Llwyn Goronwy, Llanrwst, Conwy

Prosiect Safle Ffocws: Gwerthuso manteision cofnodi llaeth mewn buches sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn

Nod y prosiect:

Nod y prosiect yw gwneud gwell defnydd o ddata trwy gofnodi’r holl fuchod yn unigol. Bydd hyn yn hwyluso gwell penderfyniadau ar gyfer rheoli’r buchod er mwyn gwella perfformiad y fuches gyfan;

  1. Dadansoddi cynhyrchiant/buwch (kg braster a phrotein) i ganfod y buchod mwyaf effeithlon yn seiliedig ar KgMS/Dydd. Hefyd cynnwys pwysau byw er mwyn gallu gwneud penderfyniadau bridio dethol yn seiliedig ar KgMS/KgLW.
  2. Lladd buchod â chyfrif celloedd sy’n gyson uchel i sicrhau bod y llaeth yn aros yn y bandiau gorau.
  3. Canfod buchod Johnes a’u lladd yn ôl yr angen, a’u cadw ar wahân adeg lloia i sicrhau bod y lloeau’n cael eu diogelu rhag yr haint.
  4. Ymchwilio i sut mae'n bosibl cyflwyno data cofnodi llaeth yn well ar gyfer buchesi sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn.
  5. Sefydlu’r maint a’r pwysau gorau ar gyfer buchod ar fferm Llwyn Goronwy yn unol ag isadeiledd y fferm.
     

Bydd gwella’r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno gan NMR yn hanfodol i fuchesi sy’n lloia mewn bloc fanteisio mwy ar y gwasanaeth. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i weld a oes lle i wella’r ffordd y mae’r data hwnnw’n cael ei gyflwyno i ffermwyr. 


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Halghton Hall
David Lewis Halghton Hall, Bangor Is-coed, Wrecsam Meysydd
Nantglas
Iwan Francis Nantglas, Talog, Sir Gaerfyrddin Meysydd allweddol
Cae Haidd Ucha
Paul a Dwynwen Williams Cae Haidd Ucha, Nebo, Llanrwst Prif