Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Ffermwyr Ifanc Eryri


Wedi ei ariannu trwy raglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaeth Cynghori o fewn Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020

Ffermwyr Ifanc Eryri

Yr Alban

21ain - 24ain o Fehefin 2018


1) Cefndir

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Eryri wedi ei sefydlu ers 75 mlynedd ac yn cefnogi pobl ifanc yng nghefn gwlad Gogledd Gwynedd a Dyffryn Conwy. Rydym yn cynnig ystod lawn o weithgareddau ac amrywiol gystadlaethau yn ystod y flwyddyn.  Yn achlysurol, mae’r aelodau yn cael cyfle i ymgymryd teithiau er mwyn dysgu a gweld rhywbeth gwahanol i’r hyn maent yn ei weld bob dydd.

Yn dilyn trafodaeth yn ein pwyllgor gwaith ym mis Medi 2017, rhestrwyd nifer o lefydd y byddai’r aelodau yn awyddus i ymweld. Yn dilyn sgwrs a phleidlais, penderfynwyd trefnu trip i ymweld â ffermydd yn yr Alban yn ogystal â mynychu Sioe’r Ucheldir er mwyn gweld sut Sioe oedd honno o’i chymharu â’r Sioe Frenhinol yma yng Nghymru.

Penderfynwyd ymweld tri busnes fferm sef Wilson Farming, TK & G Robinson a’r Yorkshire Shepherdess. Yn ogystal â hyn, penderfynwyd trefnu cyfarfod gyda swyddogion Ffermwyr Ifanc i fyny yn yr Alban er mwyn cael trafodaeth ynglyn â sut y maen nhw’n rhedeg eu mudiad heb gymorth ariannol gan y byddai hynny o fudd i Ffermwyr Ifanc Eryri yn dilyn torriadau yn ein cyllid.

Prif nodau ac amcanion y daith oedd rhannu Syniadau, gweld cynlluniau newydd, datblygu syniadau a chymdeithasu mewn awyrgylch gwahanol.

2) Amserlen 

2.1 Diwrnod 1 – Dydd Iau’r 21ain o Fehefin – Teithio ac Ymweliadau Fferm 

Bu ychydig o ychwanegiad i’r amserlen ddyddiau cyn y daith a threfnwyd ein bod yn ymweld â’r Holland House Farm Shop a Nurseries yn Walton Le Dale. Yma cawsom sgwrs gan y perchnogion Mr a Mrs Yarwood am y gwaith maen nhw wedi ei wneud yn y pentref bach a chawsom ginio blasus yn eu caffi.

Yn ogystal â rhedeg siop fferm, caffi a phlanhigfa, maent wedi newid hen siediau ysgol ar gyrion y pentref yn Ganolfan Arddio.  Roeddent wedi buddsoddi’n fawr yn y tair fenter. Roedd y caffi yn defnyddio bwyd lleol a’r siop fferm yn gwerthu nwyddau lleol i’r ardal hefyd. Braf oedd gweld nad oedd fawr o filltiroedd ar y nwyddau oedd yn cyrraedd trwy’r drws. Roedd ganddynt hefyd erddi lliwgar ac roeddent yn gwerthu’r blodau.

Ymlaen wedyn i Wilson Farming yn Samelsbury. Dyma beth oedd fferm beiriannau! Mae teulu’r Wilson yn ffermio yno ers y 1970au. Hen Gapel yn unig oedd yna i ddechrau ond prynnodd y teulu’r tir cyfagos gan ddymchwel y capel ac adeiladu ty yn ei le.  Roedd sawl hen adeilad ar ôl yno oedd wedi cael eu hadnewyddu. Yn sicr, roedd y teulu yma yn fwy na pharod i fentro. Roedd un adeilad wedi cael ei adnewyddu i fod yn Adeilad Cynadleddau a Digwyddiadau gyda phopeth angenrheidiol mewn adeilad o’r fath yno. Yn amlwg roedd y busnes ‘contractio’ yn un llwyddiannus dros ben hefyd gan eu bod yn berchen 28 o Forage Harvesters - y nifer mwyaf sy’n berchen i un person yn Ewrop! Adnewyddwyd y fferm ond doedd dim math o anifeiliaid yn cael eu cadw yno mwyach gan eu bod yn canolbwyntio ar yr ochr peiriannau a chnydau. Roedd yn codi 35,000 o aceri o gnydau yn flynyddol gyda ffermydd yn Sir Amwythig, Sir Hertford a Sir Gaerhirfryn ac yn cyflogi 70 o bobl, yn cynnwys ei ddau fab. Roedd hefyd wedi adeiladu siediau ar gyfer sychu gwellt a chnydau yn yr haf ac i sychu ‘wood chip’ yn y gaeaf.

