyd ddatblygiadau technolegol sy’n gallu gwella ac ategu at isadeiledd adeiladau anifeiliaid er mwyn gallu rheoli’n fwy manwl gywir. Mae isadeiledd megis adeiladau, siediau a pharlyrau godro’n cynnig lleoliadau sefydlog gwych lle gellir gosod gwahanol dechnoleg ac mae hyn yn aml yn gallu goresgyn problem gyffredin ym maes technolegau da byw manwl gywir (PLF), sef pŵer ac oes batri (gan fod y mwyafrif o adeiladau’n debygol o fod â chyflenwad trydan). Hyd yn oed os nad yw’r anifeiliaid yn cael eu cadw dan do drwy’r amser, gall technolegau fod yn adnoddau defnyddiol er mwyn asesu iechyd a lles anifeiliaid o bryd i’w gilydd. Yn gyffredinol, mae systemau isadeiledd adeiladau hefyd yn fwy tebygol o fod â chyswllt Wi-Fi neu fand eang uniongyrchol er mwyn gallu hwyluso cyswllt â “Rhyngrwyd y Pethau” gan atal rhai o’r problemau isadeiledd digidol cyffredin mewn ardaloedd gwledig. Am wybodaeth fwy penodol ynglŷn â thechnolegau mewn gwahanol feysydd, gweler erthyglau blaenorol sy’n canolbwyntio ar foch, dofednod, gwartheg, effeithiau hinsoddol ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Integreiddio technoleg mewn isadeiledd
Gofod
Mewn systemau dan do megis dofednod a moch, gwelwyd tystiolaeth fod cyfuniad o synwyryddion wedi gweithio’n dda o ran asesu’r gofod a ddarperir dan do i sicrhau’r safonau lles gorau posibl. Mewn systemau dofednod, mae cyfuniad o systemau GIS a synwyryddion radio pellter byr (RFID) wedi’u gosod ar yr adar ac o gwmpas y siediau, ynghyd â recordiadau fideo, wedi galluogi ymchwilwyr i ganfod meysydd a oedd yn hwyluso neu’n atal ymddygiadau naturiol a chyflyrau emosiynol. Mae systemau o’r fath sy’n gallu cynorthwyo i ddefnyddio’r gofod sydd ar gael yn effeithiol hefyd ar gael yn fasnachol yn y sector dofednod megis Eyenamic gan Fancom, sy’n defnyddio dadansoddiad fideo i ddadansoddi dosbarthiad adar mewn siediau. Mae hyn wedi’i anelu’n bennaf ar gyfer monitor cymeriant bwyd a dŵr yn ogystal â newidiadau mawr o ran gofod a allai nodi dechrau pigo plu yn ymosodol neu risgiau iechyd eraill.
Allbwn meddalwedd camera dosbarthiad gofodol dofednod
Yn yr un modd, mewn systemau moch, gall cnoi cynffonau fod yn ymddygiad ymosodol sy’n gysylltiedig â defnyddio gofod yn aneffeithiol a chyfraddau stocio anaddas, ymysg pethau eraill, ac mae systemau camera wedi cael eu datblygu i hysbysu ffermwyr o ddechrau ymddygiadau o’r fath. Gall hysbysiadau dro ar ôl tro nodi bod angen newid yr amgylchedd neu’r lle, a gall technolegau gynnig adnodd er mwyn monitro effaith y newidiadau i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol posibl. Mewn systemau dofednod, mae robotiaid hefyd wedi cael eu defnyddio i helpu i annog anifeiliaid i symud o gwmpas yr ardal sydd ar gael gan wella sgôr symudedd a lleihau nifer yr wyau sy’n cael eu dodwy ar y llawr. Mae’n ddiddorol nodi bod rhywfaint o ymchwil yn awgrymu y gallai systemau robotaidd arwain at lai o straen nag arsylwadau dynol rheolaidd, gan wella lles anifeiliaid. Gall systemau godro robotaidd (RMS) effeithio ar yr anifeiliaid mewn sawl ffordd, ond os mae’r systemau wedi’u dylunio’n gywir, e.e. trwy gynnwys ardaloedd aros eang a defnyddio llif traffig rhydd o’i gymharu â gorfodi’r llif traffig, gall hynny leihau straen ac arwain a rhoi mwy o ddewis i’r anifeiliaid.
Sarn
Mae lefelau lleithder yn agwedd allweddol o ran cyfforddusrwydd a hylendid sarn; felly, gellir cymryd yn ganiataol y byddai defnyddio synwyryddion lleithder/tymheredd yn agos at y sarn yn gallu darparu dadansoddiad mewn amser real er mwyn gwella dulliau o’i reoli. Fodd bynnag, ychydig iawn o waith ymchwil sydd i’w weld yn canolbwyntio ar yr agwedd hon ar reoli da byw yn fanwl gywir. Bu un system yn asesu gallu camerâu thermol er mwyn dod o hyd i ardalodd oer mewn deunydd gorwedd mewn systemau gwartheg o ganlyniad i ddeunyd gorwedd gwlyb, a allai hwyluso hysbysiadau yn y dyfodol yn nodi pryd y mae angen glanhau ardaloedd. Mewn systemau dofednod, mae adnoddau ar gael yn fasnachol ar ffurf robotiaid awtomatig sy’n troi/gwaredu a glanhau gwellt oddi ar lawr gan leihau’r risg o glefydau ac allyriadau nwyon.
Thermal imaging camera showing wet areas in bedding in blue scale
Tymheredd yr aer
Dylunio adeiladau gan ystyried tymheredd yw’r cam cyntaf er mwyn creu amgylchedd da ar gyfer da byw, ond gellir gwella ar hyn trwy fanteisio ar synwyryddion tymheredd a systemau di-wifr sy’n gallu cysylltu gyda’r rheolyddion awyru a gwresogi er mwyn gallu ymateb yn awtomatig i newidiadau mewn amodau. Wrth ychwanegu synwyryddion tymheredd, synwyryddion lleithder a llif aer, dylid eu gosod ar sawl lefel mewn siediau (er mwyn gwerthuso’r amodau cyffredinol yn yr adeilad ac amodau mwy uniongyrchol ar lefel yr anifail). Gall dadansoddi llif aer yn gywir helpu i leihau effaith amonia er enghraifft, sy’n niweidiol i iechyd anifeiliaid, yn ogystal â bod yn un o’r nwyon tŷ gwydr allweddol. Mae thermograffeg isgoch (IRT) neu gamerâu thermol wedi cael eu defnyddio i fonitro lles anifeiliaid mewn sawl ffordd trwy werthuso’r newidiadau mewn tymheredd sy’n gysylltiedig ag atgynhyrchu, twf a chlefydau. Mae un enghraifft yn cynnwys arsylwi tymheredd corff lloi a fyddai modd ei asesu’n gywir a’i ddefnyddio i rybuddio am faterion iechyd yn gynnar er mwyn osgoi pryderon o ran lles yn ogystal â cholledion cynhyrchiant a thwf. Mae posibilrwydd o ddefnyddio’r rhain ynghyd â synwyryddion eraill a osodir ar anifeiliaid, ynghyd â systemau rheoli awyriad/gwresogi i fireinio amodau amgylcheddol yn y siediau ymhellach i sichrau eu bod yn ddelfrydol ar gyfer anifeiliaid heb lawer o lafur. Mae cysgod peirianyddol mewn siediau gwartheg ar gael yn fasnachol, a dylai systemau o’r fath hefyd integreiddio’n dda mewn system awtomatig holistaidd ar draws sawl sied. Wrth weithio ar y cyd, gallai’r systemau hyn sicrhau bod yr amodau gorau posibl yn cael eu cynnal mewn siediau er mwyn sichrau’r cyflwr a’r iechyd gorau posibl. Mewn systemau brwyliaid, mae cyfuno synwyryddion, camerâu a rheolyddion awyru amrywiol wedi galluogi profion i ddangos effaith tymheredd a llif aera r anifeiliaid er mwyn rheoli’r rhain yn well a dylunio adeiladau’n well. Yn olaf, mae rheoli tymheredd/awyru gan hefyd ystyried effeithiau amgylcheddol hefyd yn bosibl os mae ffermydd yn ystyried technolegau megis deunyddiau sy’n adlewyrchu golau’r haul er mwyn oeri adeiladau, ac offer casglu ynni solar, ynni adnewyddadwy neu systemau ynni effaith isel megis gwrês a phŵer cyfun (CHP) a gweddillion treuliad anaerobig er mwyn gwresogi adeiladau.
