Cyflwyno defaid cynffondew i Gymru er mwyn ateb galw’r farchnad yn y DU

Introducing fat tailed sheep to Wales to satisfy UK market demand

Mae defaid cynffon-dew yn frid domestig sy'n adnabyddus am eu pen ôl a’u cynffonau 'brasterog' mawr. Mae'r bridiau hyn o ddefaid i'w cael yn gyffredin mewn ardaloedd sych a diffaith fel y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica, Gogledd India a Chanolbarth Asia. Maent yn enwog am allu ffynnu mewn amgylcheddau garw oherwydd eu gallu i ennill pwysau er gwaethaf diet sy'n wael o ran maeth. Defnyddir y cig a’r braster sydd â blas unigryw o’r defaid hyn mewn coginio Arabaidd traddodiadol ac mae galw mawr amdano gan grwpiau ethnig yma yn y DU. Dywedir bod rhinweddau bwyta cig o ddefaid cynffon-dew yn fwy brau, coch a llawn sudd na'u cefndryd â chynffon denau. Darganfyddir hefyd bod gan eu cig gymhareb asid brasterog Omega-3 i Omega-6 uwch ac yn is mewn braster dirlawn sy'n rhinweddau ffafriol i iechyd pobl.
Y prosiect hwn oedd y cyntaf o’i fath i gyflwyno’r Damara, sef brid o ddefaid cynffon-dew, i farchnad y DU a’r nod oedd i Gymru fod yn arloesi yn natblygiad y brîd hwn o ddefaid. Bu’r prosiect tair blynedd hwn, a oedd yn cynnwys dau ffermwr o Ogledd Cymru, yn ymchwilio i ddichonoldeb magu Damara pur a’u croesfridio â mamogiaid Romney, croesfrid Texel, a chroesfrid Lleyn a monitro pa mor dda y gwnaethant addasu i amodau hinsoddol mwynach a gwlypach Cymru.

 

Canlyniadau'r Prosiect

  • Mewnforiwyd embryonau wedi'u rhewi a semen Damara o frid pur yn llwyddiannus o Awstralia.
  • Yn 2020, ganed chwe oen iach o frid pur yn ogystal â 75 o ŵyn croesfrid, gyda mamogiaid croesfrid Texel, Lleyn a Romney wedi’u ffrwythloni’n artiffisial.
  • Yn 2021 ganwyd 9 oen o frid pur arall, yn ogystal â 74 o ŵyn croesfrid, pob un wedi’u geni heb gymorth.
  • Addasodd y Damara pur yn dda i amodau mwynach a gwlypach Cymru, fodd bynnag tyfodd yn arafach o'i gymharu â'r ŵyn Texel croes a reolwyd yn yr un modd, gan bori'r un borfa.
  • Ar ôl y rhaglen fridio lwyddiannus, gofynnodd y ddau ffermwr am adborth ar y cig oen gan sawl cogydd amlwg o Gymru a ganmolodd ansawdd a blas y cig, ac un ohonynt oedd Gareth Ward o fwyty dwy seren Michelin Ynyshir, Powys.
  • Arweiniodd hyn at lansio brand 'Damara Môn' a werthodd ei focs cig cyntaf ym mis Medi 2022 ar-lein.