Beth yw Entrepreneur?
Richard Branson. Julie Deane. Steve Jobs. Hayley Parsons. Mark Zuckerberg. J.K. Rowling. Jamie Oliver. Beth sydd ganddynt yn gyffredin ar wahân i lwyddiant ysgubol?
Maent i gyd yn entrepreneuriaid.
Efallai bod rhai ohonoch yn meddwl – Fedra i ddim bod fel y bobl hynny. Y gwir ydi MI FEDRI DI! Jamal Edwards. Poppy Dinsey. Joshua Magidson. Georgina Cooper. Maent i gyd yn entrepreneuriaid ifanc sydd yn arwain y ffordd ac yn ailddiffinio edrychiad yr entrepreneur.
Heddiw mae'r gair entrepreneur yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun sy'n cychwyn busnes; ac mae hynny'n rhan ohono. Fodd bynnag, mae'n fwy na hynny. Mewn gwirionedd mae’n ffordd o fyw sy'n seiliedig ar Agwedd, Creadigrwydd, Delio â Phobl, a Chynllunio.
Tydi entrepreneuriaid ddim gwahanol i chdi - maen nhw'n bobl gyffredin sydd â'r penderfyniad i droi syniadau’n gynhyrchion neu’n wasanaethau. Gall fod mor syml â darparu gwasanaeth i bobl nad ydynt yn gwybod sut i wneud rhywbeth, neu ddim eisiau gwneud – mae gwarchod a cherdded anifeiliaid anwes, cynllunio digwyddiadau a phartïon, cymorth â chyfryngau cymdeithasol yn rhai enghreifftiau.
Oes gen ti hobi yr wyt ti’n ei fwynhau fel gwneud eitemau â llaw fel crefftau a chardiau?
Beth am adeiladu neu drwsio cyfrifiaduron? Efallai mai ffotograffiaeth, dylunio gwefannau neu apiau sy’n mynd â dy fryd? Mae llawer o entrepreneuriaid wedi troi eu hobïau’n fusnesau llwyddiannus, ac o ganlyniad, maent yn caru'r hyn y maent yn ei wneud.
Beth sy'n peri rhwystredigaeth i ti?
"Yr unig ffordd o wneud gwaith gwych yw drwy garu’r hyn yr ydych yn ei wneud ."
Steve Jobs
Os yw'n dy wylltio di, yna mae’n debyg y bydd yn gwylltio pobl eraill hefyd. Mae cyfleoedd busnes lle bynnag mae anfodlonrwydd - os fedri di feddwl am ffordd well neu newydd o wneud rhywbeth, yna datblyga dy syniad.
Gall gwneud rhywbeth nad wyt wedi ei wneud o’r blaen fod yn frawychus. Fodd bynnag, paid â gadael i’r teimladau hynny dy atal rhag symud ymlaen. Mae llawer o bethau yn galed ar y cychwyn; ond gydag ychydig o fomentwm, fe ddaw yn haws.
Hola unrhyw entrepreneur a bydd yn dweud wrthyt nad yw hi bob amser yn haul ar fryn. Bydd rhwystrau a sawl cam yn ôl. Bydd yna bobl gyda barn wahanol i ti; ond gyda gwaith caled a'r penderfyniad i lwyddo, does dim dal pa mor bell y gelli gyrraedd, ar hyn y gelli ei wneud.
Does dim byd gwych am fod yn normal – mentra fod yn wahanol!