30 Medi 2020

 

Mae Richard Isaac yn ffermwr bîff a defaid profiadol iawn ac mae ei fferm 600 erw ger Ynys-y-bwl yn ne-ddwyrain Cymru wedi bod yn ei deulu ers tair cenhedlaeth. Mae Richard hefyd yn fentor Cyswllt Ffermio gyda phrofiad ymarferol o sawl agwedd ar redeg fferm fynydd ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn defnyddio dŵr daear yn effeithiol, rheoli glaswelltir ac egni adnewyddadwy. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi datblygu’r busnes teuluol i greu fferm 600 erw, lle mae’n ffermio mewn partneriaeth gyda’i ddau fab. Mae gan y teulu tua 50 o wartheg sugno duon Cymreig a diadell o tua 1,800 o famogiaid mynydd De Cymru a mamogiaid Aberfield croes yn bennaf. 

Ar hyn o bryd, mae Mr Isaac yn gwella ar ôl torri tair asen mewn damwain yn gysylltiedig â heffer ar y fferm. 

“Mae hyn yn dangos, does dim ots faint o brofiad sydd gennych chi, dydych chi byth yn gwybod pryd gall yr annisgwyl ddigwydd, yn enwedig os ydych chi’n gweithio gydag anifeiliaid mawr,” meddai Mr. Isaac. 

“Rydw i bob amser yn ceisio dilyn arferion da ym mhob maes ar y fferm, ond wrth edrych yn ôl, fe ddylwn i fod wedi sylweddoli fy mod wedi rhoi fy hun mewn sefyllfa beryglus wrth droi fy nghefn ar anifail mawr oedd mor agos ataf, hyd yn oed am hanner eiliad.”  

Dywedodd Mr Isaac, cyn-ddarlithydd mewn coleg amaethyddol, ei fod bob amser yn rhoi lle blaenllaw i ddiogelwch ar y fferm, ond ar yr achlysur hwn, cafodd sioc pan benderfynodd anifail, sydd fel arfer yn ddof, nad oedd am ddilyn gweddill y fuches, wrth iddo ef a’i fab symud y gwartheg o’r sied tuag at y craets gwartheg yn barod ar gyfer cynnal profion TB. 

“Roedden ni’n gweithio y drws nesaf i gât fawr, fetal, drom oedd yn cadw’r anifeiliaid i mewn, ond ar yr union eiliad pan wnes i droi fy nghefn i fynd drwy’r gât, aeth un heffer sydd fel arfer yn dawel, i banig a phenderfynu gwthio ei phen o dan y gât er mwyn ceisio mynd y ffordd gyntaf ac ymuno â’r lleill.”

Cafodd y gât ei gwthio ar agor yn gyflym yn erbyn Mr Isaac, gan ei daflu i’r llawr ar ei wyneb.  Roedd ei fab wrth law a llwyddodd i’w helpu i godi ar ei draed. Fodd bynnag, yn fuan wedyn roedd yn cael trafferth symud ac roedd yn dal i fod mewn llawer o boen. Ar ôl ymweld ag uned pelydr-X yr ysbyty lleol gwelwyd ei fod wedi torri tair asen. Bron i dri mis yn ddiweddarach, dydy Mr Isaac dal ddim wedi gwella’n llwyr, ond mae’n sylweddoli iddo gael dihangfa lwcus iawn. 

“Gallai’r ddamwain fod wedi bod yn llawer gwaeth, gallwn i fod wedi colli’r gallu i weithio’n gyfan gwbl, ond rydw i’n hyderus y bydda i’n holliach ymhen amser.”

Mae Richard yn gymeriad adnabyddus yn y byd ffermio: mae’n gyn-gadeirydd y Bwrdd Hyfforddi Amaethyddol lleol ac NFU Cymru Sir Forgannwg, ac ef yw cynrychiolydd presennol Sir Forgannwg ar gyngor NFU Cymru. Mae ei ddamwain wedi ei atgoffa o bwysigrwydd lleihau’r risgiau o ddamweiniau fferm drwy gymryd yr holl ragofalon posibl, ac mae’n awyddus i rybuddio pobl eraill am y peryglon.  

“Ar ôl y profiad personol hwn, fy nghyngor i yw pwyllwch, meddyliwch, a pheidiwch byth â rhuthro wrth wneud unrhyw dasgau.

“Dylen ni i gyd gynllunio popeth rydyn ni’n ei wneud ymlaen llaw, gan sicrhau bod gennym ni’r systemau neu’r offer cywir yn eu lle i leihau’r perygl o ddamweiniau, a bod ar flaenau’n traed bob amser a pheidio byth â rhuthro.”

Mae cyngor manwl ar drin da byw ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yma. Gallwch hefyd lawrlwytho llyfryn defnyddiol yr HSE ‘Sut olwg sydd ar fferm dda’ o wefan Cyswllt Ffermio yma i gael cyngor manwl ar sut i drin anifeiliaid mawr ac agweddau eraill ar ddiogelwch y fferm.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites