Lottie Wilson 

Lleoliad: Hwlffordd, Sir Benfro

Cyrchfan: Prifysgol Nottingham, Prifysgol Lerpwl 

Pwnc: Cloffni mewn Gwartheg Llaeth

Lottie Wilson

Mae Lottie yn fyfyriwr amaethyddiaeth blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Nottingham. Ar ôl tyfu i fyny ar fferm laeth 650 erw ei theulu ger Hwlffordd, a thrwy weithio am flwyddyn yn y diwydiant yn ystod ei hastudiaethau sylfaen yng Ngholeg Hartpury, mae ganddi ddigonedd o brofiad ymarferol. Mae gan ei theulu fuches sy’n cynnwys 300 o wartheg Holstein Friesian sy’n lloea drwy gydol y flwyddyn, ac maent yn gweithredu system lled-ddwys sy’n cael ei phori tua chwe mis y flwyddyn.

“Mae iechyd traed gwael yn cyfrannu’n fawr at berfformiad gwartheg a all arwain at leihad mewn ffrwythlondeb, cynnyrch a hirhoedledd. Trwy gysgodi rhai o academyddion mwyaf blaenllaw’r diwydiant yn y maes hwn, rwy’n anelu at ddysgu mwy am faterion, gan gynnwys dermatitis digidol, y defnydd o wrthfiotigau, a thechnegau rheoli i wella cyfraddau cloffni.”

 

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae ffermwr llaeth yn dweud bod ymyrraeth gynnar ar driniaeth cloffni buchod yn hanfodol i broffidioldeb

Mae ffermwr ifanc yn helpu i ysgogi gwelliannau yn iechyd traed buches laeth ei theulu drwy gyfres o brotocolau a hysbyswyd gan ymchwil ei rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.

Mae teulu Lottie Wilson yn godro 320 o wartheg Holstein Friesian ger Hwlffordd.

Mae myfyriwr amaethyddiaeth o Brifysgol Nottingham yn dweud er nad yw cloffni yn broblem fawr yn y fuches ei bod yn awyddus i leihau nifer yr achosion, i wella ffrwythlondeb, cynhyrchiant llaeth, a bod y gwartheg yn byw’n hir, a thrwy hynny leihau’r defnydd o wrthfiotigau a chost cynhyrchu.

Dechreuodd Lottie ar raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, gan ganiatáu iddi dreulio amser gyda’r arbenigwr iechyd traed gwartheg yr Athro George Oikonomou a’i dîm ym Mhrifysgol Lerpwl a’r milfeddyg iechyd traed gwartheg arbenigol Sara Pedersen.

Daeth i wybod am y materion yn ymwneud â chloffni – ac am yr atebion ymarferol i'w atal.

Mae hi bellach wedi cyflwyno rhaglen yn y fuches o olchi traed buchod sych yn rheolaidd ac yn mynd ati i chwilio am ddermatitis digidol a'i drin yn brydlon.

Ar ôl gweld manteision enfawr technegau tocio traed, mae Lottie hefyd wedi cychwyn ar gyrsiau trimio traed a sgorio symudedd.

Mae'n awgrymu bod cofnodi a mesur lefelau cloffni buches a'i achosion yn bwysig ym mhob buches.

“Gall gwybod ystadegau’r fuches eich galluogi i nodi a thargedu meysydd i’w gwella yn gynt a gellir gweld a mesur y canlyniadau, gan obeithio bod amser ac arian yn cael eu defnyddio yn y ffyrdd cywir,” meddai.

Er mwyn gwireddu’r uchelgais hwn, dylai ffermwyr ddefnyddio’r holl adnoddau a phersonél sydd ar gael – o staff fferm a thrimwyr traed i filfeddygon, ymgynghorwyr a ffermwyr eraill, ychwanega Lottie.

“Gall pawb helpu gydag atebion i broblemau cloffni a bydd defnyddio’r tîm cyfan yn helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau i’r gwartheg a’r busnes.”

Mae godro yn gyfle delfrydol i wirio traed.

“Dylai sefyll o fewn chwe modfedd i draed cefn buwch ddwywaith y dydd eich galluogi i nodi llawer o broblemau’n gynnar, yn enwedig dermatitis digidol,’’ meddai Lottie.

“Defnyddiwch hwn er mantais i chi a chymerwch amser i edrych a thrin yn unol â hynny.’’

Mae hi'n rhybuddio rhag anwybyddu iechyd traed mewn buchod sych a heffrod cyflo - mae bath traed a sgorio cloffni yn aml yn cael ei esgeuluso yn y cyfnod sych.

Ac, yn anad dim, mae gweithredu'n gynnar yn hollbwysig, ychwanega.

“Gall cloffni gostio miloedd o bunnoedd i’r busnes yn gyflym iawn, nodwch y meysydd sy’n achosi problemau a buddsoddi’n gynnar.”

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH