Pam byddai Cheryl yn fentor effeithiol

  • Mae’r Biocemegydd, Cheryl, yn pesgi gwartheg bîff gyda’i gŵr ger Bangor Is-coed. Mae gan Cheryl sgiliau rheoli amser ardderchog ac mae’n cydbwyso’r gwaith o helpu â’r gweithgareddau ffermio o ddydd i ddydd ochr yn ochr â’i gyrfa ran amser oddi ar y fferm. Ymysg ei chyfrifoldebau y mae rhedeg y fferm o ddydd i ddydd; cynnal safonau lles yr anifeiliaid; archwiliadau’r fferm, monitro maeth, yn ogystal â’r tasgau gweinyddol. 
  • Sefydlwyd system awtomatig i fagu lloi ym mis Mehefin 2019. Mae’r system hon yn gallu magu hyd at 120 o loi ar unwaith ac mae wedi gwella llif arian a phroffidioldeb y busnes, ac mae hefyd yn golygu llai o waith â llaw a llafur.  Defnyddir meddalwedd EID i gadw golwg ar berfformiad y gwartheg. 
  • Mae Cheryl yn teimlo’n gryf bod angen addysgu plant a’r cyhoedd am y diwydiant amaethyddiaeth, ac mae wedi gweithio gyda nifer o fudiadau gwirfoddol megis Cows on Tour, LEAF Education, Country Trust a Facetime a Farmer ac mae wedi sefydlu ei blog WordPress ei hun i addysgu pobl drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Mae Cheryl yn hyddysg mewn rhagoriaeth weithredol, iechyd a diogelwch, asesiadau COSHH, archwiliadau fferm a chynlluniau busnes. 
  • Mae Cheryl yn awyddus i rannu ei gwybodaeth a’i phrofiad i helpu pobl eraill yn y diwydiant amaethyddol i fwrw eu busnesau ymlaen. 

Busnes fferm presennol 

  • Yn berchen ar 30 erw, yn rhentu 112 erw
  • 200 o wartheg bîff
  • Yn magu 400 o loi bob blwyddyn 

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • 2006: BSc mewn Biocemeg, Prifysgol Lerpwl
  • 2017: Amrywiol gyrsiau hyfforddiant gan gynnwys Rheoli eich Llif Arian, Cynllunio a Datblygu Busnes a Chofnodion TAW Ariannol, Lantra
  • 2017: Aelod o’r Cynllun Tractor Coch 
  • 2017: Enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn, Lantra
  • 2019: Enillydd Gwobr Arloeswr Fferm, Lantra

 

Awgrymiadau ar sut i lwyddo mewn busnes:

1) Buddsoddwch mewn gwybodaeth a pheidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau ni waeth pa mor fychan rydych chi’n meddwl ydynt, bydd hyn yn rhoi’r budd gorau i’ch busnes.

2) Os nad oes rhywbeth yn gweithio newidiwch ef, peidiwch â brwydro ymlaen yn yr un hen  ffordd.

3) Byddwch yn barod i dderbyn syniadau newydd, wyddoch chi ddim - fe allent newid pethau er gwell.