Edouard Payne
Edouard Payne
EntryJobs
Trosolwg:
Social enterprise to promote and help youth unemployment
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Ceredigion

Roeddwn yn arfer byw yn Llandudno cyn symud i Lundain lle gadewais hanner ffordd drwy’r chweched dosbarth i lansio fy musnes cyntaf ar y rhyngrwyd. Defnyddiais yr arian yr oeddwn wedi ei ennill wrth weithio’n rhan amser tra oeddwn yn y chweched dosbarth i ariannu’r prosiect. Roedd y wefan rhannu delweddau’n brofiad unigryw i mi a dysgais lawer iawn yn sgil methiant y safle.

Ar ôl i’r busnes ddod i ben ymgeisiais am grant UnLtd i lansio menter gymdeithasol i hyrwyddo a helpu diweithdra ymysg pobl ifanc, enw’r safle yw YouthDirect.org.uk. Nod YouthDirect oedd mynd i’r afael â’r broblem gynyddol bwysig o Ddiweithdra ymysg Pobl Ifanc trwy gynnig swyddi ar lefel-mynediad i bobl ifanc drwy ddyfeisiau ffôn clyfar.

Ers ei lansio, mae’r wefan wedi helpu rhyw 5000 o bobl ifanc i wneud cais am swyddi gyda mi ac wedi cael sylw ar Newyddion y BBC, Newyddion ITV, The Guardian a’r Huffington Post. Gan ddefnyddio’r profiad rwy wedi ei ennill yn y sector recriwtio, rwy erbyn hyn yn gweithio ar wefan newydd o’r enw findara.co.uk. Ar ôl rhwystredigaeth tasgau gweinyddol anfon fy CV at recriwtwyr, lansies i Findara gyda’r nod o ystwytho’r holl broses, drwy’ch galluogi i anfon eich CV at 100oedd o asiantaethau recriwtio perthnasol mewn ychydig eiliadau gan arbed oriau, os nad dyddiau, i chi. O fewn y busnesau rwy wedi eu lansio, rwy wedi bod yn rhan o bob cam a’m gobaith i yw defnyddio’r wybodaeth hon i gefnogi a hyrwyddo entrepreneuriaeth yn well yng Nghymru. Yn ogystal, rwy’n gweithio gyda darparwr mwyaf ffeiriau swyddi yn y DU sef thejobfairs.co.uk