MOSTYN KITCHEN GARDEN, MOSTYN HALL, HOLYWELL

PROSIECT SAFLE FFOCWS: ASTUDIAETH ACHOS DATBLYGU MENTER PIGO EICH PWMPENNI EICH HUN

Amcanion y Prosiect:

Y prif nod yw edrych ar fuddion ariannol sefydlu menter casglu pwmpenni ar raddfa fechan ac i werthuso unrhyw fuddion ychwanegol drwy ymgysylltu gyda’r gymuned leol, megis cynnydd mewn gwerthiant cynhyrchion eraill a chynyddu proffil ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Dewis yr amrywiaethau gan ystyried y gofynion o ran lliwiau a maint
  • Cymharu tyfu o had dan do gyda phlannu’n uniongyrchol yn yr awyr agored 
  • Dwysedd plannu mwyaf addas
  • Darparu’r cydbwysedd cywir o ran maetholion
  • Rheoli chwyn
  • Cofnodi unrhyw broblemau iechyd, yn enwedig Pydredd o Waelod y Ffrwyth
  • Pennu a oes angen dyfrhau

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Hendre Ifan Goch
Blackmill, Pen-y-bont Prosiect Safle Ffocws: Gweithredu
Fferm Lower Eyton
Fferm Lower Eyton, Eyton, Wrecsam Prosiect Safle Ffocws
Fferm Penlan
Fferm Penlan, Cenarth, Castell Newydd Emlyn Prosiect Safle Ffocws