Pam y byddai Caroline yn fentor effeithiol
-
Ar ôl rhedeg nifer o fusnesau gwledig llwyddiannus yn cynnwys bwyd, llety, gweithgareddau awyr agored, a’i hymgynghoriaeth wledig ei hun - oedd yn cynnwys ymdrin â’i chyllid ei hun, datblygiad personol ac adnoddau staffio, mae Caroline yn deall pwysigrwydd bod â disgwyliadau realistig ac mae ganddi brofiad personol sylweddol o’r hyn y mae’n ei gymryd i sefydlu a rheoli menter arallgyfeirio lwyddiannus ar fferm.
-
Mae agwedd flaengar sy’n canolbwyntio ar atebion Caroline yn cefnogi busnesau newydd a rhai amlwg sydd wedi hen sefydlu. Yn rhinwedd ei gwaith fel mentor i chi bydd yn eich annog i sefydlu systemau fydd yn eich galluogi i gyflawni deilliannau tymor hir ac uchel eu gwerth, a bydd am eich helpu i gyflawni eich nodau personol a busnes.
-
Mae’n gyfathrebwr a gwrandäwr rhagorol, mae hi’r un mor gartrefol yn eistedd wrth fwrdd y gegin ar y fferm, yn siarad ar y ffôn neu ar-lein, neu yn cerdded y fferm ar ymweliad.
-
Mae ganddi sgiliau TGCh rhagorol a gan ei bod yn hunangyflogedig mae’n gallu bod yn hyblyg gyda’i horiau gwaith a’i gallu i deithio trwy Gymru.
-
Bu’n bennaeth bwyd-amaeth i un o ymgynghoriaethau amaeth amlycaf y Deyrnas Unedig ac mae Caroline yn angerddol am farchnata, felly dewiswch hi yn fentor i chi ac yn fuan iawn byddwch yn cael eich cludo ar don ei brwdfrydedd a gwybodaeth am yr elfen holl bwysig hon o hyrwyddo eich busnes fferm neu fenter arallgyfeirio.
Busnes presennol
- Mae Caroline yn ymgynghorydd bwyd-amaeth arbenigol sydd wedi sefydlu a rhedeg ei Hymgynghoriaeth Bwyd-Amaeth lwyddiannus ei hun ers 2018
Cymwysterau/llwyddiannau/profiad
- BSc Anrhydedd mewn Gwyddor Amgylcheddol (Prifysgol Glyndŵr)
- Tystysgrif Ôl raddedig mewn Arwain Newid (Prifysgol Aberystwyth)
- Aelod Proffesiynol o’r Sefydliad Rheolaeth Amaethyddol
- Mentor Byd-eang yn y gorffennol ar gyfer Menywod mewn Bwyd ac Amaeth
- Her Arweinyddiaeth Wledig y Worshipful Company of Farmers, Duchy College
- Enillydd Gwobr Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog i Fusnesau Gwledig Newydd
- Ffermwr Ifanc y Flwyddyn yn y gorffennol
Awgrymiadau da am lwyddiant mewn busnes
“Gwnewch eich ymchwil marchnad, cadwch olwg ar y rhai sy’n cystadlu â chi, penderfynwch pwy fydd eich cwsmeriaid a’r ffordd orau i’w cyrraedd.”
“Arhoswch yn uchelgeisiol a chanolbwyntio. Gwnewch yn siŵr bod eich strategaeth fusnes yn gadarn a’ch disgwyliadau ariannol yn realistig.”
“Gofalwch eich bod yn aros yn chi eich hun – dyna eich ‘nodwedd werthu unigryw’ – cadwch at eich cryfderau yn hytrach na cheisio gwerthu rhywbeth nad ydych yn wirioneddol angerddol neu wybodus amdano.”