Roeddent wedi bwriadu ymweld â TG & G Robinson ond oherwydd salwch Mr Robinson a’r prysurdeb o ganlyniad i’r tywydd a chodi silwair, ni chawsom weld llawer ar y fferm. Ond bûm yn ddigon ffodus i weld ei sied wartheg slats oedd yn dal ychydig dros 500 o wartheg i’w pesgi.  Roedd yn cadw tua 300 o heffrod yn y sied yma ac ychydig dros 200 o fustych, gyda’r holl wartheg cael eu hanfon wedi’u pesgi i Dunbia ym Mhreston. Roedd y mwyafrif o’r gwartheg yn cael eu prynu i mewn o 7 mis oed ymlaen.

Fyny a ni am Gaerliwelydd wedyn am ein noson gymdeithasol gyntaf.

Yr hyn a ddysgwyd yn ystod y diwrnod cyntaf:

  1. I beidio â bod ofn mentro yn y byd amaethyddol.  Roedd y tri pherchennog a welsom wedi dechrau hefo dim i’w henwau, dim ond cefnogaeth deuluol a’r awydd i fentro.
  2. Nid oes rhaid cael profiad o bob dim i lwyddo. Nid oedd gan y teulu Yarwood brofiad blaenorol o dyfu blodau na rhedeg busnes. Roedd Mr Yarwood yn gweithio i gwmni adeiladu a Mrs Yarwood yn gymhorthydd dosbarth. Daeth cyfle i brynu’r safle ac fe ddatblygodd y pâr syniad am le i dyfu blodau gan adeiladu ar hynny wrth i’r busnes dyfu gan ychwanegu’r Siop Fferm ac yna’r Caffi. Nid oeddent erioed wedi bod yn gyfrifol am gyfrifon chwaith ond roeddent wedi mynychu cyrsiau nos byr i’w cynorthwyo a bellach yn rhedeg yr ochr ariannol i gyd eu hunain heb gymorth cyfrifydd. Dysgodd yr aelodau nad ydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd.
  3. Pa mor bwysig yw trin pobl yn gywir a chyfeillgar. Cafwyd croeso cynnes yn y tri lleoliad a phob un ohonynt yn amlwg yn gwybod sut i ymdrin â phobl a gwerthu eu busnes i bobl eraill.
  4. I beidio â bod ofn gwneud newidiadau o fewn y busnes. Roedd Mr Wilson wedi pendroni am flynyddoedd os oedd am gael gwared a’r stoc a chanolbwyntio ar ochr gnydau’r busnes yn unig. Yn amlwg roedd hyn wedi gwneud gwahaniaeth iddo a’r incwm yn dod i mewn i’r fferm.
  5. I sicrhau fod defnydd i offer/siedau y fferm drwy’r flwyddyn yn hytrach nag yn achlysurol. Roedd Wilson Farming wedi buddsoddi mewn 5 sied oedd yn sychu cnydau a gwellt yn ystod yr haf. Roedd y gwellt yma yn cael ei becynnu a’i werthu i siopau anifeiliaid fel ‘bedding’ ar gyfer anifeiliaid bach. Roedd Mr Wilson ond yn medru gwneud hyn yn ystod yr haf ac yn ceisio cael gymaint ag y medr allan o bob cnwd er mwyn cyflenwi’r siopau bach yma trwy’r flwyddyn.  Roedd wedi buddsoddi dros 2 filiwn yn y siediau yma ac, fel y dywedodd, nid oedd yn medru fforddio iddynt fod yn wag am hanner y flwyddyn. Felly, am weddill y flwyddyn roedd yn sychu ‘wood chip’ ar gyfer bio mass. O wneud hyn, bydd y siediau wedi talu amdanynt eu hunain o fewn 5 mlynedd. Roedd yn rhagweld y byddai’n medru sychu wood chip drwy’r flwyddyn ac roedd wrthi’n ystyried cael sied ychwanegol i wneud hyn drwy’r flwyddyn.
  6. Mae bob amser lle i wella ac adeiladu ar bethau.
  7. I beidio â bod ofn gwneud camgymeriadau o fewn busnes. Fel y dywedodd Mr Wilson ‘You’ve got to spend money to make money’.
  8. Bod system cadw gwartheg ar slatiau yn rhywbeth sy’n ofynnol gan y tai lladd gan fod hyn yn cadw’r gwartheg yn lanach na defnyddio gwellt neu unrhyw ddeunydd arall.  Roedd hon yn system hollol newydd a gwahanol ac nid oedd yr aelodau wedi gweld system o’r fath o’r blaen. Roedd maint a graddfa’r sied yn anferthol. Er ei fod wedi buddsoddi’n fawr yn y sied, nid oedd ganddynt gostau o’r ‘bedding’ yn ystod y gaeaf ac o ganlyniad i’r tywydd dros y blynyddoedd diwethaf a phrinder gwellt ayb, roedd hyn wedi bod yn fuddsoddiad buddiol iawn iddynt.
  9. Bod angen bod yn drefnus. Mae cadw trefn ar eich busnes yn hanfodol bwysig i’w lwyddiant.
  10. Ei bod hi’n bwysig cefnogi busnesau lleol. Os ydych chi’n disgwyl cefnogaeth gan bobl leol, mae’n rhaid i chi roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. 

