Partneriaid – Pwy ydy pwy?

Nid rhestr gynhwysfawr yw hon, rydym ni’n croesawu cysylltiad oddi wrth bartneriaid nad yw eu manylion o bosib wedi’u cynnwys yn y rhestr hon ond sy’n gweithio gyda phobl ifanc i hybu entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru.

Logos Partneriaid

Sylwch nad Syniadau Mawr Cymru sy’n berchen ar y gwefannau canlynol ac mae’n bosibl y bydd y cynnwys ar gael yn uniaith Saeneg yn unig. Am wybodaeth am breifatrwydd, gweler y polisïau preifatrwydd ar y gwefannau unigol.

 

Image result for big ideas wales logo

Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES), rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n gweithio i hyrwyddo entrepreneuriaeth i bobl ifanc 5-25 oed. Eu nod yw datblygu a meithrin pobl ifanc entrepreneuraidd, hunan-gynhaliol, ym mhob cymuned yng Nghymru, a fydd yn gwneud cyfraniad canarnhaol at lwyddiant economaidd a chymdeithasol. 

 

Image result for business wales logo

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy'n rhoi cymorth a chyngor diduedd, annibynnol i bobl sy'n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes yng Nghymru, Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o deulu Busnes Cymru, gan roi cyngor a cefnogaeth i bobl ifanc o dan 25 oed sy'n edrych ar gychwyn busnes/ symud ymlaen i dyfu eu busnes. 
Image result for be the spark wales logo

Creu SbarcMudiad i ysgogi a denu pawb ym ecosystem Cymru i entrepreneuriaeth dan symbyliad arloesiad ledled y wlad.

 

Image result for careers wales logo

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am ddim a di-duedd am yrfaoedd, i bobl ifanc, oedolion, rhieni, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Mae Busnes yn y Gymuned yn cefnogi pobl ifanc drwy bontio'r bwlch rhwng yr ystafell ddosbarth a byd gwaith,
Image result for development bank of wales logo Cafodd Banc Datblygu Cymru ei sefydlu gan Lywodaeth Cymru i gefnogi economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid mae ei angen i gychwyn, cryfhau a thyfu, a fydd yn ei dro yn cefnogi entrepreneuriaeth ieuenctid. 
Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth Addysg Bellach ac Uwch Cymru Mae Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth yn cyflwyno ystod o gystadlaethau a phrofiadau i fyfyrwyr drwy gydol y flwyddyn academaidd gan gefnogi Entrepreneuriaeth Ieuenctid yng Nghymru a'i gyrru yn ei blaen.
Image result for princes trust cymru logo Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gweithio'n galed i greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc 11 i 30 oed yng Nghymru, gan eu grymuso i fynd i mewn i swyddi, addysg a hyfforddiant. 

 

Image result for unltd logo

Cenhadaeth UnLtd yw cyrraedd a rhyddhau egni pobl sy'n gallu gweddnewid y byd maen nhw'n byw ynddo. Trwy eu Rhaglen Ddyfarniadau gystadleuol, maen nhw'n cynnig cefnogaeth i Entrepreneuriaid Cymdeithasol o bob oedran ar adegau gwahanol eu taith. 
Image result for Urdd Gobaith Cymru logo Nod Urdd Gobaith Cymru yw cynnig y cyfle, drwy gyfrwng y Gymraeg, i blant a phobl ifanc yng Nghymru fynd yn unigolion cytbwys, cyflawn, gan ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol at y gymuned

 

Image result for wales cooperative logo

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn gweithio tuag at greu Cymru well, decach, fwy cydweithredol. Maen nhw'n asiantaeth genedlaethol sy'n cefnogi adfywio cymunedau, datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol drwy atebion cydweithredol, a fydd o fudd i bobl ifanc yng Nghymru. 

 

Image result for young enterprise logo

Mae Menter yr Ifanc yn gwneud y cysylltiad rhwng yr ysgol a byd gwaith, gan alluogi pobl ifanc i ddatblygu'r wybodaeth a'r agweddau mae arnyn nhw eu hangen i lwyddo.Mae eu rhaglenni'n cynnwys; Her Papur Pumpunt i Ysgolion Cynradd, Her Papur Decpunt a'r Rhaglen Cwmnïau ar gyfer addysg uwchradd, a'r rhaglen Cychwyn Busnes i golegau Addysg Bellach, darparwyr hyfforddiant ac Addysg Uwch.

 

Wildhearts - Business for Good

Mae Micro-Tyco yn her fenter gan WildHearts Group sy'n para am fis, gan alluogi'r cyfranogwyr i ymarfer a dysgu egwyddorion busnes sylfaenol mewn amgylchedd 'meicro', diogel. Mae gan dimau o ysgolion, prifysgolion neu fusnesau un mis i droi cyfalaf sbarduno o £1 yn gymaint o arian â phosibl. 
Image result for world skills logo WorldSkills yw'r canolbwynt byd-eang am ragoriaeth a datblygiad sgiliau. Mae eu prosiect BeChangeMaker yn cynnig hyfforddiant entrepreneuraidd cymdeithasol ar-lein sy'n galluogi pobl ifanc â sgiliau a syniadau gwych i archwilio eu potensial am yrfa fel entrepreneur cymdeithasol. 
Image result for wjec logo Bwrdd arholi yw CBAC, sy'n darparu cymwysterau ac asesiad arholiadau i ysgolion a cholegau. Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru wedi'i seilio ar Dystysgrif Her Sgiliau, sy'n bwriadu galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos dealltwriaeth o sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd a medrusrwydd ynddyn nhw.

Image result for young farmers club wales logo

Mae Ffederasion Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn gorff ieuenctid gwirfoddol egnïol a hygyrch i bobl 10-25 oed, gan weithredu'n ddwyieithog ledled Cymru wledig. Mae'n cefnogi pobl ifanc i fynd yn ffermwyr llwyddiannus, yn unigolion hyderus, yn gyfranwyr effeithiol ac yn ddinasyddion cyfrifol. 

Image result for be the spark logo Creu Sbarc; Mudiad i ysgogi a denu pawb ym ecosystem Cymru i entrepreneuriaeth dan symbyliad arloesiad ledled y wlad.

Image result for business in the community logo

Elusen yw Busnes yn y Gymuned sy'n cael ei harwain gan fyd busnes. Mae'n cefnogi pobl ifanc, yn arbennig y sawl dan amgylchiadau heriol, drwy geisio pontio'r bwlch rhwng yr ystafell ddosbarth a byd gwaith, a sicrhau bod gan Gymru'r gweithlu medrus mae arni ei angen am y dyfodol.

Image result for chwarae teg logo

Mae Chwarae Teg yn gweithio i helpu i sicrhau y gall menywod yng Nghymru ymuno â'r gweithle, datblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd boddhaus. Maen nhw'n gweithio'n agos gyda phobl ifanc a chyrff ieuenctid ar raglenni ymwybyddiaeth o rywedd, gan helpu addysgwyr i ddeall rhywedd o safbwynt datblygiad plant. 

FSB Logo

Mae'r ffederasiwn yn wasanaeth aelodaeth sy'n cynnig cyngor, arbenigedd ariannol, cymorth a llais grymus mewn llywodraeth. Eu cenhadaeth yw helpu busnesau bach i gyflawni eu huchelgeisiau. Mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig yn y gefnogaeth sydd ar gael i bobl fusnes ifanc yng Nghymru.
Image result for menter a business logo Cwmni annibynnol yw Menter a Busnes sy'n helpu unigolion, busnesau a chyrff yng Nghymru i gyfrannu at ddatblygu'r economi, gan gynnig ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth, a chymorth i gychwyn a thyfu busnes. Mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig yn y gefnogaeth sydd ar gael i bobl fusnes ifanc yng Nghymru.
Image result for ipse logo IPSE are there for independent professionals no matter how or where they work. You can download their guide to freelancing here. (you will need to sign up to get access)
Image result for wcva Mae WCVA yn cefnogi isadeiledd yr holl drydydd sector yng Nghymru. Eu nod yw dyfodol lle mae'r trydydd sector a gwirfoddoli yn ffynnu ledled Cymru, gan wella llesiant pawb. Maen nhw'n cynnig cymorth, cyngor a chyfleoedd i wirfoddolwyr ifanc, gyda Chynghorydd Gwirfoddoli Ieuenctid ym mhob sir. 
Image result for youth cymru Elusen gwaith ieuenctid genedlaethol yw Youth Cymru. Mae'n gweithio ar y cyd â'i aelodau a chyrff eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc i gynnig cyfleoedd, prosiectau a rhaglenni unigryw, arloesol sy'n gallu newid bywydau pobl ifanc yng Nghymru.

YWalesLogo

Mae Cymru Ifanc yn cynnig cyfleoedd cyfranogi i blant a phobl ifanc. Eu nod yw gwrando ar bobl ifanc a grymuso eu llais.  

Carnegie Uk Trust; Build your own Test Town - Mae'r adnodd hwn yn cefnogi ac yn galluogi trefi ac ardaloedd i roi cynnig ar redeg eu digwyddiadau TestTown eu hun, gan gynnig cyfle i bobl ifanc redeg eu siop dros dro eu hunain a rhoi prawf ar eu gweithgaredd menter.

Pobl fusnes go iawn yw’r ‘modelau rôl’ sydd â straeon diddorol, llawn ysbrydoliaeth sy’n ennyn dychymyg pobl ifanc ac sy’n cyfathrebu'n ddidwyll am yr hyn sydd tu ôl i fod yn fos arnyn nhw eu hunain. Maen nhw’n rhannu eu brwdfrydedd am greadigrwydd a llwyddiant ac yn helpu pobl ifanc i feddwl yn gadarnhaol am eu dyfodol eu hunain.

Gofynnir i fodelau rôl baratoi Gweithdy Llawn Ysbrydoliaeth y byddan nhw’n ei gyflwyno i bobl ifanc fel arfer rhwng 13 a 24 oed mewn digwyddiadau a dosbarthiadau a drefnir mewn lleoliad addysgol neu gymunedol.  Fel arfer, mae’r gweithdai hyn yn para am tuag awr a byddan nhw’n cynnwys dweud stori a gweithgareddau. Byddan nhw’n cael eu cynnal ar safleoedd ysgolion, colegau a phrifysgolion drwy’r cydlynwyr rhanbarthol.

Darllenwch y proffiliau  i gael blas o’r amrywiaeth eang o berchnogion busnes sy’n aelodau o rwydwaith y Modelau Rôl ar hyn o bryd.

Mae tîm o staff ymroddedig yn darparu’r gwaith o gydlynu a pharatoi ar gyfer ymweliadau modelau rôl mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Darganfyddwch fwy a chyrchwch eu manylion cyswllt yma