Polisi preifatrwydd Modelau Rôl, Llysgenhadon & Siaradwyr

Ewch yn ôl 

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol y byddwch chi’n ei ddarparu i Syniadau Mawr Cymru. Bydd y data’n cael ei brosesu yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y byddwn yn prosesu eich data personol yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw. Neilltuwch funud neu ddau i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais i fod yn Fodel Rôl neu’n Llysgennad gyda Syniadau Mawr Cymru, sydd yn rhan o raglen Busnes Cymru, rydych chi’n mynegi diddordeb mewn gweithio gyda ni i ddarparu gweithdai a sesiynau mentora un i un mewn ambell achos yn unol â Chod Ymarfer Model Rôl. Defnyddir y data rydych chi’n ei ddarparu i asesu eich cymhwyster i fod yn fodel rôl, i ffurfio’r sail ar gyfer proffil model rôl sydd wedi’i gynnwys ar Hafan | Busnes Cymru (gov.wales) a lle’n berthnasol i dalu ffioedd y model rôl. Bydd eich manylion yn cael eu defnyddio hefyd at ddibenion gwerthuso ac adrodd. Efallai y cysylltir â chi hefyd i fod yn rhan o weithgareddau hyrwyddo ychwanegol fel cael eich ffilmio neu eich cyfweld, gallwch wrthod y ceisiadau hyn.

Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Lywodraeth Cymru a’r darparwyr gwasanaethau canlynol:

  • Gyrfa Cymru, sydd yn darparu gweithgareddau Syniadau Mawr Cymru o fewn ysgolion
  • Busnes Cymru, sydd yn gyfrifol am hyfforddiant a sefydlu Modelau Rol ac yn darparu gweithgareddau Syniadau Mawr Cymru o fewn Colegau, Prifysgolion a Grwpiau Cymunedol

O bryd i’w gilydd bydd eich enw, cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn yn cael eu rhannu gyda’r athro, tiwtor, hyrwyddwr menter neu arweinydd grŵp y tu allan i addysg sydd wedi gofyn am eich gwasanaethau at ddibenion cydgysylltu.

Os nad ydych chi’n gymwys i fod yn fodel rôl, bydd eich data’n cael ei gadw yng nghronfa ddata Llywodraeth Cymru gydol rhaglen Syniadau Mawr Cymru. Gallwch ddewis peidio â bod yn Fodel Rôl ar unrhyw adeg, ond bydd eich data’n cael ei gadw gydol y rhaglen Syniadau Mawr Cymru ac am 10 mlynedd arall at ddibenion archwilio.

Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu gosod yma ac yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith. Pan fydd newidiadau yn digwydd, i’r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost rydym wedi’i gofnodi yn eich cyfrif er mwyn eich galluogi i adolygu’r fersiwn newydd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl:

-         I gael mynediad i’r data personol sydd gennym amdanoch;

-         I ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;

-         (O dan amgylchiadau penodol) yr hawl i wrthod neu gyfyngu ar brosesu;

-         (O dan amgylchiadau penodol) yr hawl i ‘ddileu’ eich data;

-         Cofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Os hoffech gysylltu â ni i drafod cwyn neu bryder sydd gennych am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn prosesu eich data personol, neu am ofyn i ni ddileu eich data, gallwch ofyn am gael siarad â’r Swyddog Diogelu Data drwy ffonio Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu drwy gysylltu â ni ar-lein yn Cysylltwch â ni | Busnes Cymru (gov.wales)

Os oes gennych chi bryderon neu gŵyn am sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’ch data dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Customer Contact Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:
Swyddog Diogelu Data,
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost  Data.ProtectionOfficer@cymru.gsi.gov.uk

 

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn galluogi’r cyhoedd i ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

Ewch yn ôl i gofrestru