Prosiectau Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru (EIP Wales)
Nod EIP Wales yw cyflwyno arloesedd a syniadau newydd ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth. Mae’n darparu cyllid o hyd at £40,000 ar gyfer grwpiau o ffermwyr a choedwigwyr sy’n dymuno treialu technegau a thechnolegau arloesol ar lefel ymarfeol o fewn eu busnesau.
Mae’n rhaid i’r prosiect fod yn arloesol ac ymdrin â phroblemau amaethyddol lle bydd y canlyniadau o fudd i’r diwydiant amaeth a choedwigaeth ehangach. Dylai’r prosiect anelu at ychwanegu at ganlyniadau ymchwil cynradd.
Isod gweler prosiectau Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru (EIP) sy'n gysylltiedig â Da Byw Amgen.