Carwed Fynydd, Dinbych, Conwy

Prosiect Safle Ffocws: Cynhyrchu Betys Porthiant a Chêl - canllaw o’r hadu i’r porthi a’r manteision ar gyfer system gwartheg bîff sugno

 

  • Mae Carwed Fynydd yn fferm ucheldir sy’n cadw gwartheg bîff sugno a defaid. Mae’r fferm yn codi hyd at 800tr uwch lefel y môr, a gall fod yn agored i amodau o sychder dros yr haf o ganlyniad i bridd yn draenio’n rhydd ac ambell ardal lle mae’r pridd yn fas
  • Ar hyn o bryd, mae gwartheg sugno ar fferm Carwed Fynydd yn cael eu gaeafu ar gnwd Cêl, gyda byrnau mawr yn cael eu rhoi ar y caeau ychydig wedi’r plannu.
  • Mae’r system yn llwyddiannus iawn ar hyn o bryd ac mae wedi arwain at leihad sylweddol mewn costau gaeafu, ond mae’r safle ffocws yn awyddus i edrych ar dyfu Betys Porthiant i leihau ardal porthiant y gaeaf a rhyddhau mwy o laswelltir.

Nodau'r Prosiect

  • Y nod gyda’r prosiect fydd gwerthuso mantais cost a chynhyrchiant tyfu Betys Porthiant yn hytrach na Chêl, neu weld a oes cyfle i’r ddau gnwd ategu at ei gilydd
  • Er bod llawer o waith wedi cael ei wneud ar systemau gaeafu yn y gorffennol, mae’n parhau i fod yn eithaf anarferol i aeafu gwartheg yn yr awyr agored yng Ngogledd Cymru. Dylai’r prosiect hwn roi hyder i ffermwyr eraill benderfynu a fyddant yn gallu edrych ar aeafu gwartheg y tu allan, os oes tir addas ar gael.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Pentre
Hugh Jones Fferm Pentre, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych
Glanmynys
Carine Kidd a Peredur Owen Glanmynys, LlanymddyfrI Meysydd
Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif