Gwella iechyd y pwrs/cadair i’r eithaf er mwyn gwella perfformiad y fuches drwy brofion deinamig
Math o astudiaeth amser a symud yw profion deinamig ar yr offer godro, lle mae pob elfen o'r broses odro (o'r offer godro, i'r drefn odro ac unrhyw effaith ar dethi'r fuwch) yn cael ei hystyried.
Mae pedwar ffermwr llaeth yn Sir Gaerfyrddin sydd â buches o 260 o wartheg ar gyfartaledd yn cymryd rhan yn y prosiect hwn i ganfod a all profion deinamig wella iechyd y pwrs/cadair o ran lleihau cyfrifiadau celloedd somatig, mastitis clinigol a lefelau bactoscan.
Y gwahaniaeth rhwng profion deinamig a’r gwaith cynnal arferol sy’n cael ei wneud gan y gweithgynhyrchwyr neu’r ffermwyr yw eu bod yn profi'r parlwr pan fo hwnnw o dan straen, ac nad yw'r llall yn gwneud hynny. Mae hefyd yn cynnwys materion mecanyddol a materion hwsmonaeth ac mae'r rhain i gyd yn cyfrannu at wella iechyd y pwrs/cadair.
Cynllun y prosiect
Bydd y profion deinamig yn cael eu cynnal gan filfeddyg y fferm bob deufis ar bob fferm am flwyddyn, ochr yn ochr â'r samplau llaeth a sgoriau’r tethi. Bydd canlyniadau'r profion yn cael eu dadansoddi ac wedyn bydd modd defnyddio amryw o ymyriadau ar y fferm i gywiro unrhyw broblemau, gan ddibynnu ar yr hyn a welir. Mae'r diagram isod yn cynnwys ychydig o enghreifftiau o'r canfyddiadau cyffredin sy’n codi mewn profion deinamig ac enghreifftiau o atebion posibl.
Bydd y prosiect hwn yn ystyried a oes modd gwneud gwelliannau i iechyd y pwrs/cadair o ganlyniad i'r newidiadau a fydd yn cael eu gwneud drwy brofion deinamig. Fe allai'r newidiadau ddod â manteision ehangach hefyd, gan gynnwys defnyddio llai ar foddion gwrthfiotig a gwella effeithlonrwydd y gwaith godro.