Lucy Allison: Blogiau
Blog #1 - 12/01/2017
Edrych ar frid a chynhyrchiant glaswellt i gynyddu’r solidau llaeth a gynhyrchir fesul buwch a fesul hectar
Ar y diwrnod cyn dechrau’r gynhadledd, cefais gyfle i gael taith fferm ar un o Ffermydd Ymchwil Teagasc. Es i draw i Goleg Amaethyddol Conakilty i glywed am y prosiect ymchwil presennol sy’n edrych ar “Effaith gwyndonnydd tetraploid a diploid a heuwyd gyda meillion a heb feillion ar gynhyrchiant llaeth y gwanwyn”.
Heuwyd y fferm gyda 4 triniaeth fel y dangosir yn y diagram isod
Diploid gyda meillion |
Diploid heb feillion |
Tetraploid gyda meillion |
Tetraploid heb feillion |
- Roedd 30 buwch yn pori pob triniaeth
- 10 Holstein Friesian
- 10 Jersey Croes ( Jersey/Friesian)
- 10 croes tair ffordd
- 20 padog i bob triniaeth
- Dwysedd stocio o 2.75 buwch/ha
- Derbyniodd pob padog 250kgN/ha yn ystod y tymor
Derbyniodd pob triniaeth yr un faint o borthiant ategol yn y parlwr. Bu’r gwartheg yn pori o fis Chwefror hyd fis Tachwedd.
Roedd triniaethau meillion yn cynnwys 25-30% meillion o fewn y gwndwn.
Gan fod gwyndonnydd meillion yn arafach yn sefydlu yn ystod y gwanwyn, roedd angen bwydo silwair ychwanegol i’r triniaethau glaswellt a meillion er mwyn cau’r bwlch, ond yn ystod yr haf, bu’r triniaethau meillion yn cynhyrchu mwy o laswellt a oedd yn gallu cael ei roi mewn byrnau a’i ddefnyddio yn ystod y gwanwyn olynol.
Effaith Glaswellt
Glaswellt v Glaswellt + Meillion
|
Glaswellt |
Glaswellt + Meillion |
KGS/MS |
427.5 |
485.5 |
-
+58kg MS y fuwch (ar gyfartaledd 2014-2016)
-
Incwm ychwanegol o €262 y fuwch
-
262 x 2.75 (cyfradd stocio) = €720/ha yn ychwanegol
Prif neges hyn oedd y dylai pawb fod yn rheoli ac yn hybu meillion ar eu fferm er mwyn sicrhau’r treuliadwyedd, defnydd a’r cynnyrch glaswellt gorau posib.
Effaith y Brid
Wrth gymharu ffigyrau rhwng y 3 math gwahanol o frid, gwelodd y gwaith ymchwil bod Bridiau Croes yn 13.6% yn fwy effeithiol o ran trosi porthiant na gwartheg Holstein Friesian (ar laswellt).
Roedd bridiau croes 12% yn fwy effeithiol o ran trosi porthiant na gwartheg HF (glaswellt + meillion).
Effaith gyfunol o ddefnyddio meillion a bridiau croes =
- Cynnydd mewn pwysau corff 0.81kgms/kg i 1.03 KGMS/KGBW
- +27% gwelliant
Not even allowing for increased replacement rate
- Amcangyfrif ar gyfer croesfrid o 5 llaethiad/buwch
- HF o 3.2 llaethiad/buwch
Glaswellt yn unig |
HF |
Croesfrid |
Elw/ha |
2090 |
2438 |
|
||
Glaswellt + Meillion |
HF |
Croesfrid |
Elw/ha |
2631 |
2950 |
2016. Teagasc
Yn y blog nesaf, byddaf yn sôn am y Positive Farmer Conference a’r prif bethau wnes i ddysgu yn y digwyddiad eleni.
Blog #2 - 13/01/2017
Gwaith fferm a’r posibiliadau
Ymddiheuriadau am grwydro oddi ar y pwnc ryw ychydig, ond rwy’n credu bod hwn yn rhan bwysig iawn o unrhyw fferm laeth effeithlon, neu unrhyw fusnes mewn gwirionedd.
Cymell y gweithwyr, eu cadw’n hapus a’u cadw nhw. Nid yw bob amser mor hawdd â hynny, ac mae’n broblem sy’n codi’n rheolaidd ar ffermydd llaeth. Nid yw’r boreau cynnar a’r oriau hir yn plesio pawb, ac nid yw’r haul bob amser yn tywynnu.
Mae’n debyg bod cyfathrebu, cyfrifoldeb a chymhelliant yn ffactorau allweddol, ynghyd â’r cyflog wrth gwrs. Mae ffermydd sy’n cael eu rheoli’n effeithiol yn cynnig cyfle i weithwyr ennill cymwysterau a dealltwriaeth, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb.
Posibiliadau eraill
Roeddwn i eisoes yn gwybod bod opsiynau eraill o fewn y diwydiant ffermio heblaw am fod yn berchen ar eich fferm eich hun, neu gael eich geni i’r fferm deuluol, ond ar ôl bod i’r gynhadledd, cefais agoriad llygad i’r opsiynau eraill yma.
Boed hynny’n rhentu tir i fagu ychydig o heffrod bob blwyddyn ac adeiladu ased, neu brynu gwartheg a’u rhoi ar brydles i eraill. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd… ond mae statws TB yn cyfyngu arnynt.
Rhoddodd dau o’r siaradwyr yn y gynhadledd, sef Mathew Jackson (Cymru) a Will Grayling (Seland Newydd) gyflwyniadau difyr gyda rhagolygon positif iawn ar gyfer y diwydiant llaeth, hyd yn oed yn yr hinsawdd sydd ohoni heddiw. Afraid dweud fy mod wedi dychwelyd o’r gynhadledd yn llawn brwdfrydedd a hyder bod modd i rywbeth mawr dyfu o hedyn bychan.
Mae cyfleoedd ar gael ar gyfer unigolion uchelgeisiol. Os oes gennych freuddwydion, ewch ati i’w gwireddu, peidiwch â disgwyl i’r cyfleoedd ddod atoch chi.
Bydd fy mlog nesaf yn ystyried y rhinweddau y dylid chwilio amdanynt mewn brîd er mwyn sicrhau gwartheg iach, cynhyrchiol a hirhoedlog.
Blog #3 - 14/01/2017
Gwneud y Defnydd Gorau o Laswellt yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf
Ar ôl ymweld â’r Iwerddon, mae’n amlwg mai nhw yw’r gorau am fonitro a defnyddio glaswellt yn y diwydiant.
Yn dilyn fy ymweliad â’r Iwerddon ym mis Ionawr, rwyf wedi cychwyn gwneud y defnydd gorau o laswellt a thyfiant ar fferm Sychpant ar y caeau pori. Rydym wedi prynu mesurydd plat ac rydym wedi tanysgrifio i Agrinet er mwyn cynorthwyo gyda chyllidebu glaswellt ar gyfer yr wythnos sydd i ddod.
Mae’r glaswellt yn cael ei fesur gan ddefnyddio mesurydd plat bob wythnos yn ystod yr haf er mwyn monitro twf glaswellt, ac mae’r canlyniadau’n cael eu mewnbynnu i system agrinet ac yn creu graff i ddangos gorchudd y fferm a’r cydbwysedd glaswellt ar gyfer y fuches.
Yn yr enghraifft isod, gallwn weld gwarged o -2100kgDM yn y glaswellt. Roedd hwn wedi bod yn ddarlun nodweddiadol ar gyfer y mis blaenorol, ond trwy fesur glaswellt a defnyddio agrinet, rydym wedi gallu cynllunio ar ei gyfer ac wedi rhoi porthiant ychwanegol i’r gwartheg er mwyn llenwi’r bwlch. Pe byddem wedi methu â chynllunio, byddem wedi cynllunio i fethu!!
