Cwrs hyfforddi 1 diwrnod yw hwn. Bydd tystysgrif hyfforddiant yn cael ei rhoi ar ôl ei orffen.
Nod y cwrs yw rhoi’r offer i chi i’ch galluogi i gwblhau archwiliad amgylcheddol o’ch fferm neu fusnes ar y tir a dynodi ble gallwch chi arbed adnoddau, defnyddio’r Technegau Gorau sydd Ar Gael, lleihau costau, cynllunio ar gyfer eich gwastraff a lleihau gwastraff a chydymffurfio â deddfwriaeth newydd.
Sesiynau’r cwrs:
- Deall cefndir polisïau a deddfwriaeth Amgylcheddol.
- Deall eich Amgylchedd yn lleol, adnoddau, cylchedau, llygredd a bioamrywiaeth
- Deall agweddau busnes, prosesau ac effeithiau.
- Deall y defnydd o Dechnegau Gorau sydd ar Gael a sut y gallwn weithredu’r rhain yn eich busnes chi.
- Ymchwilio i effeithiau a chamau/offer adfer y gellir eu defnyddio i leihau effeithiau Amgylcheddol a Iechyd a Diogelwch
- Archwiliad amgylcheddol o fenter ffug a defnyddio offer all fod o ddefnydd i chi yn eich busnes eich hun.
- Meincnodi’r fenter hon mewn cymhariaeth â busnesau tebyg i greu cymariaethau a gwersi y gallwn eu dysgu
- Deall gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.
- Deall cynlluniau rheoli maetholion ffermydd
- Deall mapiau risg ffermydd
- Deall Nwyon Tŷ Gwydr
- Deall archwilio ôl troed Carbon, Carbon niwtral a chamau lliniaru
- Cynllunio at ddyfodol eich busnes - dadansoddiad SWOT a chynlluniau gweithredu
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn: