Trevithel Court, Three Cocks, Aberhonddu

Digwyddiad Safle Ffocws: Gwerthuso’r budd o roi techneoleg GPS a ffermio manwl gywir ar waith mewn gweithgareddau’n ymwneud â glaswelltir

 

Roedd y daith fferm ar laswelltir a gynhaliwyd ar fferm Trevithel Court yn trafod os oedd buddsoddi mewn technoleg GPS yn cynnig mantais i ffermwyr a’u busnesau o ran cost.

Gwerthuso’r budd o roi techneoleg GPS a ffermio manwl gywir ar waith mewn gweithgareddau’n ymwneud â glaswelltir

Trafododd Ian Beecher-Jones, hyfforddwr a mentor ffermio manwl gywir, y broses ymarefrol o wneud penderfyniadau deallus wrth werthuso buddsoddiad mewn offer ffermio manwl gywir a thechnoleg GPS ar gyfer gweithgareddau glaswelltir.  

  • Cyfrifo cywirdeb triniaethau cyfredol
  • Y cynnydd a ddisgwylir mewn perfformiad ac elw
  • Gwella effeithlonrwydd arferion gwaith
  • Offer lefel mynediad ar gael

Negeseuon allweddol

Mae cyfrifo manylder triniaethau yn ymarfer syml gan ddefnyddio tâp mesur.   Trwy fesur a chymharu lled llinellau traffig triniaethau cyfredol, gallwch weld pa mor gywir mae eich offer fferm yn gweithio.  Os ydych chi’n trin y cae’n ormodol neu’n annigonol fydd yn lleihau effeithiolrwydd sydd yn costio arian, amser ac adnoddau.  Gall buddsoddiadau mewn technoleg GPS arwain at gynyddu cywirdeb a gwelliant disgwyliedig mewn perfformiad ac elw o ganlyniad i weithio ar y caeau gyda’r nifer penodol o driniaethau, hefyd wrth leihau gor-daeniad a gwastraffu gwrtaith a chwistrellau.  Gall ddefnyddio technoleg GPS hefyd lleihau blinder y gyrwyr, ei gwneud yn bosib i weithio gyda golau gwael a gallu chwalu gwrtaith yn syth ar ôl cynaeafu silwair a gwair.

Mae offer lefel mynediad yn addas ar gyfer ffermwr glaswelltir. Mae system ‘light bar’ yng nghab y tractor yn costio oddeutu £1,500 ond mae’n rhaid i’r gyrrwr allu llywio’r tractor, gwylio’r sgrin ac addasu’r offer fel mae’r angen. Mae manylder yn heintus, felly unwaith mae gwelliannau a chystadleuaeth yn dechrau mae mwyafrif y ffermwyr yn difaru peidio buddsoddi mewn system lywio awtomatig. Mae system lywio awtomatig (Auto Steer systems) yn costio oddeutu £5-10,000, gyda’r mwyafrif o dractorau newydd yn barod i ddefnyddio’r dechnoleg.  Mae hefyd modd i osod y dechnoleg wrth atodi motor i’r golofn lywio. Yn ogystal â chywirdeb, mae’r system lywio awtomatig yn lleihau’r pwysau a blinder ar y gyrrwr a chynyddu effeithlonrwydd.

Trwy gyfuno system offer manwl gywir ac adnabod eich priddoedd trwy sganio EC neu EMI, samplo pridd mewn parthau, yn golygu bod y cyfraddau chwalu gwrtaith ar eu gorau ar draws y cae sydd yn arbed amser ac arian, ond hefyd yn cael budd amgylcheddol arwyddocaol trwy leihau gor-chwalu P a K yn enwedig yn ymyl cyrsiau dŵr. Bydd gwell cywirdeb hefyd yn helpu gyda Rheolaeth Traffig Fferm, fydd yn arwian at leihad mewn cywasgiad pridd, dŵr ffo, trwytholchiad maetholion ac yn cynyddu y cnwd glaswellt.

Gall y ddwy system ddarparu cywirdeb o ddyfnder rhwng 10cm – 1m yn ddibynnol ar y system cywiro signal. Gall systemau RTK lwyddo i roi cywirdeb o 2cm ond mae’r system angen mast cywiro lleol sydd a mwy o fudd i fferm fawr, neu nifer o ffermydd llai sy’n cydweithio er mwyn rhannu maint y gost o fast RTK.

Mae Trevithel Court yn cael budd o ddefnyddio chwistrellwr graddfa newidiol ar dractor gyda Trimble GPS wedi ei osod arno. Mae Andrew Williams, cynrychiolydd AS Communications wedi gosod GPS llywio awtomatig ar dractor David Brown 30 mlwydd oed ei dad, gan ddangos fod y dechnoleg yn gallu cael ei addasu. Y canlyniad yw bod y gwaith trin caeau yn llai blinedig i dad Andrew.

Prif negeseuon

Cyn buddsoddi mewn system GPS, cyfrifwch gost eich systemau cyfredol, yna ewch am system sydd yn gweddu eich cyllideb a’ch disgwyliadau effeithlonrwydd OND cofiwch fod cywirdeb yn heintus! Cyfunwch eich technoleg GPS gyda amrywiadau pridd i ddeall eich caeau, yna mi wnewch arbed arian, amser a gwrtaith.

Gyda diolch i’n siaradwr gwadd – Ian Beecher-Jones ac i Trevithel Court.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Pentre
Hugh Jones Fferm Pentre, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych
Glanmynys
Carine Kidd a Peredur Owen Glanmynys, LlanymddyfrI Meysydd
Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif