7 Ionawr 2022
Mae defnyddio nifer o strategaethau i atal twymyn llaeth yn talu ar ei ganfed ar fferm laeth yn Sir Gâr.
Roedd Iwan Francis, sy’n cynhyrchu llaeth ar system loia mewn dau floc ar fferm Nantglas, Talog, wedi profi lefelau uchel o dwymyn llaeth yn ei fuches o gwmpas amser lloia.
Trwy ei waith prosiect fel ffermwr arddangos Cyswllt Ffermio, cyflwynodd gyfres o fesurau i ychwanegu magnesiwm cyn lloia, yn dilyn cyngor gan y milfeddyg, Kate Burnby.
Roedd porthiant isel mewn potasiwm, a gynhyrchwyd yn hwyrach yn y tymor ac ar dir gyda llai o fewnbwn gwrtaith, yn cael ei gynhyrchu i fwydo gwartheg sych. Yn ystod diwrnod agored a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ar fferm Nantglas yn ddiweddar, dywedodd Ms Burnby, milfeddyg sy’n arbenigo mewn ffrwythlondeb gwartheg, y dylai’r porthiant hwn, yn ddelfrydol, ddod o wyndonnydd a glaswelltau mwy aeddfed.
Mae Mr Francis yn ychwanegu magnesiwm clorid wedi’i fesur at ddŵr yfed ei wartheg sych bob dydd. Er mwyn goresgyn y broblem fod gwartheg sy’n lloia yn yr hydref yn yfed llai o ddŵr ar y borfa, mae bellach wedi dechrau lloia heffrod a gwartheg sy’n lloia am yr eildro ar y borfa. Mae’n cadw’r gweddill dan do am bythefnos cyn lloia, ac yn bwydo silwair iddynt.
Gan fod y porthiant hwn yn sychach na glaswellt, mae’n annog y gwartheg i yfed mwy o’r dŵr sydd wedi’i drin gyda magnesiwm. Mae gwartheg yr ystyrir eu bod yn risg uchel hefyd yn derbyn bolws magnesiwm ychydig wythnosau cyn lloia.
Mae’r agwedd ragofalus er mwyn atal twymyn llaeth wedi bod yn llwyddiannus, gyda nifer fechan iawn o achosion yn unig, meddai Mr Francis. Eleni, dim ond pum buwch oedd angen triniaeth calsiwm ar ôl lloia, o’i gymharu â 14 yn y flwyddyn flaenorol, ac fe wellodd pob un yn sydyn iawn gyda thriniaeth - ni chafwyd unrhyw wartheg yn gorwedd a methu â chodi na cholledion.
Roedd lefelau magnesiwm isel hefyd wedi cael eu nodi fel ffactor mewn problem a oedd yn codi dro ar ôl tro gyda phica - cyflwr a oedd wedi bod yn achosi i wartheg Mr Francis fwyta llawer iawn o bridd, cerrig a gwrthrychau eraill yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf. Er mwyn gallu deall y broblem yn well, dadansoddwyd y maetholion a’r mwynau a oedd ar gael yn y diet.
Cymerir yn aml fod pica yn gysylltiedig â diffyg ffosfforws, ond roedd y gwaith monitro ar fferm Nantglas yn nodi bod magnesiwm hefyd yn ffactor. Yn y samplau glaswellt ffres a ddadansoddwyd, roedd lefelau magnesiwm yn isel iawn, a chafwyd hefyd lefelau isel o gopr, sinc, seleniwm a chobalt.
Dywedodd yr arbenigwr glaswelltir a phridd, Nigel Howells, a fu’n cynghori ar y prosiect hwn, fod y sefyllfa’n cyd-fynd â’r dadansoddiad mwynau yn y glaswellt yr oedd wedi’i gwblhau ar ffermydd eraill a oedd hefyd wedi profi problemau gyda phica.
Roedd lefelau magnesiwm a ffosfforws yn y pridd ar fferm Nantglas o’r samplau a ddadansoddwyd ar fynegai o 2; er mwyn i’r pridd fod ar ei fwyaf cynhyrchiol, dylai’r mynegai fod yn 3 o leiaf, meddai Mr Howells.
Gwelwyd hefyd fod lefel uchel o sylffwr gweddilliol. Cynghorodd Mr Howells y ffermwyr i ystyried y math o wrtaith y maen nhw’n e i wasgaru gan fod rhai ohonynt yn cynnwys sylffwr.
Edrychwyd hefyd ar y cydbwysedd calsiwm-magnesiwm yn y pridd ar fferm Nantglas, a oedd yn dangos cydbwysedd o 15:1, o’i gymharu â’r 7:1 delfrydol.
Cynghorwyd ffermwyr i drafod ychwanegu elfennau macro ac elfennau hybrin gyda milfeddyg y fferm. Dylai hyn gynnig ffordd o gydbwyso unrhyw ddiffygion nes bod modd sicrhau’r cydbwysedd cywir yn y glaswellt.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.