2.2 Diwrnod 2 a 3 – 22ain a'r 23ain o Fehefin – Sioe'r Ucheldir

Cyrhaeddom y sioe amser cinio ddydd Gwener a chafodd pawb gyfle i grwydro’r sioe cyn cyfarfod â swyddogion CFfI Cothnais. Wedi hynny, aethom o amgylch gweddill y sioe cyn cyfarfod i fynd i’r gwesty.

Yr hyn a ddysgwyd yn ystod yr ail ddiwrnod:

 

  1. Bod Sioe’r Ucheldir yn llai na Sioe Frenhinol Cymru. Er hyn, mae pethau y byddai CAFC yn medru eu dysgu oddi wrth Sioe’r Ucheldir a hefyd byddai Sioe’r Ucheldir yn medru dysgu llawer gan CAFC.
  2. Bod y ddarpariaeth ar gyfer yr anifeiliaid yn anhygoel, yn enwedig y gwartheg.
  3. Y flaenoriaeth oedd ‘gwerthu’r’ Alban. Roedd y Neuadd Fwyd yn uchafbwynt i’r aelodau a’r ffordd yr oedd wedi ei gosod allan fel ei bod hi’n amhosib methu rhywbeth. Dangosodd hyn pa mor bwysig oedd marchnata.  Roedd yna giwiau i mewn i’r Neuadd Fwyd ac o’i hamgylch. Roedd yna hefyd arddangosfeydd coginio yn defnyddio nwyddau o’r stondinau yn y Neuadd ac roedd hyn yn rhoi hwb enfawr i’r cwmnïau dan sylw.
  4. Pa mor bwysig yw perthynas ffermwyr ac amaethyddiaeth gyda’r archfarchnadoedd. Roedd gan bob un archfarchnad fawr stondin a rhain yn arddangos cynnyrch o’r Alban. Roeddent hefyd yn cynnal arddangosfeydd bwyd trwy’r dydd.
  5. Bod Mudiad Ffermwyr Ifanc yr Alban yn gweithredu yn hollol wahanol i’r Mudiad yng Nghymru. Dim ond ar lefel cenedlaethol yr oedd gweithwyr llawn amser a doedd neb yn gweithio o fewn ardaloedd. Roedd hyn i gyd yn cael ei wneud yn wirfoddol ond roedd yr aelodau’n dda iawn am ddenu noddwyr mawr i’r CFfI, yn ganolog ac yn eu hardaloedd. Roedd costau yn llawer iawn is na fyddai i ni gan mai gwirfoddolwyr oedd yn gwneud y gwaith i gyd ond dywedodd Gemma Duguid, Cadeirydd CFfI ardal Cothnais, ei bod hi’n anodd iawn jyglo’r gwaith gan fod ganddi swydd gyflogedig llawn amser hefyd.
  6. Bod modd bod yn aelod o Ffermwyr Ifanc yr Alban hyd nes eich bod yn 30 oed.  Roedd hyn yn destun siarad mawr ymhlith yr aelodau. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y byddai’n well ganddynt petai oedran CFfI Eryri a Chymru yn mynd o 15 oed i 30 oed yn hytrach nac o 10 i 26 oed.
  7. Bod y Ffermwyr Ifanc rhanbarthol yn yr Alban yn hunangynhaliol (dim cefnogaeth gan eu cynghorau ayb). Fodd bynnag, mae CFfI’r Alban yn cael llawer iawn o arian gan Lywodraeth yr Alban i’w cefnogi ond roedd hwn yn prysur leihau bob blwyddyn yn ogystal â’r gefnogaeth.

Mynychwyd Sioe’r Ucheldir am yr ail ddiwrnod ar y dydd Sadwrn ac roedd pawb yn rhydd i wneud beth oeddynt eisiau.

Yr hyn a ddysgwyd ar y trydydd diwrnod:

Gan nad oeddem wedi ymweld ag unrhyw le penodol, ni ddysgwyd unrhyw beth penodol ar y trydydd diwrnod. Un peth wnaeth rhai o’r aelodau bwyntio allan oedd bod diogelwch yn CAFC yn llawer iawn gwell nac yn Sioe’r Ucheldir. Roeddem yn gorfod croesi ffordd brysur iawn i fynd i’r maes awyr a’r ddawns gyda’r nos heb fawr o olau nac arwyddion ble i fynd.

 

 

2.3 Diwrnod 4 – Dydd Sul y 24ain o Fehefin – Teithio adref a’r Yorkshire Shepherdess

Teithio adref ar y diwrnod olaf gan stopio yn Swydd Efrog i ymweld â’r Yorkshire Shepherdess. Wedi tipyn o gerdded, cyrhaeddwyd y Fferm Ravenseat i groeso Amanda Owen.

Roedd yn andros o brysur ar y fferm oherwydd y tywydd braf. Maen nhw wedi trawsnewid un o’r hen feudai gan gynnig arhosfa a lle i wneud paned i bobl sy’n cerdded heibio’r fferm.

Cawsom baned a chacen a sgwrs sydyn gyda hi ynglyn â magu teulu o 9 ar fferm weddol fechan yn yr Yorkshire Dales. Roedd Amanda yn annog diddordeb yr holl blant yn y fferm gyda phob un â swydd ddyddiol. Ni wyddai a fyddai un o’r plant eisiau ffermio ond roedd am eu hannog i wneud beth bynnag fyddai’n eu gwneud yn hapus. Nid oedd y fferm yn ddigon i gynnal y teulu ar ben ei hun felly roedd ei gwr yn gweithio’n llawn amser yn Leeds a hithau yn gwneud popeth o fewn ei gallu y tu allan i’r fferm.  Fel cyn fodel, roedd yn gwneud llawer o waith siarad cyhoeddus yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau. Roedd y bywyd yma yn ei chadw hi a’i theulu yn hapus. Er weithiau, fel y tywydd eleni, roedd pethau’n profi ei hamynedd i’r eithaf i barhau ar y fferm.

