Fferm Cilwrgi, HMP Prescoed, Brynbuga
Prosiect Safle Ffocws: Costau Rheolaeth Coetir Ymarferol ac Ychwanegu Gwerth at Adnoddau Coetir ar y Fferm
Nodau’r prosiect:
- Ystyried cyfleoedd ariannu er mwyn rheoli 160 erw o goetir conwydd yn bennaf ar y daliad a datblygu cynllun rheoli coetir clir a fydd yn cynnig canllaw ar gyfer ymyrraeth dros y 10 mlynedd nesaf.
- Archwilio peiriannau o faint priodol i weithredu arferion rheolaeth addas o fewn y coetir, gan adnabod technegau sensitif ar gyfer tynnu a gwaredu'r coed o’r coetir, yn enwedig mewn meysydd penodol megis y Safle Coetir Hynafol wedi’i blannu.
- Gwerthuso dichonolrwydd adfer melin goed ac odyn sychu ar y safle er mwyn cynhyrchu amrediad o gynnyrch a fydd yn ychwangu gwerth at y coed sy'n cael eu cynaeafu a chreu ffrwd incwm ychwanegol ar gyfer y busnes fferm.