Systemau porthiant amgen ar gyfer tir ymylol

Arweiniodd dwysau arferion ffermio at ddirywiad yn y borfa barhaol llawn rhywogaethau gan adael caeau o rygwellt yn bennaf gyda meillion gwyn yn achlysurol. Roedd gwndwn llawn rhywogaethau yn gyffredin ers talwm ar draws y Deyrnas Unedig ac yn cynnal amaethyddiaeth fugeiliol, pridd iach, a phlanhigion ac anifeiliaid amrywiol.

Mae diddordeb cynyddol gan lawer o ffermwyr stoc i ddychwelyd at ddefnyddio gwndwn aml-rywogaeth gyda’r nod o gynhyrchu porthiant llawn maetholion gyda llai o fewnbwn.

Roedd y prosiect EIP yng Nghymru hwn yn gweithio gyda thair fferm ucheldir yng Nghymoedd De Cymru oedd â diddordeb yn yr hyn y gall gwndwn aml-rywogaeth ei ddwyn i’w systemau ffermio ond roeddent yn ansicr sut y byddent yn cyflawni ar eu ffermydd ucheldir, ymylol. Yn 2018 sefydlodd y tair fferm blotiau o wndwn aml-rywogaeth a rhygwellt confensiynol gyda gwndwn meillion gwyn. Roedd pob plot tua 3 hectar. Cadwyd llygad fanwl ar y cnwd yn ymsefydlu ac yna asesu’r cynhyrchiant dros dri thymor.

 

Deilliannau’r prosiect

  • Fe wnaeth y gwndwn aml-rywogaeth berfformio cystal â’r gwndwn rhygwellt gyda meillion gwyn mewn amrywiol sefyllfaoedd a dan drefniadau rheoli gwahanol
  • Roedd y stoc yn perfformio yr un mor dda ar y ddau wndwn yn y prosiect hwn 
  • Fe wnaeth cyfansoddiad y gwndwn aml-rywogaeth newid dros amser ar bob fferm oherwydd yr amrywiadau o ran rheolaeth a chyflwr y tir
  • Dangosodd y prosiect y manteision sydd i’w cael o ail-hadu porfeydd ac fel welwyd cynnyrch parchus ar y ddau fath o wndwn fel y gwelir yn y graff

 

Gellir gweld adroddiad llawn am ganfyddiadau’r prosiect isod.