Sylwch nad Syniadau Mawr Cymru sy’n berchen ar y gwefannau canlynol ac mae’n bosibl y bydd y cynnwys ar gael yn uniaith Saeneg yn unig. Am wybodaeth am breifatrwydd, gweler y polisïau preifatrwydd ar y gwefannau unigol.
|
Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES), rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n gweithio i hyrwyddo entrepreneuriaeth i bobl ifanc 5-25 oed. Eu nod yw datblygu a meithrin pobl ifanc entrepreneuraidd, hunan-gynhaliol, ym mhob cymuned yng Nghymru, a fydd yn gwneud cyfraniad canarnhaol at lwyddiant economaidd a chymdeithasol. |
|
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy'n rhoi cymorth a chyngor diduedd, annibynnol i bobl sy'n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes yng Nghymru, Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o deulu Busnes Cymru, gan roi cyngor a cefnogaeth i bobl ifanc o dan 25 oed sy'n edrych ar gychwyn busnes/ symud ymlaen i dyfu eu busnes. |
Creu Sbarc; Mudiad i ysgogi a denu pawb ym ecosystem Cymru i entrepreneuriaeth dan symbyliad arloesiad ledled y wlad. |
|
|
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am ddim a di-duedd am yrfaoedd, i bobl ifanc, oedolion, rhieni, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Mae Busnes yn y Gymuned yn cefnogi pobl ifanc drwy bontio'r bwlch rhwng yr ystafell ddosbarth a byd gwaith, |
Cafodd Banc Datblygu Cymru ei sefydlu gan Lywodaeth Cymru i gefnogi economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid mae ei angen i gychwyn, cryfhau a thyfu, a fydd yn ei dro yn cefnogi entrepreneuriaeth ieuenctid. | |
Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth Addysg Bellach ac Uwch Cymru | Mae Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth yn cyflwyno ystod o gystadlaethau a phrofiadau i fyfyrwyr drwy gydol y flwyddyn academaidd gan gefnogi Entrepreneuriaeth Ieuenctid yng Nghymru a'i gyrru yn ei blaen. |
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gweithio'n galed i greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc 11 i 30 oed yng Nghymru, gan eu grymuso i fynd i mewn i swyddi, addysg a hyfforddiant. | |
|
Cenhadaeth UnLtd yw cyrraedd a rhyddhau egni pobl sy'n gallu gweddnewid y byd maen nhw'n byw ynddo. Trwy eu Rhaglen Ddyfarniadau gystadleuol, maen nhw'n cynnig cefnogaeth i Entrepreneuriaid Cymdeithasol o bob oedran ar adegau gwahanol eu taith. |
Nod Urdd Gobaith Cymru yw cynnig y cyfle, drwy gyfrwng y Gymraeg, i blant a phobl ifanc yng Nghymru fynd yn unigolion cytbwys, cyflawn, gan ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol at y gymuned | |
|
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn gweithio tuag at greu Cymru well, decach, fwy cydweithredol. Maen nhw'n asiantaeth genedlaethol sy'n cefnogi adfywio cymunedau, datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol drwy atebion cydweithredol, a fydd o fudd i bobl ifanc yng Nghymru. |
|
Mae Menter yr Ifanc yn gwneud y cysylltiad rhwng yr ysgol a byd gwaith, gan alluogi pobl ifanc i ddatblygu'r wybodaeth a'r agweddau mae arnyn nhw eu hangen i lwyddo.Mae eu rhaglenni'n cynnwys; Her Papur Pumpunt i Ysgolion Cynradd, Her Papur Decpunt a'r Rhaglen Cwmnïau ar gyfer addysg uwchradd, a'r rhaglen Cychwyn Busnes i golegau Addysg Bellach, darparwyr hyfforddiant ac Addysg Uwch. |
|
Mae Micro-Tyco yn her fenter gan WildHearts Group sy'n para am fis, gan alluogi'r cyfranogwyr i ymarfer a dysgu egwyddorion busnes sylfaenol mewn amgylchedd 'meicro', diogel. Mae gan dimau o ysgolion, prifysgolion neu fusnesau un mis i droi cyfalaf sbarduno o £1 yn gymaint o arian â phosibl. |
WorldSkills yw'r canolbwynt byd-eang am ragoriaeth a datblygiad sgiliau. Mae eu prosiect BeChangeMaker yn cynnig hyfforddiant entrepreneuraidd cymdeithasol ar-lein sy'n galluogi pobl ifanc â sgiliau a syniadau gwych i archwilio eu potensial am yrfa fel entrepreneur cymdeithasol. | |
Bwrdd arholi yw CBAC, sy'n darparu cymwysterau ac asesiad arholiadau i ysgolion a cholegau. Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru wedi'i seilio ar Dystysgrif Her Sgiliau, sy'n bwriadu galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos dealltwriaeth o sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd a medrusrwydd ynddyn nhw. | |
