Mae grŵp o gynhyrchwyr wisgi o Gymru wedi dod ynghyd i lansio ymgyrch newydd sy'n annog bwytai yng Nghymru i ddefnyddio mwy o gynnyrch sydd wedi'i amddiffyn gan Ddynodiad Daearyddol (GI).
Mae'r pum cynhyrchwr Wisgi Brag Sengl PGI - Penderyn, Aber Falls, Dà Mhìle, In the Welsh Wind a Coles gyda'i gilydd yn dal statws Dynodiad Daearyddol y DU sy'n golygu eu bod yn cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am fod yn cynhyrchu cynnyrch o safon mewn arddull arbennig
Mae'r ymgyrch newydd yn cael ei chefnogi gan ymchwil Llywodraeth Cymru sy'n tynnu sylw ar y ffaith fod naw allan o ddeg ymwelydd lletygarwch yn credu ei bod yn bwysig i leoliadau fod ag amrywiaeth da o brydau gyda chynnyrch o Gymru. Byddai pedwar allan o ddeg yn barod i dalu mwy am brydau sy'n cynnwys cynhwysion o Gymru, a dywedodd 25% o'r rhai a ymatebodd y byddent yn peidio â chefnogi lleoliadau sydd heb unrhyw fwyd o Gymru i'w gynnig.
Ar hyn o bryd, mae yna 20 o gynhyrchion GI yng Nghymru, ac mae'r grŵp GI Wisgi Brag Sengl yn cymell mwy o gogyddion a lleoliadau lletygarwch i ddefnyddio a hyrwyddo'r enghreifftiau hyn o gynnyrch gwreiddiol o Gymru yn eu bwydlenni.
Mae'r ymgyrch wedi cael ei lansio gyda chymorth tri chogydd o Gymru sydd wedi partneriaethu gyda'r grŵp i greu pecyn o rysetiau sy'n dangos syniadau ar gyfer defnyddio cynnyrch GI i eraill yn y sector lletygarwch a thwristiaeth.
Mae'r cogyddion Osian Jones o Crwst a Chris Walker o Yr Hen Printworks, y ddau wedi'u lleoli yn Aberteifi, a Douglas Balish o the Grove of Narberth wedi creu rysetiau, fideos arddangos a bwyd a diod gan baru argymhellion ar gyfer yr ymgyrch.
Mae'r rysetiau'n cynnwys asen fer Cig Eidion Dynodiad Daearyddol wedi'i Amddiffyn (PGI) gyda saws pupur a seleriac Wisgi Brag Sengl o Gymru a Crème Brûlée Wisgi Brag Sengl o Gymru PGI. Mae'r cogyddion wedi argymell paru bwydydd ar gyfer Wisgi Brag Sengl o Gymru PGI gan gynnwys swffle Caws Caerffili PGI Traddodiadol o Gymru gyda Chennin o Gymru PGI wedi'u paru gyda Chwisgi Brag Sengl Dà Mhìle PGI.
Meddai Stephen Davies, prif weithredwr Distyllfa Penderyn:
"Gan ein bod wedi nodi blwyddyn ers i Wisgi Brag Sengl o Gymru ennill statws GI y DU, rydym i gyd yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth ryngwladol a gwerth y brand GI fel nod ansawdd, dilysrwydd a tharddiad. Gan gyplysu gyda thystiolaeth eglur bod ymwelwyr a gwesteion lletygarwch yn fwriadol yn chwilio am gynnyrch o Gymru ar fwydlenni, mae yna gyfle ardderchog yma ar gyfer ein bwytai a'n cynhyrchwyr gwych o Gymru," meddai.
Meddai'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS:
"Mae'r broses GI yn ffordd wych i'n cynhyrchwyr o safon uchel yng Nghymru i werthu eu straeon ac arddangos yr arbenigedd, cynaliadwyedd a'r traddodiad sydd wedi creu'r cynnyrch yma. Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cymryd camau i annog a chefnogi mwy o gynhyrchwyr i ymgeisio am statws GI wrth i ni adeiladu ein henw da yn genedlaethol a rhyngwladol fel cenedl fwyd a diod nodedig. Rydym wrth ein bodd i fod yn cefnogi'r ymgyrch newydd hon ac edrychwn ymlaen at weld mwy o gynnyrch GI o Gymru ar fwydlenni led-led y wlad".
Ychwanegodd Ellen Wakelam, cyd-berchennog In the Welsh Wind:
"Mae bod yn rhan o'r teulu Wisgi Brag Sengl PGI o Gymru wedi rhoi llwyfan gwych i ddistyllfeydd sy’n cynhyrchu wisgi Cymreig allu cydweithio ar lefel ddyfnach, ac wedi cryfhau ein llais, yn unigol ac ar y cyd, ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo ein cynnyrch newydd ac i gydweithio gyda brandiau lletygarwch sydd wedi’u sefydlu a chyflwyno stori Wisgi Cymru i gynulleidfa ehangach. Rydym ni i gyd wedi cael profiad gwych yn gweithio gyda'n gilydd fel cogyddion a chynhyrchwyr i greu'r ymgyrch hon a byddem yn annog cogyddion a chynhyrchwyr ar hyd a lled Cymru i ddatblygu cysylltiadau tebyg er mwyn dwyn ynghyd gynnig cwbl unigryw a nodedig Gymreig ar eu bwydlen," meddai.
Mae'r ymgyrch yn cael ei hyrwyddo drwy rwydweithiau Bwyd a Diod Cymru a Croeso Cymru Llywodraeth Cymru. Gall lleoliadau lletygarwch lawrlwytho rysetiau a gwybodaeth am gynhyrchwyr GI o Gymru, a gwylio fideos rysetiau'r cogydd yma.
Y casgliad rysetiau PGI cogyddion o Gymru yw:
Douglas Balish, The Grove of Narberth:
Wystrys y Graig Sir Benfro Atlantic Edge gyda Ham Sir Gâr PGI Wisgi Cymreig Brag Sengl PGI
Paru: Wisgi Cymreig Brag Sengl PGI Aber Falls
Tarten siocled Wisgi Cymreig Brag Sengl PGI gyda halen myglyd Halen Môn PDO
Paru: Wisgi Cymreig Brag Sengl PGI Penderyn rich oak
Swffle Caws Caerffili PGI Traddodiadol o Gymru gyda Chennin o Gymru PGI wedi'u paru gyda Chwisgi Brag Sengl PGI.
Paru: Wisgi Cymreig Brag Sengl Dà Mhìle PGI
Osian Jones, Crwst, Aberteifi:
Crème Brûlèe Wisgi Cymreig Brag Sengl PGI
Chris Walker, Yr Hen Printworks, Aberteifi
Cremeux siocled, hufen ia brag a Wisgi Cymreig Brag Sengl PGI a charamel ceirios
Cig Eidion asen fer PGI gyda saws pupur a seleriac Wisgi Brag Sengl o Gymru
Tri choctel Wisgi Cymreig Brag Sengl PGI:
- Old Fashioned Wisgi Cymreig Brag Sengl Dà Mhìle PGI
- Manhattan Wisgi Cymreig Brag Sengl Penderyn Portwood PGI
- Cherry Whisky Sour Chwisgi Brag Sengl PGI In the Welsh Wind