Berwyn, Hedydd & Gruff Lloyd
Pencwm, North Pembrokeshire
Ymchwilio i botensial cymysgedd porthiant amrywiol ar gyfer bwydo yn y gaeaf
Mae Pencwm yn cael ei ffermio gan Berwyn a Hedydd Lloyd ynghyd â’u mab Gruff, lle maent yn rhedeg buches gaeedig o 155 o wartheg sugno (Gwartheg Stabilizer yn bennaf gyda rhai croesiadau cyfandirol: gwartheg Byrgorn, Limousin, Salers). Mae’r fferm arfordirol yn bennaf yn seiliedig ar laswellt gyda chylchdro cnydau âr 80ha a ddefnyddir i dyfu Haidd, Cêl a Rêp Porthiant.
Ar hyn o bryd, mae’r fferm yn gweithredu system bîff effeithlon sy’n ffynnu ar borthiant a chnydau a dyfir gartref gyda’r stoc yn aros y tu allan am bob wythnos o’r flwyddyn ond am chwe wythnos; mae’r buchod yn cael eu cadw allan dros y gaeaf o fis Tachwedd nes iddynt gael eu cadw dan do ddiwedd Ionawr cyn lloia. Mae pob llo yn cael ei besgi ar borthiant a haidd cartref, ac fel arfer maent yn cael eu gwerthu rhwng 13 - 15 mis.
Dros y blynyddoedd, maent wedi arbrofi gyda nifer o opsiynau bwydo dros y gaeaf megis Betys Porthiant a Chêl. Mewn rhai achosion, gall pori bresych gaeaf ungnwd gael effaith ar iechyd y pridd o ganlyniad i adael y pridd yn foel ar ôl pori; mae hyn yn cynyddu'r risg o ddŵr ffo a thrwytholchi.
Felly, mae’r teulu bellach yn dymuno ymchwilio i ddull gweddol newydd o fwydo yn y gaeaf a fydd yn rhoi mwy o ystyriaeth i iechyd y pridd, bioamrywiaeth, lles anifeiliaid a sefydlogrwydd economaidd. Er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn, bydd y prosiect yn ceisio ymchwilio i botensial cymysgedd porthiant amrywiol fel dull newydd o gylchdroi bwydo yn y gaeaf a gwella iechyd y pridd.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
defnyddio adnoddau’n effeithiol
ecosystemau cydnerth