Hylendid
Mewn systemau llaeth, mae hylendid y pwrs/cadair yn breeder amlwg o ran lles a chynhyrchiant. Mae tystiolaeth fod sgôr isel ar gyfer y pwrs/cadair a’r coesau yn gysylltiedig â chyfrif celloedd somatig (SCC) uwch a mwy o achosion o fastitis a chlefydau eraill sy’n effeithio ar y pwrs/cadair. Mewn systemau godro awtomataidd, mae’r tethi’n cael eu glanhau’n awtomatig a ddylai helpu i leihau’r problemau hyn. Er ei fod wedi bod yn faes dadleuol (gweler yr erthygl flaenorol), mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod ychwanegu proses o chwistrellu diheintydd yn awtomatig ar beiriannau’r brwsh glanhau a newid brwshys glanhau tethi’n ddyddiol yn gallu lleihau trosglwyddiad bacteria sy’n gysyllteidig â mastitis hyd at 19%. Wrth gyfuno hyn gyda gallu systemau godro awtomatig i ddarparu dadansoddiad fesul chwarter o’r pwrs/cadair ar gyfer cynhyrchiant llaeth, SCC a dargludedd, gall systemau godro awtomatig fod yn andnodd pwreus ar gyfer lles. Cafwyd tystiolaeth bod crafwyr robotaidd mewn siediau mewn systemau gwartheg yn chwarae rôl o ran lleihau allryiadau nwyon tŷ gwydr, gan effeithio ychydig iawn ar ymddygiad gwartheg yn dilyn cyfnod o addasu. Byddai rhywun yn gallu cymryd yn ganiataol y dylai lloriau glân fod yn gysylltiedig â chyflwr y deunydd gorwedd, ynghyd â lleihau nifer yr achosion o glefydau megis mastitis clinigol ac anhwylderau’r carn, ond mae tystiolaeth ymchwil wedi’i gyfyngu ar hyn o bryd i lond llaw o astudiaethau. Fodd bynnag, pan fo ffermwyr yn defnyddio crafwyr robotaidd, mae’n debyg bod ymateb positif ar y fferm waeth pa frand a ddefnyddir. Yn y gorffennol, cafwyd awgrymiadau ygnlŷn â defnyddio robotiaid awtomatig i lanhau adeiladau da byw gan fod hwn yn faes lle mae angen llawer o lafur a bod risgiau posibl i iechyd dynol. Er bod llond llaw o gysyniadau glanhau robotaidd i’w gweld mewn llenyddiaeth, mae’n ymddangos nad oes digon o ymchwil ar gyfer hyn, er bod rhai systemau masnachol ar gael yn y sector cynhyrchu moch. Gellir gweld anodd arall ar gyfer hylendid cyffredinol a diogelu iechyd moch mewn datblygiadau newydd ym maes opsiynau bioddiogelwch manwl gywir. Mae system a gynhyrchir gan PigCHAMP called Biorisk yn edrych ar gael synwyryddion ar staff fferm a darllenwyr ar draws siediau er mwyn arsylwi symudiad staff a allai gyd-fynd ag achosion o haint mewn anifeiliaid. Gall hyn ganiatáu ar gyfer trin anifeiliaid yn sydyn, symud anifeiliaid o ardaloedd risg uchel ac adnabod peryglon hylendid er mwyn gwella dyluniad yr isadeiledd a lleihau achosion o salwch ymysg da byw. Gallai fod yn system y gellir ei addasu i ardaloedd da byw rhannol dan do yn y dyfodol hefyd.
Mewn systemau dofednod, gall canfod adar marw fod yn bwysig er mwyn lleihau lledaeniad clefydau a gwella hylendid cyffredinol, ac mae robotiaid a systemau camera sy’n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial wedi cael eu datblygu sy’n gallu gwahaniaethu rhwng adar byw ac adar marw, a naill ai hysbysu bod angen eu gwaredu neu wneud hynny’n awtomatig.
Mynediad at fwyd a dŵr
Yn y sector moch, gwelwyd tystiolaeth fod cafnau porthi awtomatig sydd wedi’u dylunio a’u cyflwyno’n iawn yn effeithio ar ymddygiadau ymosodol rhwng yr anifeiliaid ac yn gallu gwella cymeriant bwyd ar gyfer anifeiliaid sy’n fwy iach ac yn dioddef llai o straen. Yn yr un modd, mae bwydo lloi yn awtomatig yn faes sydd i’w weld yn fwy aml ar ffermydd modern. Mae systemau awtomatig yn galluogi’r ffermwr i reoli a dadansoddi cymeriant anifeiliaid yn ddyddiol a gellir defnyddio’r data i ganfod patrymau a allai fod yn gysylltiedig â salwch, dyluniad isadeiledd anaddas (e.e. os mae’r llociau’n annog bwlio er mwyn cael mynediad at y cafnau) a ffactorau ymddygiadol eraill. Mae monitor cymeriant bwyd wedi bod yn factor allweddol o fewn gwaith ymchwil da byw gan ei fod yn elfen allweddol er mwyn sicrhau’r perfformiad gorau posibl. Mae mesuryddion cyflymder/symudiad ar anifeiliaid wedi cael eu defnyddio, ond mae’r cywirdeb yn amrywiol. Gall anifeiliaid mewn llociau unigol gael bwyd mewn cafnau sy’n cynnwys clorian, ond mae hyn yn gallu bod yn heriol mewn systemau lle mae anifeiliaid yn cael cadw dan do mewn grŵp. Gall darllenwyr RFID ger yr ardaloedd bwydo amcangyfrif yr amser bwydo, ond mae’r rhain yn gallu cael eu drysu gan anifeiliaid yn sefyll mewn ardaloedd bwydo heb fwyta. Gallai systemau RFID hefyd gael eu cysylltu gyda gorsafoedd sy’n rhyddhau dognau bwyd penodol ar gyfer gofynion pob anifail a chael eu cysylltu gyda phwyso er mwyn asesu cymeriant yr anifail. Mae’r rhain yn gyffredin mewn systemau cynhyrchu moch, ond byddai modd eu hystyried ar gyfer da byw eraill megis defaid. Mae systemau bwydo o’r fath yn dueddol o fod yn gafnau bwydo unigol ac os maen nhw’n darparu “ardal fwydo” sy’n caniatáu i anifail unigol fwydo ar amser penodol, gallai hynny leihau ymddygiad ymosodol mewn rhai rhywogaethau. Mae ymchwil yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar systemau deallusrwydd artiffisial a chamerâu (camerâu coch, gwyrdd, glas [RGB] safonol a chamerâu thermol) mewn siediau i nail ai sganio anifeiliaid i arsylwi’r bwydo’n uniongyrchol neu i sganio biniau bwyd i gyfrifo faint o fwyd sydd ar cael cyn ac ar ôl bwydo. Gallai cyfuno technolegau o’r fath gyda manylion adnabod cywir yr anifail, nail ai drwy system RFID neu systemau adnabod wynebau sicrhau bod anifeiliaid unigol yn derbyn digon o fwyd er mwyn sicrhau iechyd, lles ac enillion o ran cynhyrchiant. Mae robotiaid gwthio bwyd yn un ffordd y gall ffermydd gynyddu mynediad gwartheg at fwyd trwy wthio’r bwyd o’r llwybrau bwydo i hwyluso mynediad o fewn ardaloedd bwydo. Mae sawl system fasnachol ar gael, a hyd yn oed systemau sy’n awtomeiddio’r gwaith o gasglu a dosbarthu porthiant i anifeiliaid yn ôl yr angen (megis systemau bwydo robotaidd Lely a DeLaval). Mae bwydo awtomataidd yn caniatáu ar gyfer bwydo’n amlach heb fod angen cymaint o lafur, ac mae hynny’n gysylltiedig ag effeithiau positif ar iechyd megis llai o asidosis lledlym yn y rwmen. Fodd bynnag, hyd yma, nid oes digon o astudiaeth wedi bod o systemau awtomeiddio bwyd o’i gymharu ag effaith ar gynhyrchiant.
Gellir cyflwyno nifer o’r technolegau hyn wrth ddefnyddio cysyniad systemau bwydo da byw yn fanwl gywir gan arwain at effaith sylweddol ar les anifeiliaid, ond mae’n hysbys ei fod yn system gymhleth i’w chyflwyno. Trwy ymgorffori synwyryddion a thechnolegau (megis dadansoddiad twf, cymeriant bwyd, synwyryddion amgylchedd) ynghyd â dealltwriaeth o ddefnydd maetholion mewn da byw, dylai fod yn bosibl i deilwra’r diet yn well er mwyn sicrhau gwell cynhyrchiant a llai o broblemau iechyd o ganlyniad i ddiffyg maetholion (sy’n bwysig o ran iechyd anifeiliaid ac epilion yn ystod beichiogrwydd mewn defaid a gwartheg er enghraifft).
Un lleoliad sefydlog allweddol lle gellir integreiddio technoleg yw cafnau dŵr ar borfeydd awyr agored. Mae rhywfaint o ddadansoddi wedi cael ei wneud o ran defnyddio darllenwyr RFID (gyda synwyryddion a heb) yn y lleoliadau hyn i fonitro ymddygiad a chymeriant dŵr er mwyn gwella mynediad at y cafnau, a byddai hyn yn gallu cyd-fynd yn rhwydd gyda systemau pori eraill megis defaid a geifr. Gellir gosod systemau o’r fath yn rhwydd mewn amgylchiadau dan do (o ganlyniad i fynediad at bŵer ar gyfer synwyryddion) at yr un dibenion cefnogi iechyd. Gall mesuryddion dŵr diwifr adrodd ar ddefnydd dŵr mewn siediau neu gafnau unigol (gan ddibynnu ym mhle ar hyd y llinell maen nhw’n cael eu gosod), ac mae’r rhain ar gael yn helaeth yn fasnachol. Fodd bynnag, gall defnyddio data o’r fath yn gywir er mwyn canfod gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â lefelau cymeriant anifeiliaid unigol fod yn anodd pan fo anifeiliaid yn cael eu cadw dan do mewn grŵp. Un budd allweddol o gysylltu gyda mesurydd llif dŵr yw’r ffaith eu bod yn hysbysu os bydd systemau’n methu neu wedi’u blocio er mwyn sicrhau bod dŵr ar gael bob amser i’r anifeiliaid.
System glyfar i fonitro cymeriad dŵr gyda nifer o synwyryddion a dulliau o gasglu data.
Defnyddiau eraill mewn isadeiledd
Gellir hefyd ymgorffori technolegau manwl gywir mewn isadeiledd modern i wella iechyd anifeiliaid mewn sawl ffordd. Gall cyflwyno sganwyr RFID (neu systemau pellter agos pŵer isel eraill) dan do werthuso patrymau symud anifeiliaid er mwyn canfod salwch, oestrws a bwydo. Gall llwybrau hanfodol gynnwys clorian ddigidol di-wifr sy’n darparu pwysau cyfredol yn awtomatig, a gellir defnyddio’r data i asesu salwch, canfod problemau is-glinigol a monitro cynhyrchiant. Gwelwyd hefyd fod pwysau’n gallu cael ei asesu’n gywir mewn rhai systemau gan ddefnyddio camerâu 3D (wedi’u gosod uwchben llociau, mewn ciwbiclau godro robotaidd, yn y parlwr godro ac ati), ac mae’r dull hwn yn cael ei ddefnyddio’n fasnachol mewn moch gyda gwaith ymchwil yn cael ei wneud i edrych ar anifeiliaid eraill ar hyn o bryd. Gellir gosod dyfeisiau monitro acwstig mewn systemau dan do oherwydd bod llai o sŵn cefndirol annisgwyl sy’n gallu digwydd wrth bori. Mae’r rhain wedi cael eu gwerthuso a’u cyflwyno i’r farchnad, yn bennaf mewn systemau moch a dofednod, ond mae ymchwil yn cael ei wneud ar hyn o bryd i’r effeithiau ar anifeiliaid eraill. Mewn