Sut i Ymgeisio
1. I ddod o hyd i’r ffurflen gais, mewn gofnodwch i blatfform Simply Do yma. Os ydych am ddrafftio’ch cais yn gyntaf, lawr lwythwch y templed hwn. Ni ellir cadw'r ffurflen ar-lein wedi i chi ei dechrau. Defnyddiwch y templed yma i ddarparu a chadw eich atebion yna gallwch eu copïo a’u gludo ar y ffurflen ar-lein. Cofiwch gadw copi i chi eich hun.
2. Os ydych o dan 16 oed mae’n rhaid cynnwys enw a chyfeiriad ebost oedolyn.
3. Sicrhewch eich bod yn dewis y categori oedran cywir:
Categori 1: 11-16 mlwydd oed
Categori 2: 16-18 mlwydd oed (ôl 16)
4. Sicrhewch eich bod yn teipio yn yr holl flychau angenrheidiol (ni allwn asesu eich ymgais os yw’r wybodaeth yn anghyflawn)
5. Uwch lwythwch y ffeil o’ch dewis (PPT/fideo)
6. Dywedwch wrthym pam y dylai eich syniad ennill (uchafswm 300 llythyren)
7. Dywedwch wrthym pa fenter gymdeithasol/elusen y buasech yn eu cefnogi pe baech yn ennill.
Iaith
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog.
Dyddiad cau
Cofrestru erbyn 6pm Dydd Iau, 19eg Mai 2022 a ceisiadau wedi cwblhau erbyn 26ain Mai
Ymgeisiwch Yma
Gair i’ch atgoffa!
Pwy all ymgeisio
Pobl ifanc 11-18 mlwydd oed sy’n byw yng Nghymru.
Gallwch ymgeisio fel unigolyn neu fel rhan o grŵp (uchafswm o chwe aelod).
Rhaid i chi fod yn rhan o 1 cais yn unig.
.
Pwysig: Bwriedir y gystadleuaeth yma ar gyfer rhai 11-18 mlwydd oed, felly rydym yn gofyn am eich oedran i sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth, ac i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r holl gefnogaeth sydd ar gael i’ch cynorthwyo i ddechrau busnes, os nad ydych o fewn yr ystod oedran yma.
Os ydych yn ymgeisydd iau na 16 mlwydd oed dylai eich rhiant, eich gofalwr neu eich athro/athrawes gwblhau’r cais gyda chi – gweler y ffurflen gais gysylltiedig sy’n ymwneud â hyn gan fod yn rhaid i oedolyn ddilysu eich cais. Gellir gweld y Polisi Preifatrwydd yma.
Telerau ac Amodau
Darllenwch y Telerau ac Amodau sydd i’w gweld yma, os gwelwch yn dda