Mae Ffederasion Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn gorff ieuenctid gwirfoddol egnïol a hygyrch i bobl 10-25 oed, gan weithredu'n ddwyieithog ledled Cymru wledig. Mae'n cefnogi pobl ifanc i fynd yn ffermwyr llwyddiannus, yn unigolion hyderus, yn gyfranwyr effeithiol ac yn ddinasyddion cyfrifol. |
Creu Sbarc; Mudiad i ysgogi a denu pawb ym ecosystem Cymru i entrepreneuriaeth dan symbyliad arloesiad ledled y wlad. | |
Elusen yw Busnes yn y Gymuned sy'n cael ei harwain gan fyd busnes. Mae'n cefnogi pobl ifanc, yn arbennig y sawl dan amgylchiadau heriol, drwy geisio pontio'r bwlch rhwng yr ystafell ddosbarth a byd gwaith, a sicrhau bod gan Gymru'r gweithlu medrus mae arni ei angen am y dyfodol. | |
Mae Chwarae Teg yn gweithio i helpu i sicrhau y gall menywod yng Nghymru ymuno â'r gweithle, datblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd boddhaus. Maen nhw'n gweithio'n agos gyda phobl ifanc a chyrff ieuenctid ar raglenni ymwybyddiaeth o rywedd, gan helpu addysgwyr i ddeall rhywedd o safbwynt datblygiad plant. | |
Mae'r ffederasiwn yn wasanaeth aelodaeth sy'n cynnig cyngor, arbenigedd ariannol, cymorth a llais grymus mewn llywodraeth. Eu cenhadaeth yw helpu busnesau bach i gyflawni eu huchelgeisiau. Mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig yn y gefnogaeth sydd ar gael i bobl fusnes ifanc yng Nghymru. | |
Cwmni annibynnol yw Menter a Busnes sy'n helpu unigolion, busnesau a chyrff yng Nghymru i gyfrannu at ddatblygu'r economi, gan gynnig ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth, a chymorth i gychwyn a thyfu busnes. Mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig yn y gefnogaeth sydd ar gael i bobl fusnes ifanc yng Nghymru. | |
IPSE are there for independent professionals no matter how or where they work. You can download their guide to freelancing here. (you will need to sign up to get access) | |
Mae WCVA yn cefnogi isadeiledd yr holl drydydd sector yng Nghymru. Eu nod yw dyfodol lle mae'r trydydd sector a gwirfoddoli yn ffynnu ledled Cymru, gan wella llesiant pawb. Maen nhw'n cynnig cymorth, cyngor a chyfleoedd i wirfoddolwyr ifanc, gyda Chynghorydd Gwirfoddoli Ieuenctid ym mhob sir. | |
Elusen gwaith ieuenctid genedlaethol yw Youth Cymru. Mae'n gweithio ar y cyd â'i aelodau a chyrff eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc i gynnig cyfleoedd, prosiectau a rhaglenni unigryw, arloesol sy'n gallu newid bywydau pobl ifanc yng Nghymru. | |
Mae Cymru Ifanc yn cynnig cyfleoedd cyfranogi i blant a phobl ifanc. Eu nod yw gwrando ar bobl ifanc a grymuso eu llais. | |
Carnegie Uk Trust; Build your own Test Town - Mae'r adnodd hwn yn cefnogi ac yn galluogi trefi ac ardaloedd i roi cynnig ar redeg eu digwyddiadau TestTown eu hun, gan gynnig cyfle i bobl ifanc redeg eu siop dros dro eu hunain a rhoi prawf ar eu gweithgaredd menter. |
Pobl fusnes go iawn yw’r ‘modelau rôl’ sydd â straeon diddorol, llawn ysbrydoliaeth sy’n ennyn dychymyg pobl ifanc ac sy’n cyfathrebu'n ddidwyll am yr hyn sydd tu ôl i fod yn fos arnyn nhw eu hunain. Maen nhw’n rhannu eu brwdfrydedd am greadigrwydd a llwyddiant ac yn helpu pobl ifanc i feddwl yn gadarnhaol am eu dyfodol eu hunain.
Gofynnir i fodelau rôl baratoi Gweithdy Llawn Ysbrydoliaeth y byddan nhw’n ei gyflwyno i bobl ifanc fel arfer rhwng 13 a 24 oed mewn digwyddiadau a dosbarthiadau a drefnir mewn lleoliad addysgol neu gymunedol. Fel arfer, mae’r gweithdai hyn yn para am tuag awr a byddan nhw’n cynnwys dweud stori a gweithgareddau. Byddan nhw’n cael eu cynnal ar safleoedd ysgolion, colegau a phrifysgolion drwy’r cydlynwyr rhanbarthol.
Darllenwch y proffiliau i gael blas o’r amrywiaeth eang o berchnogion busnes sy’n aelodau o rwydwaith y Modelau Rôl ar hyn o bryd.
Mae tîm o staff ymroddedig yn darparu’r gwaith o gydlynu a pharatoi ar gyfer ymweliadau modelau rôl mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.