moch, gall synhwyro peswch fod yn adnodd hanfodol er mwyn trin a gwahani anifeiliaid sâl er mwyn gwella iechyd a lles y genfaint. Gallai technolegau eraill sy’n seiliedig ar gamerâu wedi’u gosod mewn siediau edrych ar ganfod cloffni, salwch yn gyffredinol, sgôr cyflwr corff, sgôr llenwad y rwmen (gwartheg) a lloia/perchylla. Mae natur sefydlog yr isadeiledd yn gallu caniatáu i osod technolegau ar reiliau megis Chickenboy( FAROMATICS), sef system robotaidd wedi’i osod ar y nenfwd er mwyn asesu iechyd dofednod. Mae’r dechnoleg yn symud o gwmpas y sied yn awtomatig gan ddefnyddio cyfuniad o synwyryddion yn ogystal â deallusrwydd artiffisial i werthuso hylendid, ymddygiad yr adar, tymheredd, aer ac ansawdd y golau. Gallai systemau robotaidd tebyg ar reilffyrdd gael eu gosod mewn isadeiledd eraill pe byddent yn cael eu hystyried yn effeithiol, ac mewn systemau pori yn yr awyr agored, mae’n debyg mai’r peth tebycaf fyddai monitro gan ddefnyddio cerbyd awyr di-griw (UAV).
Mae gofalu am eu hunain (grooming) yn ymddygiad allweddol ymysg nifer o anifeiliaid gan gynnwys gwartheg, ac mae’r system brwsh gwartheg clyfar wedi’i gysylltu gyda RFID wedi cael eu dangos i chwarae rhan mewn lleihau straen, yn ogystal â chanfod salwch, gan fod awgrym bod anifeiliaid sâl yn ymweld a’r brwsh yn llai aml. Er nad yw’n ymwneud ag isadeiledd yn unig, ceir hwb sylweddol tuag at ddefnyddio apiau ffonau clyfar ar gyfer lles da byw megis i-Watchbroilers, I-WatchTurkey, AWINSheep, AWINGoat, ac AWINHorse sydd ar gael mewn siopau apiau. Mae’r rhain yn galluogi ffermwyr i fewnbynnu gwybodaeth am eu fferm a’u hanifeiliaid er mwyn derbyn adborth ar unwaith, cyngor a meincnodi statws lles a pherfformiad cynhyrchiol.
Crynodeb
Mae sawl maes o fewn isadeiledd lle mae technolegau’n cael eu datblygu neu eisoes ar gael ar y farchnad a allai wella iechyd a lles anifeiliaid (ynghyd â chynhyrchiant). Er bod synwyryddion a osodir ar anifeiliaid wedi cael eu datblygu yn y maes hwn, mae’r rhain yn gallu dod â phroblemau megis cael eu difrodi, diffyg pŵer batri a photensial ar gyfer eu tynnu i ffwrdd a’u colli. Gall technolegau isadeiledd integredig ddatrys y problemau hyn trwy sicrhau bod cyflenwadau pŵer ar gael yn rhwydd a chael eu gosod mewn lleoliadau sy’n haws eu cyrraedd er mwyn cynnal a chadw. Mae isadeiledd dan do hefyd feysydd allweddol o ran pryderon iechyd anifeiliaid, gan ei fod yn cael ei nodi bod llawer o glefydau’n bresennol ar gyfraddau uwch dan do o’i gymharu ag ar y borfa. Trwy osod technoleg mewn adeiladau, mae’n bosibl asesu elfennau megis tymheredd (amgylcheddol a thymheredd yr anifail), llif aer, clefydau, salwch, cymeriant bwyd a chymeriant dŵr. Gallai systemau holistaidd y dyfodol, lle mae nifer o synwyryddion yn rhyngweithio gyda nifer o unedau rheoli adeiladau gynnig amgylchedd addas i anifeiliaid drwy’r amser, gan wella iechyd a lles anifeiliaid yn gyffredinol ac arwain at effeithiau cadarnhaol o ran cynhyrchiant a lleihau allyriadau amgylcheddol.
Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk