Defnyddio technoleg ‘Rhyngrwyd y Pethau’ (IoT) i wella dulliau rheoli slyri ar ffermydd.

Nod y prosiect yw ceisio deall yn well pa ran sydd i dechnoleg IoT mewn ymdrechion i fod yn fwy effeithlon wrth daenu slyri. Mae cyflwr y pridd, y lefel trwythiad, lefelau glawiad a thymheredd yr aer oll yn dylanwadu ar ba mor debygol y mae dŵr o lifo oddi ar gaeau. Pan mae hyn yn digwydd ar ôl taenu slyri gall wastraffu ffynhonnell faeth werthfawr ac mae’n berygl o lygru cyrsiau dŵr naturiol. 

Bydd y prosiect hwn yn profi amrywiol synwyryddion yng Ngholeg Glynllifon ac ar ddwy fferm laeth arall yng ngogledd-orllewin Cymru, Hen Dŷ yng Nghaernarfon ac Erw Fawr ger Caergybi. Gobaith y ffermwyr yw, drwy fod ganddynt wybodaeth amser real am gyflwr y tir, y gallant wneud penderfyniad yn gyflym a diogel ynglŷn â rheoli slyri.

Caiff gwahanol synwyryddion IoT eu lleoli ar y tair fferm:

  1. Synwyryddion lefel trwythiad – Bydd y prosiect yn ceisio gweld a yw monitro’r lefel trwythiad yn fanwl yn rhoi i ffermwyr wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â phryd mae’n briodol taenu slyri ar gae.   
  2. Synwyryddion lleithder pridd – Bydd y prosiect yn profi ansawdd y data a gynhyrchir yn erbyn nifer y synwyryddion ym mhob cae a phatrwm eu lleoliad.    
  3. Mesuryddion Glaw – Bydd gosod synwyryddion mesur glaw yn galluogi ffermwyr i fonitro glawiad yr ardal. Bydd hwn yn un o’r ffactorau wrth wneud y penderfyniad ynglŷn ag yw’r amodau’n iawn i daenu slyri.
  4. Synhwyrydd Lefel y Storfa Slyri – Rhaid i ddulliau rheoli slyri effeithiol gynnwys sicrhau bod digon o le i’w storio’n ddiogel ar y fferm. Bydd hyn yn rhoi i ffermwr wybodaeth fanwl am y capasiti storio ar y fferm.  Gellid casglu’r data mor ag aml ag sy’n synhwyrol.  Gallai cofnod dyddiol er enghraifft roi gwybodaeth ddefnyddiol am faint o slyri a gynhyrchir ar fferm a datgelu ffyrdd newydd o reoli slyri yn fwy effeithlon. 

Bydd y wybodaeth a geir o’r gwahanol synwyryddion yn bwydo i ap a fydd yn dangos map o’r caeau fel dangosfwrdd, gan ddangos y caeau sy’n addas/ anaddas i daenu slyri arnynt. Bydd y prosiect hefyd yn gwerthuso’r cyfle i IoT gael ei ddefnyddio i wneud hunanarchwiliadau, drwy gofnodi amodau amgylcheddol a rhagolygon y tywydd ar gyfer ffermydd fel tystiolaeth bod slyri yn cael ei daenu mewn amodau addas bob amser. Y prosiect hwn fydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd y grŵp yn gwerthuso’r fethodoleg o ddefnyddio technoleg IoT at ddefnydd amaethyddol penodol megis rheoli slyri er mwyn canfod arferion da y gallai ymdrechion eraill i ddefnyddio IoT mewn ffermio eu mabwysiadu.