Yr hyn a ddysgwyd ar y pedwerydd diwrnod:

  1. Bod modd arallgyfeirio yn y llefydd mwyaf anghysbell heb wario gormod o arian.
  2. Bod enw da busnes a pherson yn medru mynd â chi’n bell busnes a bywyd.
  3. Pwysigrwydd addysgu pobl o ble mae eu bwyd yn dod, yn enwedig pobl o fewn ein trefi a dinasoedd mawr.
  4. Bod angen annog plant ifanc i ennyn diddordeb yn y byd amaethyddol.
  5. Bod trin defaid yn bwysig a bod angen cael gwared y rhai gwan a chloff. Mae afiechydon cloffni yn medru lledaenu o un ddafad i’r llall yn ogystal â chrynhoi yn y tir. Er mwyn cael diadell gryf, mae’n bwysig edrych ar ôl y defaid cryf a’u hiechyd.
  6. Bod lle i ferched o fewn amaethyddiaeth. Ychydig iawn o ddiddordeb sydd gan ŵr Amanda yn y fferm ond mae’n cynorthwyo ar adegau prysur. Amanda a’r plant sydd yn gwneud y mwyafrif o’r gwaith a’r penderfyniadau.
  7. Pwysigrwydd cneifio defaid ar y tiroedd uchel a pharhau gyda’r traddodiad yma. Mae hefyd yn bwysig eu pori yn gywir ar gyfer yr amgylchedd, yr adar a phryfaid ac er mwyn egino bywyd gwyllt, yn enwedig blodau a thyfiant. 

3) Camau Nesaf

Byddwn yn cael cyfarfod yn ystod mis Awst i ddechrau ar drefniadau taith 2019. Cafwyd un cyfarfod yn syth ar ôl dychwelyd o’r daith ac roedd yr aelodau’n awyddus i lunio rhestr o’r hyn a ddysgwyd ar hyn a allant wneud ar gyfer eu dyfodol. Roedd y drafodaeth hefyd yn cynnwys mynd yn ôl i Sioe’r Ucheldir neu i fynychu Pencampwriaeth Cneifio’r Byd yn Ffrainc a chael mynd i weld gwlad wahanol yn ffermio.

Yn ystod y cyfarfod ym mis Awst byddwn yn creu cynllun a chrynodeb gan obeithio y bydd pawb yn cyfrannu ac yn nodi un syniad a ddysgwyd a fyddant yn gweithredu ar eu ffermydd adref. Mae nifer ohonom ar bwyllgorau Sirol y CAFC ac yn gobeithio y cawn gyfle i adrodd yn ôl ar Sioe’r Ucheldir, yr ymweliadau a’r fân bethau a fyddai’n medru cynorthwyo’r gymdeithas i symud pethau bychan yn eu blaen.

Mae pob aelod a ddaeth ar y daith wedi dysgu rhywbeth newydd a fydd o fudd i’w busnesau adref. Gan fod y rhan fwyaf o’r aelodau yn rhan o fusnesau gyda’u rhieni, y tueddiad yw mai’r rhieni sy’n gwneud y mwyafrif o’r penderfyniadau o fewn y busnes. Bydd gan yr aelodau waith darbwyllo a chyflwyno’r syniadau newydd i’w rhieni.

Y peth pwysicaf y medr yr holl aelodau ei wneud yw rhoi eu cynlluniau i lawr ar bapur a cheisio cyflwyno tystiolaeth o ran sut y gallant wella eu busnesau a beth fyddai’n medru helpu. Bydd angen iddynt baratoi manylion trylwyr o’r holl elfennau wrth wneud hyn yn ogystal ag edrych yn ôl ar y wybodaeth a gawsom ar ein teithiau. Efallai bod eisiau i ni fod yn fwy mentrus gyda’r hyn y medrwn ni ei wneud gyda’n tiroedd. Roedd Mr Wilson yn tyfu pob math o gnydau ar bob math o diroedd ar draws Gogledd Lloegr.

Pwyntiau gweithredu:

  1. Cyfarfod eto.
  2. Manylu ar un peth y medr pawb weithredu adref e.e. edrych ar les y ddiadell a chael gwared y defaid gwanaf.
  3. Ymchwilio posibiliadau arallgyfeirio, boed yn gynllun mawr neu’n gynllun bach i ddechrau.
  4. Cael anogaeth gan eu teuluoedd i fod yn rhan fwy blaenllaw o ran gwneud penderfyniadau o fewn y busnes teuluol.
  5. Cael taith cystal flwyddyn nesaf.