Pam y byddai Rachel yn fentor effeithiol

  • Mae Rachel yn ymroddedig i wella ein hamgylchedd a hyrwyddo busnes a thwf economaidd. Mae ei chefndir mewn cynaliadwyedd, cynlluniau argyfwng fferm a rheoli risg yn rhoi sgiliau allweddol iddi eu trosglwyddo i unrhyw un a hoffai gael cymorth yn y maes hwn.
  • Mae gan Rachel ei mentrau busnes ei hun ac mae hi hefyd yn hyfforddwr rhan amser yn y busnes teuluol – cwmni hyfforddi ac asesu hirsefydlog yn seiliedig ar dir sy’n darparu cyrsiau wedi’u haddasu ar ystod eang o bynciau. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli da byw, trin offer a pheiriannau sy’n gysylltiedig ag amaeth, a rheolaeth amgylcheddol ac ansawdd. Mae hi hefyd yn rheolwr contractau ar gyfer cwmni contractio coedwigaeth a phriffyrdd ei gŵr.
  • Mae Rachel yn byw ar fferm cig eidion a defaid y teulu, yn ogystal â rheoli dwy o’i mentrau ei hun, magu lloeau a chadw gwenyn. Mae hi hefyd yn delio â’r holl farchnata, y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer maes carafanau a gwersylla’r teulu.
  • Yn hyfforddwr cymwysedig, mae Rachel, dros y deng mlynedd diwethaf, wedi darparu cyrsiau hyfforddi iechyd a diogelwch yn ymwneud â ffermydd a phlaladdwyr Lantra. Mae ganddi lawer o gymwysterau yn amrywio o Iechyd a Diogelwch a Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH i ymdriniaeth delesgopig, ac o gynllunio busnes i reoli prosiectau. Mae hi hefyd yn arolygydd coed cymwys. 
  • Mae llawer o’r hyfforddiant sy’n cael ei gyflwyno gan Rachel, ei gŵr a’i thad-yng-nghyfraith, yn cael ei gyflwyno gan ffermwyr i ddysgwyr sydd angen cydymffurfio â deddfwriaeth, ond mae hefyd yn golygu y byddant yn gwybod sut i weithredu mor ddiogel ac effeithlon â phosibl.
  • Mae Rachel yn helpu i redeg holl agweddau rheolaeth ac ariannol y busnes sydd, yn ogystal â hyfforddiant, yn cynnwys cynnal a chadw amgylcheddol, contractio amaethyddol, coedyddiaeth a chontractio sifil. Mae ei rôl hi’n cynnwys marchnata, tendro, arolygon safle, pecynnau Iechyd a Diogelwch, archwilio dogfennau contract, cyfrifon, trefnu a rheoli contractau.
  • Mae Rachel, sy’n fam i bedwar, yn angerddol am gynnig cymorth eraill i ddysgu ac yn aml mae hi’n gweld bod ei hyfforddedigion yn gwerthfawrogi’r cyfle i drafod materion y maent yn eu cael yn heriol. Mae ei phrofiad ei hun o fod yn wraig ac yn fam brysur, yn rhedeg ei dwy fenter ei hun ac yn gweithio fel hyfforddwr rhan amser wedi rhoi cyfoeth o brofiad iddi y mae hi’n hapus i’w rannu.

Busnes fferm bresennol

  • Magu lloeau
  • Maes gwersylla/carafanio bach
  • 5 cwch gwenyn, gan obeithio cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • BSc (Anrh) Amaethyddiaeth gyda Rheolaeth Cefn Gwlad, Prifysgol Aberystwyth
  • Mae gan Rachel nifer o gymwysterau hyfforddiant busnes gan sefydliadau achrededig gan gynnwys Lantra, NEBOSH, IOSH, City & Guilds NPTC, Agored Cymru, BSI ayyb
  • Arolygydd coed proffesiynol cymwys
  • 20 mlynedd a mwy o brofiad mewn rheoli contractau ar gyfer Iechyd a Diogelwch, a Rheolaeth Amgylcheddol ac Ansawdd
  • Partner a hyfforddwr yng nghwmni hyfforddi ac asesu’r teulu sy’n seiliedig ar dir.

 

Awgrymiadau ar gyfer cynnal busnes llwyddiannus

“Camwch yn ôl o’ch arferion o ddydd i ddydd, gwnewch yr amser a’r ymdrech i siarad a gwrando. Mae bob amser yn gymorth i ddysgu sut mae eraill yn ymdopi ag unrhyw heriau y gallwch fod yn eu hwynebu.”

“Gweithiwch yn galed, byddwch yn drylwyr, darllenwch y manyldeb!”