Upper Pendre, Llangors, Aberhonddu

Prosiect Safle Ffocws: A oes rôl i gnydau Rhyg yng Nghymru?

Nodau’r prosiect:

  • Gwerthuso addasrwydd rhyg fel grawn i’w gombeinio dan amodau tyfu yng Nghymru, sut mae rhyg yn gweddu i gylchdro grawn, a’i addasrwydd fel porthiant i wartheg.
  • Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ofynion agronomeg y cnwd Rhyg arbrofol trwy gydol y cyfnod sefydlu a thyfu hyd at gynaeafu, gan werthuso ei addasrwydd i’r amgylchedd a chymharu’r mewnbynnau angenrheidiol gyda gofynion cnydau grawn eraill.
  • Bydd Rhyg yn cael ei dyfu yn ystod gaeaf 2016/17, gan gofnodi’r tyfiant yn ofalus ar bob cam, ar ffurf ffotograffau a chofnodion yr agronomegydd, gan ddilyn llwyddiant, neu fethiant, y cnwd.
  • Bydd cynnyrch grawn a gwellt y cnwd yn cael ei fesur a bydd yr ansawdd yn cael ei ddadansoddi a’i feincnodi yn erbyn cnydau grawn mwy traddodiadol. Bydd hynny’n caniatáu ar gyfer cymharu a chyfrifo gwerth y porthiant.
  • Bydd ansawdd y cnwd yn cael ei ddadansoddi fel porthiant da byw, a’i gymharu gyda bwydydd grawn eraill er mwyn gwerthuso ei addasrwydd fel rhan o’r dogn ar gyfer gwartheg godro a bîff. Bydd perfformiad y da byw sy’n derbyn porthiant Rhyg yn cael ei fonitro.
  • Bydd y prosiect yn gwerthuso a oes modd i Ryg gael rôl barhaus ar y fferm, tu hwnt i’r cnwd arbrofol, a ph’un ai byddai’n gallu creu cyfleoedd newydd i ffermwyr eraill leihau eu costau cynhyrchu neu ychwanegu gwerth o fewn eu system.

Cliciwch yma am drosolwg o'r prosiect a'r canlyniadau.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Pentre
Hugh Jones Fferm Pentre, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych
Glanmynys
Carine Kidd a Peredur Owen Glanmynys, LlanymddyfrI Meysydd
Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif