Fferm Tedion, Arberth, Sir Benfro

Digwyddiad Safle Ffocws: Ffrwythlondeb mewn systemau lloia mewn bloc 

 

I gael system lloia mewn bloc go iawn, mae ffrwythlondeb a chyflwr eich buchod yn hollbwysig. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth yw eich ffigurau a’ch canrannau. Siaradodd Kate Burnby am y ffordd orau o sicrhau’r system lloia mewn bloc orau i’ch fferm chi.

 

Cynhaliwyd trafodaeth ar y fferm am ffrwythlondeb mewn systemau lloia mewn bloc, ac ystyriwyd y materion canlynol:

  • Gwybodaeth feincnodi am ffrwythlondeb o fewn y grŵp;
  • Arfer orau;
  • Dulliau rheoli sy’n sicrhau gwell perfformiad;
  • Gosod targedau ar gyfer y tymor bridio nesaf;
  • Adnabod cyfleoedd a bygythiadau penodol ymhob busnes.

 

Negeseuon allweddol

Mae meincnodi’n bwysig o ran rheoli systemau lloia mewn bloc. Rhaid cael gwybodaeth sylfaenol er mwyn cyrraedd targedau. Rhannodd aelodau’r grŵp eu data sylfaenol ynghylch ffrwythlondeb:

  • Y ganran a oedd wedi lloia yn y 6 wythnos gyntaf
  • Dyddiad canol lloia
  • Brasterau llaeth
  • Proteinau llaeth

Rhannodd Laura Elliott, o Fferm Tedion, wybodaeth am dymhorau lloia’r fferm yn 2016/17 a rhoddodd ddadansoddiad o’r cyfnodau llaetha. Soniodd y ffermwyr i gyd am eu profiadau nhw o ran cyrraedd rhai targedau penodol a siaradodd bob un ohonynt am y meysydd hynny y gallent eu gwella. 

Mae’n bwysig bod ffermwyr yn gwybod beth yw eu targedau nhw eu hunain, am safon y diwydiant, sut mae’r perfformwyr gorau’n cyrraedd eu targedau a’r hyn sy’n gyraeddadwy mewn gwirionedd wrth ddefnyddio systemau lloia mewn bloc. Mae meincnodi’n ffordd dda o wneud hyn am ei fod yn gosod y safonau hyn ac mae’n gosod targed i ffermwyr ymgyrraedd ato.

Mae sgorio cyflwr corff y fuwch yn elfen bwysig o reoli buchod a chymerodd y ffermwyr ran mewn sesiwn ymarferol yn ystod y cyfarfod. Dywedodd Kate Burnby y gellid rheoli llawer iawn o’i gwaith drwy fonitro cyflwr cyrff y buchod yn rheolaidd a thrwy reoli colostrwm yn well.

Buddion rheoli ffrwythlondeb yn dda – roedd lleihau’r cyfnod lloia a’r bwlch rhwng lloia yn hynod fuddiol. Roedd y buchod yn cynhyrchu llaeth am ragor o ddyddiau, cafwyd gwell rheolaeth dros y grŵp ac roedd modd gwneud defnydd gwell o’r llafur ar y fferm i helpu â’r lloia. Drwy hyn, roedd modd arbed costau a chael gwell lloi.

Mae’n bwysig ichi gael rhestr wirio ffrwythlondeb/paru. Yn ogystal â hyn, rhaid;

  • Sicrhau eich bod wedi archebu semen teirw, neu fod digon o deirw gennych ar y fferm a’ch bod wedi archwilio cyflwr y teirw hynny. Rhaid hefyd sicrhau bod y buchod wedi cael archwiliad Metricheck cyn cenhedlu. 
  • Cael cynllun gweithredu cyn paru er mwyn gwybod pa fuchod nad ydynt yn gofyn tarw – siaradwch â’r milfeddyg er mwyn gweithredu ar hyn.
  • Mae sicrhau bod buchod yn gofyn tarw yn arbennig o bwysig wrth ddefnyddio prosesau ffrwythloni artiffisial.
  • Gosod targedau lloia – anelwch at gael 90% o’r fuches i loia ymhen 6 wythnos, a chyrraedd hanner ffordd ymhen 20 diwrnod.
  • Dylech gael cynllun gweithredu er mwyn delio â buchod sy’n cael amser anodd yn lloia.

Mae cadw rhestr wirio syml ar y fferm yn bwysig fel bod pawb yn gweithio tuag at yr un nod o wella ffrwythlondeb buchod a’r gyfradd loia. Mae’n hawdd iawn colli gwybodaeth.

 

Y neges i’w chofio ar ôl heddiw

Sicrhau eich bod yn gwybod beth yw eich data ffrwythlondeb a lloia, gall hyn arbed arian ichi. Dylech gael rhestr wirio ffrwythlondeb a chynlluniau gweithredu y bydd pawb ar y fferm yn gweithio tuag atynt. Drwy gynnal ymarferion sgorio rheolaidd ar gyflwr cyrff y buchod, a rheoli colostrwm yn well, byddwch yn dechrau gweld gwelliannau yn eich lloi ac yn eich buchod. 

Diolchwn i’n prif siaradwr, Kate Burnby a theulu Fferm Tedion, sef Laura a Cathy Elliot.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Dolygarn
James Powell Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod Wells
Bryn
Huw a Meinir Jones Bryn, Ferwig, Aberteifi Meysydd allweddol yr
Marian Mawr
Aled Morris Marian Mawr, Dyserth, Rhyl Prif Amcanion Gwella