Gellir defnyddio hwn hefyd i amlygu’r padogau hynny sy’n tan berfformio a lle bod angen samplo’r pridd ac ailhadu.
Me’r gwnawyn hwn wedi bod yn heriol gydag ychydig iawn o law, ond mae pob blwyddyn yn wahanol ac mae angen i ni fod mewn sefyllfa i addasu.
Blog #4 – 15/01/2017
Polisïau Bridio
Cyflwyno’r broses o fridio croes er mwyn cynyddu bywiogrwydd y croesiad, a fydd, gobeithio yn cynyddu hirhoedledd a ffrwythlondeb yn y fuches.
Dewis teirw ar gyfer solidau llaeth. Mae ein lleoliad yn cynnig ei hun i ddarparu prynwr llaeth gyda chontract caws, felly wrth ddethol ar gyfer y nodweddion brîd yma, rydym yn cynhyrchu ar gyfer ein contract.
Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Dyma rai o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol a fydd yn gwella effeithlonrwydd:
- Mynegai bridio economaidd a goroesiad yn y fuches;
- Cynnyrch fesul buwch a fesul ha;
- Cost llaeth fesul litr ar gyfnod dreigl o 12 mis.
Cadw cofnodion gwybodaeth
Yn dilyn fy ymweliad â’r Iwerddon, mae’n amlwg bod angen gwella systemau cadw cofnodion a monitro’r fuches er mwyn cynnal perfformiad y fuches. Ar hyn o bryd, mae’r fferm yn defnyddio Uniform fel rhaglen rheoli’r fuches, sy’n gweithio gyda chyfrifiadur y parlwr i gysylltu’r wybodaeth am gynnyrch llaeth. Mae symud yn fwy tuag at floc lloea yn yr hydref o system loea trwy’r flwyddyn wedi ein cynorthwyo i amlygu gwartheg sy’n achosi problemau ac nad ydynt yn addas ar gyfer y system. Gyda digon o anifeiliaid cyfnewid, dylem fod yn gallu tynnu’r gwartheg yma allan gan wella geneteg y fuches, os bydd TB yn caniatáu wrth gwrs!!
Ein fferm
Er bod hinsawdd yr Iwerddon yn debyg i hinsawdd gorllewin Cymru, mae’n rhaid i chi gofio ffermio’r fferm sydd gennych. O ganlyniad i fod yn agored i wyntoedd gogleddol ar yr ardal bori, rydym yn cael trafferth tyfu glaswellt cynnar ac rydym fel arfer yn troi anifeiliaid allan ar ddechrau i ganol mis Ebrill. Trwy symud at loia yn yr Hydref, rydym yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael ac yna gallwn droi’r gwartheg allan pan fyddant yn gyflo yn y gwanwyn.
Ar fferm Sychpant rydym yn anelu at gael 250 o wartheg, a gyda chyfradd gyfnewid o 20%, mae angen 50 o heffrod i ddod i mewn i’r fuches yn flynyddol. Rydym yn anelu at ddefnyddio ffrwythloni artiffisial gyda tharw llaeth (wedi’i ddethol o ganlyniad i’r eneteg EBI uchel) ar gyfer y 100-125 buwch gyntaf. Ar gyfartaled, dylai fod gennym ddigon o anifeiliaid cyfnewid yn dod trwy’r fuches wedyn er mwyn bridio popeth arall yn wartheg bîff a fydd yn dod ag incwm uwch fesul llo (gan ddibynnu ar statws TB), gan leihau llafur.
Trwy symud at system lloea mewn bloc, rydym yn gobeithio symleiddio’r broses reoli, a lleihau unedau llafur i weithio ar y mentrau âr yn ystod misoedd yr haf/gwanwyn.